Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CLIRIO'R FFORDD.

[No title]

YN OL O'R 'MERICA.

News
Cite
Share

YN OL O'R 'MERICA. DYCHWELIAD MISS ELLEN WILLIAMS, CASTLE STREET. Rwyn mynd am dri mis o wyliau a seibiant," ebe Miss Williams wrthym pan oedd yn ffarwelio a Llundain i fyned ar ymweliad a'i pherthynasau yn America ond fe gymerodd bedair blynedd i'r "trimis" hwnnw ddod i ben oherwydd yr wythnos hon y cawsom y boddhad o groesawu yr Efengyles hon yn ol i blith ei chydnabod yn Llundain ar ol ysbaid hir o waith a phrofiad ymhlith ein cydgenedl o'r tu hwnt i'r Werydd. Edrychai mor gartrefol ag erioed yng nghapel Castle Street y Sul diweddaf, ac nis gallai'r anghyfarwydd gredu ei bod wedi bod ymaith cyhyd o amser. Roedd yr adeilad yn llawn o ieuenctyd y lie, megys pe i'w chroesawu yn ol, a'r lie wedi ei addurno yn hardd, oherwydd onid "Sul y blodau ydoedd yn Castle Street ? Roedd Ellen yno yng ngwasanaeth y boreu. Rhoddai anerchiad i aelodau'r Christian Endeavour am ddeg o'r gloch. Yna yn odfa'r prydnawn, pan oedd Mr. Lloyd-George, Llywydd y Bwrdd Masnach, i siarad, galwyd ar Miss Williams i ddech- reu'r cwrdd," a gwnaeth hynny gydag enneiniad, a chyn nos roedd hithau yn teimlo ei bod megys cynt yn un o'r ffydd- loniaid hapus, heb fod yn mhellach na thaith i Gymru. Ond mae y pedair blynedd hyn wedi bod yn bedair blynedd o brofiad anghyd- marol i Miss Williams. Bu ar ymweliad a phob rhan o'r Unol Dalaethau lie mae Cymry'n cartrefu, a chafodd fynediad helaeth" i mewn i brif leoedd y wlad. Does yr un gweinidog wedi trafaelio mwy na Miss Williams, na neb wedi llwyddo i ennill serch y bobl yno gymaint a hi, a chydag anhawster mawr y llwyddodd i gael dod yn ol i'w hen wlad gan gymaint y taer- ineb ar iddi sefydlu yn y wlad honno. Wel, fath groesaw gawsoch gan y Cymry yn yr 'Merica ? meddwn wrthi. "0, rhagorol, yn wir," meddai. Roedd- ent mor gartrefol a'r hen Gymry gwledig, ac mor awyddus yn awr i glywed yr Hen Hanes ag erioed." Ydi'r eglwysi Cymreig yno yn llwyddo ? Wel, ydynt i raddau helaeth iawn. Yno, fel yn y wlad hon, mae'r to ieuanc yn colli'r Gymraeg o ddiffyg arfer, ond fe wneir pob trefniadau ar eu cyfer. Yr oedd galwad arnaf i siarad yn Saesneg ac yn Gymraeg iddynt, a gwyddoch mai'r Gymraeg oedd fy hoff iaith i bob amser. Er hynny, yn y 'Merica doedd dim sylw yn cael ei dalu i'r Welsh accent" yma-y sonir am dani mor watwarus genym ni,—os digwyddai i mi siarad yn Saesneg, a phaham y rhaid i ni Gymry gyfeirio at hynny byth a hefyd? Mae rhai pobl megys am wneud ymddiheurad dros siarad a thine y Gymraeg yn eu geiriau, tra y bydd yr un pobl yn awyddus am glod- fori Ffrancwr neu Ysgotyn os bydd ef yn cadw ei nodwedd cenedlaethol. Gwlad y cenhedloedd yw'r Merica. Daw pob iaith a chenedl yno, felly edrychir ar y cyfan gydag ysbryd mwy eangfrydig nag yn y wlad hon, a'r canlyniad oedd i'm hanerchiadau Seisnig gael cystal derbyniad a'r rhai Cymraeg." A gaed peth o ddylanwad y Diwygiad yno? Do, caed ymweliadau rhyfedd a nerthol yno fel yng Nghymru. Am fisoedd yr oeddwn yn cael miloedd o bobl i ddod i'r capelau Cymreig, a chedwid y cyfarfodydd gydag hwyl anghyffredin, ac mae'r dylan- wad yn aros hyd heddyw. Rywfodd neu gilydd rwyf yn credu fod yr Americanwr yn fwy ysbrydol ei natur na'r genedl Seisnig, ddim mor sur ac hunanol, eithr yn tebyga fwy at yr anian Gymreig a Cheltaidd." Wel beth am y dyfodol, Miss Williams, a gawn ni eich clywed yn ami yn Llundain o ?> yma ? Y peth cyntaf sydd gennyf yw gofalu am adferiad fy iechyd. Mae'r selni di- weddar wedi gwanhau fy nghyfansoddiad. Doedd hyn ond canlyniad naturiol i'r mynd' parhaus a'r teithio ym mhob tywydd, a minnau heb fod yn gynefin iawn a hynny. Yr oeddwn dan addewid i fy meddyg yn Johnstown na siaradwn air am rai wythnosau, ond wedi'r fordaith bleserus a gaed tros y don yn ol, ac ychydig seibiant eto yn yr Hen wlad, gobeithiaf fod mor hoyw a pharod i'r gwaith ag erioed. CYFRES 0 YSGRIFAU. Bydd yn dda gan ein darllenwyr yn ddiau glywed fod Miss Williams wedi addaw cyfres o lithiau i'r CELT yn ystod yr wythnosau dyfodol, yn ymdrin a'i gwaith dyddorol ymhlith Cymry'r America.

Y CYMMRODORION.