Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMRAEG Y PULPUD.

NODION EISTEDDFODOL.

News
Cite
Share

NODION EISTEDDFODOL. Eisteddfod 1907. Yn Abertawe, fel y gwyddis y cynhelir Gwyl Fawr y genedl eleni, ac mie argoalion y bydd yn fawr mewn amryw gyfeiriad- au hefyd. Fel pob Eisteddfod a gynhelir yn y Deheubarth disgwylir i'r adran gerddorol greu yr atyniadau pennaf, a sonir eisoes fod nifer o gorau—bach a mawr-i ymddangos yn y gwahanol gystadleuaethau. Mae'r adran lenyddol wedi troi yn siomiant o ran nifer y cystadleuwyr. Beth sydd i gyfrif am hyn nis gwyddom. Yr oedd testynau tra thariawiadol wedi eu dewis ac yn sicr ni ddylai y cystadleuwyr fod mor ychydig. Mae pob pwnc oedd yn hawlio llafur ac ymchwil wedi ei adael yn llonydd gan y cystadleuydd cyffredin, tra y ceir rhyw wyth neu ragor yn ddigon hyf i ganu ar destynau y Gadair a'r Goron. Ceir gweled a oes gwaith anfarwol" i wneud ei ymddangos- iad ynglyn a'r wyl hon. Rhaglen 1908. Mae pobl Llangollen eisoes wedi cyhoeddi eu rhestr testynau i'r Eisteddfod a gynhelir yno ym Medi 1908. Dyma'r gyntaf i ym- weled a'r lie er '58, pryd yr enillodd Ceiriog ar "Myfanwy Fechan" ac Eben Fardd ar yr awdl fawr i Faes Bosworth." Am y ddau gyrinyrch llenyddol hyn-heb son am ereill-mae Eisteddfod Llangollen '58 wedi hen gyfiawnhau ei bodolaeth. Ond a wna Eisteddfod 1908 anfarwoli ei hun drwy gyffelyb gynnyrch ? Amser yn unig a ddengys, ond gellir dyweyd fod digon o le i wneud hyn, a barnu yn ol rhestr y testynau. Rhoddir X,60 yn wobr am y casg- liad goreu o weithiau barddonol sydd eto heb eu cyhoeddi, a 125 am Draethawd neu waith gwreiddiol o werth parhaol i lenydd- iaeth Cymru. Dau o wroniaid y genedl yw testynau mawr y beirdd. Rhoddir y gadair am awdl ar Ceiriog," a'r goron am brydd- est ar Owen Glyndwr." Am Hanes Sir Ddinbych cynygir gwobr o X,50, a rhoddir deg gini yr un am tua naw o destynau rhyddiaethol ereill. Mae yma ddigon o amrywiaeth yn yr oil i gyfarfod a phob dos- barth o lenorion a beirdd, ac yn sicr dylai gwyl 1908 fod yn dra thoreithog yn yr adran hon. Gwyr y Gan. Gan fod argoelion y daw niter o gorau Seisnig i Wyl Llangollen mae'r pwyllgor wedi trefnu rhaglen atyniadol yn yr adran yma hefyd. Swm y brif wobr yw £150, ac o'r tri darn sydd i'w canu da gennym weled fod dau o honynt yn weithiau awdwyr Cymreig. Dyna fel y dylasai pethau fod bob amser. Cynygir £ 50 i'r ail gyntadleu- aeth gorawl, yn ogystal a swm gyffeIyb. i'r Cor Meibion, fel, rhwng pob peth a'u gilydd, dylai'r wyl hon fod yn hynod o Iwyddianus ac enillfawr. Mae'r rhaglen yn llawer rhy faith i wneud sylw ar y man destynau, ond gellir cael copi cyflawn o'r gwaith ond anfon saith geiniog i'r cyhoeddwyr, Mri. Evans, Sons and Foulkes, Brython office, Liverpool.

[No title]

A BYD Y GAN.