Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

URDDAU'R BRENIN.

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. JOHN THOMAS.—Bu bron i ni ysgrifennu Syr John Thomas. Dyna wnaem pe wedi gwrando ar y newyddiaduron Llundeinig ddiwedd yr wythnos ddiweddaf pan ddaeth rhestr o urddau y Brenin allan, a dyna ddylasem fod yn abl i'w wneud hefyd pe bae'r gwr clodwiw hwn wedi cael ei haedd- iant. Mae'r hen Delynor Oymreig ar derfyn ei oes hirfaith, a 'does neb yn fwy teilwng o'r fath anrhydedd ag efe. Gobeithio cawn weled y cywiriad wedi ei wneud y tro nesaf, ac y rhoddir ei enw yn uchel ar y rhestr nesaf o bersonau sydd i dderbyn y teitlau anrhydeddus a phoblogaidd hyn! PENCERDD GWALIA.-Ganwyd John Thomas —neu a rhoddi iddo ei enw Cymreig, Pencerdd Gwalia "—ym Mhenybont, Mor- ganwg, Ddydd Gwyl Dewi, 1826. Felly gwelir ei fod yn 81 mlwydd oed. Mae ei enw wedi bod droion ar flaenau tafod pobl pan y sonid am anrhydeddau Breninol, ond hyd yn awr nid ydynt wedi syrthio i'w ran. Ac er na chafodd y teitl y tro hwn deallwn ei fod wedi cael, yn ychwanegol at y siom- iant, y drafferth o ateb cannoedd o lythyrau llongyfarchiadol, i ddweyd mai nid efe oedd y gwr, ac mae rhyw John Thomas arall oedd wedi ei ddewis. Dysgodd John Thomas chwareu y delyn pan yn fachgen, a phrynnodd ei dad iddo y delyn a berthynai gynt i'r hen gerddor Thomas Evans, Newton Nottage. Pan yn lleg oed enillodd wobr o Delyn am chwareu yn Eisteddfod y Fenni. Yn 1840 daeth i'r R.A.M. Gall y Pencerdd ymfalchio yn y ffaith ddarfod iddo chwareu yn Chwareudy ei Mawrhydi (Victoria), pan yr ydoedd yr enwog Balfe yn arweinydd a Jenny Lind ar ei goreu Nid oes angen i ni olrhain ei hanes yn fanwl yn bresennol, ond dylid crybwyll ddarfod iddo yn 1862 gyhoeddi casgliad pwysig o Alawon Cymreig, mewn dwy gyfrol hardd. Yn 1870 daeth y drydedd gyfrol allan, ac yn 1874 y bedwaredd gyfrol. Y mae ein cenedl o dan ddyled fawr i Mr. Thomas am ei wasanaeth iddi gyda chyhoedd- iad y gwaith hwn-er na wyr y genhedlaeth bresennol fawr am dano. Heblaw ei weithiau i'r Delyn, y mae wedi cyhoeddi'r Gantawd "Llewelyn" (1863); "The Bride of Neath Valley" (Cantawd, 1866). Hefyd amryw fan ddarnau. Fel Telynor i'r Brenin, ac Athraw, y mae yn enwog, a bydd effaith ei waith, a'i ddyl- anwad, yn sicr o aros yn hir. GWYL GERDDOROL GLOUCESTER.-Cynhelir hon ar yr 8fed, lOfed, lleg, 12fed, a'r 13eg o Fedi. Yr arweinydd fydd Dr. A. Herbert Brewer. Ymlith yr unawdwyr sylwn nad oes ond un Cymro, sef Mr. Ffrangcon Davies. Y mae ef yn dal o hyd yn rheng y pigion o Gerddorion ein Teyrnas. Cenir yno waith newydd, sef Christ in the Wilderness (Bantock); hefyd The Love that casteth out fear (Hubert Parry); Emmaus (Dr. Brewer) Messiah," "Elijah," "Hymn of Praise," The Apostles" a'r "Kingdom" (y ddau waith olaf o'r eiddo Elgar). GWYL Y PLANT.—Cafwyd gwyl ragorol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y dydd o'r blaen. Cydgyfarfu 1800 o blant yno ac yr oedd y darnau a genid i ddau lais, yn benaf. Cyn- orthwyid gan yr Organ, hefyd band y Volun- teers o Ddinbych. Carasem yn fawr glywed y canu yno. Tybiwn nad oes canu mor swynol a'r eiddo y plant. Y mae Gwyl Gerddorol hefyd newydd ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor, o dan arweiniad y gwr galluog a phrofiadol-Mr. John Williams, Caernarvon. Wrth yr organ yr ydoedd Dr. Roland Rogers. TEIFY DAVIES.-Bydd ei Recital hi yn y Steinway Hall, nos Lun nesaf, am wyth o'r gloch. Gan y disgwyliwn y bydd bron yr oil o ddarllenwyr y CELT yn bresennol, cyng- horwn i bawb fod yn brydlon, gan nad yw yr adeilad yn fawr. Miss AMY EVANs.-Canodd y gantores hon yr unawd Come unto Me" (o'r "Messiah"), yn yr oedfa yng Nghapel Charing Cross, nos Sul diweddaf. Yr oedd yn bur effeithiol. Da gennym weled yr unawd gysegredig yn cael lie mor fynych yn y gwasanaeth crefyddol. Y CERDDOR."—YnrhifynGorphennaf ceir Anthem Gynulleidfaol gan Mr. D. Thomas, Pontardulais. Y mae iddi dri rhaniad, y ddau gyntaf yn gydmarol rwydd, ond yr olaf gryn dipyn yn rhy anhawdd i bwrpas y gynulleidfa. Tybed fod cyfangorff o bobl allai ganu y darn hwn drwyddo heb wall ?— a llawer ereill o ddarnau sydd yn dwyn yr enw Anthem Gynulleidfaol" Y mae rhai mannau yn y cyfansoddiad presennol yn bur afaelgar, a gwnai ddarn cystadleuol da. Y mae ysgrifau yn y rhifyn hwn y cawn gyfeirio attynt yn ein nesaf. Digon ydyw dyfynu yma o lythyr Mr. Spencer Curwen i'r Cerddor," ym mha un y dywed It does me good to catch the spirit of idealism and the deep love for music which the Welsh people show. I don't flatter them. I see that the competition system in some ways hinders their progress." Cytunwn ag ef yn ei eiriau olaf, ond llawen gennym ei fod yn tystiolaethu mor groyw am "ysbryd delfrydol ein cenedl. MADAME ALICE LASSEN. — This Danish singer, who is known to us, has come to