Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFARFOD MISOL M.C. LLUNDAIN.

News
Cite
Share

CYFARFOD MISOL M.C. LLUNDAIN. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol Swyddogion y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain, yng nghapel Wilton Square, nos Fercher, dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Dechreuwyd gan y Parch. J. Thickens, Willesden Green. Ar ol darllen a chadarnhau y cofnodion, darllenodd yr Ysgrifennydd (y Parch. F. Knoyle, B.A.) lythyr oddiwrth Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol (y Parch. J. M. Saunders) yn hysbysu y Cyfarfod Misol o benderfyniad y Gymanfa ynglyn a'r grant o Y.,100 am y flwyddyn bresennol, tuagat gynnal yr Achosion Gweiniaid. Rhoddwyd adroddiad o weithrediadau y Gymanfa yn Llanelly gan Mr. W. Evans, Wilton Square. Derbyniwyd adroddiadau y cenhadon fu yn Hammersmith, Wood Green, a Walthamstow, a phenderfynwyd fod y Parch. J. E. Davies, M.A., i draddodi cyngor y Cyfarfod Misol iddynt.—Cafwyd adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion, yn yr hwn yr awgrym- wyd rhoddi grants ychwanegol i chwech o'r eglwysi, ar amodau neillduol; hefyd fod y Parch. J. Thickens a Mri. W. W. Griffith a G. W. Jones i wneud ymchwiliad i gysyllt- iadau a hanes yr eglwys yn Tottenham. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol. Hysbysodd Mr. D. R. Hughes y bwriedir dadorchuddio cofgolofn y Parch. James Hughes, yn Bunhill Fields, prydnawn ddydd Mawrth nesaf, am 6.30. Y Parch. J. E. Davies, M.A., gweinidog yr eglwys y bu James Hughes yn gysylltiedig a hi am gynnifer o flynyddoedd, a ddadorchiddia'r golofn. Yn ddilynol, cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Jewin Newydd, am 7.30. Dis- gwylir y cymerir rhan yn y gweithrediadau gan y Parchn. J. Williams (Brynsiencyn), Elfet Lewis, P. Hughes Griffiths, J. Thickens, ac ereill. Rhoddir gwahoddiad cynnes Ii Gymry Llundain i ddod i'r cyfarfodydd hyn,. er coffa am un wnaeth gymaint i grefydci ymysg Cymry y ddinas. Diweddwyd gan Mr. Williams (Argyll, Street), Charing Cross. Cynhelir y cyfarfod Misol nesaf yn Jewin Newydd, Gorphennaf 24ain. Yn ddilynol, cafwyd Seiat Gyffredinol, y Parch. P. Hughes Griffiths yn arwain. Siaradwyd ar y mater penodedig, Eiriolaeth, Crist," gan y Parch. F. Knoyle, B.A., Parch. J. Thickens, Mr. John Thomas, ac ereill.

Advertising

Am Gymry Llundain.