Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

" WELSH NATIONAL FESTIVAL."

News
Cite
Share

WELSH NATIONAL FESTIVAL." Pa sefydliad, neu gymdeithas, neu fudiad ;a adnabyddir wrth yr enw uchod ? Pender- fynu hyn o fater fu gwaith yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mercher diweddaf. Y rheswm am hyn ydoedd fod rhyw offeiriad wedi gadael y swm o bum' cant o bunnau at y fath sefydliad yn ei ewyllys, ac nis gwyddai yr ymddiriedolwyr i bwy oedd yr arian i fyned. Ficer yn Nghaerbaddon oedd y Parch. J. J. S. Bird, yr hwn a wnaeth y fath gy- munrodd. Mae'n amlwg nas gwyddai ond ychydig am Gymru a'i hanes, onide buasai wedi rhoddi mwy o fanylion. Pan ddeall- wyd fod y fath rodd wedi ei gwneud, cymerodd Cymdeithas yr Eisteddfod yn ganiataol mai iddi hi yr oedd y ficer par- "Chus wedi bwriadu y fath waddol. O'r ochr arall yr oedd Pwyllgor yr Wyl Genedl- .aethol, a gynhelir yn flynyddol ar Ddydd Gwyl Dewi yn Sant Paul, yn hawlio mai hwynthwy oedd ym meddwl y gwr parchus goan fsyn rhannu ei eiddo. Yr oedd rhai man Gymdeithasau yma ac acw ar hyd Cymru yn dal mai hwythau ddylasent gael y pres, fel mai gwaith peryglus fuasai i'r ymddir- iedolwyr dalu y swm heb gael barn y Llys ar yr anhawster. Am hynny buwyd yn dadleu yr achos yn yr Uchel Lys ddydd Mercher. Y ddau hawlydd, wnaethant osod eu hachos, oedd "Cymdeithas yr Eisteddfod a pwyllgor Gwyl Sant Paul. Cynrychiolid y blaenaf gan Mr. J. T. Lewis, y cyfreithiwr o Chancery Lane, yr Jiwn a weithredai ar gais Mr. Vincent Evans, ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod; tra y gweithredai Mr. J. Mason Williams ar ran pwyllgor yr Eglwyswyr. Wedi hir ddadleu a gosod y naill achos fel y Hall yn glir ger bron, dywedodd y Barnwr nas gallai gredu fod yr un dyn mor :anwybodus nas gwyddai rywbeth am Eis- teddfod y Cymry, ac oherwydd hynny ni fyddai yn debyg o wneud yr un cymunrodd iddi heb enwi yn neillduol mai i'r Eis- teddfod" y bwriadai i'r arian fyned. O'r ochr arall, tra mai National Welsh Festival" y gelwid y cynulliad ar Ddydd Owyl Dewi yn Sant Paul yr oedd ef o'r farn mai at y mudiad hwnnw y bwriadai'r gwr parchedig y rhodd, ac yr oedd yn rhoddi ei ddyfarniad o blaid yr olaf. Ar yr un pryd, gan fod y cyfan wedi ei wneud mor aneglur rhaid oedd i'r costau hefyd ddod o'r ystad. Felly caiff pwyllgor Gwyl Dewi a gyn- halia y cyfarfod yn Sant Paul y swm o £ 500 yn waddol at y mudiad, ac ni fydd angen bellach iddynt fod mewn pryder am bres i gario'r gwaith ymlaen y naill flwyddyn ar ol J llall.

PULPUD YR WYTHNOS.

PUBLISHERS' NOTE.

Advertising

Advertising