Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMRAEG Y PULPUD.

News
Cite
Share

CYMRAEG Y PULPUD. Siarad am roddi ei lie priodol i'r iaith Gymraeg mae pob Cenedlaetholwr y dyddiau hyn. Mae ein harweinwyr yn yr ysgolion dyddiol yn dechreu dihuno i'r pwysigrwydd o ddysgu'r iaith i'r plant ym mlynyddoedd -eyntaf eu hefrydiaeth yn liytrach na gadael i hynny gael ei gyflawni ar ol iddynt fyned i'r colegau neu'r ysgolion uwchraddol. Yn ein hathrofeydd diwinyddol rhoddir ttiwy o sylw i'r Gymraeg yn awr nag a wneid rhyw ugain mlynedd yn ol, er fod lie mawr i wella eto yn hyn o fater. Mae'r frydydd diwinyddol yn cael ei gyfyngu bron yn hollol i ddarlithiau Seisnig ar y Beibl a'i esponiad, tra mae'r Gymraeg yn -cael ei chyfyngu fel pwnc llenyddol yn unig. Y canlyniad yw fod nifer fawr o'r pregeth- wyr ieuanc, a droi'r allan heddyw o'n colegau, wedi ei harfer i siarad a meddwl am bync- iau diwinyddol yn Saesneg, a phan y ceis- iant egluro eu hunain ger bron cynulleidfa maent yn syrthio yn ol i hea arferion y ..coleg gan ddefnyddio iaith sathredig ac anystwyth—iaith y gwyddant yn dda nas caniateid ei harfer mewn dosbarth Oymraeg yn y coleg. Mae dau neu dri o wyr mawr" y pulpud y dyddiau hyn yn barod iawn i arfer geiriau sathredig a brawddegau Seisnig er egluro eu cenhadaeth, ond llwydd- ant yn hytrach drwy hynny i greu atgasedd .y gwir Gymro at eu hiaith fratiog, na "gyrru'r hoel adref" fel yr amcenid ,ganddynt. Y dydd o'r blaen clywsom weinidog ieuanc gyda'r Methodistiaid yn dyfynu o weithiau awduron tramorol fel hyn, "Fely canodd y bardd Eidalaidd, &c. ac yna yn rhoi'r dyfyniad yn Saesneg, "ac yn ol fel y dywedai Goethe," ac eto yn rhoi'r cyfieithiad Saesneg o'r darn. Os ei droi o gwbl o'r iaith wreiddiol paham na roddid y dyfyniad mewn gwisg Gymraeg? Rhoddir engraifft nodedig gan ohebydd yn y Goleuad am yr wythnos ddiweddaf o Gymraeg bratiog yn y pulpud. Dyma fel y -dywed Y Sabboth diweddaf yr oeddwn yn ,gwrandaw pregeth yn un o'r trefi mwyaf Cymreig yng Nghymru. A rhywbryd tua chanol y bregeth tarawyd fi gan amlder y geiriau Saesneg ddefnyddid gan y pregeth- wr, ac o gywreinrwydd ysgrifenais hwynt i lawr. Nid wyf yn honni fy mod wedi llwyddo i gymeryd nodiad o'r cwbl, ond mae yma restr dda. Dynoda y ffigyrau rhwng -cromfachau y nifer o weithiau y defnydd- iwyd y gair sydd o'i flaen: Curio, mendio (14); Expulsive power, power, rhwbio, treio (3) permanence, leicio (4); tracio (2) heredity (2); inducement, pathology, diag- nosio, diagnosis (4) wrong, problem, trustio, nipio, handlio, clashio, arrivio, watch-maker, safe, specialist, architect (2); buildio, building, rubbish (5); profession, grip, symptoms (5) process (6) healing power, healio, readjustment (5); adjustio (4) internal organs (2); chronometer (4); motions, charter, tunio, "the adjustment of -the internal organs to the external surround- ings." Tra yn caniatau fod genym gystal hawl i rai o'r geiriau uchod a'r Saeson am mai geiriau ydynt wedi eu benthyca o'r ieithoedd clasurol, ar yr un pryd methwn yn lan a gweled p'am y mae dyn sydd wedi bod yn pregethu Cymraeg am oddeutu 30 mlynedd yn gwneud defnydd o eiriau Seisnig os gall gael gair Cymraeg i ateb yr pwrpas. Mae yn profi un o ddau beth os nad y ddau (1) iaith garpiog a salw, neu <2) ymgais at foddio chwaeth rhyw nifer o'n cynulleidfaoedd a ystyrient eu hunain yn rhy falch i arddel the vulgar Welsh tongue." Gellid rhoddi llawer o engreifftiau cyffelyb o bulpud Cymreig y ddinas yma yn enwedig pan. fo rhai o ieuenctyd y wlad ar ymweliad a'r He, ac yn lied awyddus i wneud stroke yn y pulpud, fel y dywedir. Ond mae'n bryd i ni gael rhywbeth gwell na hyn o'r fath le mor bwysig. O'r pulpud disgwylir cael yr arweiniad priodol mewn purdeb iaith, ac os na wna'r pulpud ei hun ym- drech arbennig i gadw'r salon i fynu ofer fydd ymdrechion y rhai a lafuriant mor galed dros gadwraeth a meithriniaeth y Gymraeg ar yr aelwyd, ac yn yr ysgolion dyddiol.

NODION EISTEDDFODOL.

[No title]

A BYD Y GAN.