Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909.

[No title]

A BYD Y GAN.

SISWRN Y GOLYGYDD.

News
Cite
Share

SISWRN Y GOLYGYDD. Adwaenir y Golygydd Fel brenin papur newydd, Neu ddyn yn meddu siswrn mawr I dori lawr adenydd. Er bod yn wir ddefnyddiol Ar feusydd i'r llenyddol. Ni char awenydd ar ei daith Waith siswrn golygyddol. Byw ar ysgrifau hirion A wna y dur-was eo'n Myn damaid hael o fwyd y wasg A dyna'i dysg yn gyson. Ysgara'r siswrn miniog Y corph a'r enaid bywiog A theflir popeth ond y pen I'n fasged wen, newynog. Mae'r siswrn yn un beiddgar Ym mysg barddoniaeth lachar, Er dangos blodau heirdd di-ail, Fe dyr y dail anhygar. Ni gawn y gwych Olygydd Yn hogi'r siswrn beunydd Tra ar ei sedd, ei unig waith Yw difa gwaith anghelfydd. Myn buro yn y purdan Yr holl gynyrchion egwan A cheidw'r oil o fewn ei lys Am fis cyn dyfod allan. Mae anferth geg y fasged 0 hyd yn llawn agored, Er taflu iddi ysgub gron- Arwyddair hon yw Tyred." Ni wel yr un gohebydd Ei dyfnder maith dihysbydd Aeth myrdd o delynegion man 0 honi'n dan Golygydd. Harrow. LLINOS WYRE.