Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) President-The Right Hon. LORD RENDEL. Prine,ipal-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, XIO, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee XI. Men Students reside in Registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar
ADDEWID MR. LLOYD = GEORGE.
ADDEWID MR. LLOYD = GEORGE. Y mae bwriad y Weinyddiaeth ynglyn a phwnc Dadgysylltiad wedi cael ei egluro yr wythnos hon, mewn llythyr a ysgrifennwyd gan Mr. Lloyd-George at y Parch. Elfed Lewis. Dywed Llywydd y Bwrdd Masnach ei fod ef, yn ogystal a'i gydaelodau yn y Weinyddiaeth, yn bwriadu sicrhau i Fesur Dadgysylltiad fyned trwy Dy'r Cyffredin mor faan ag y caniata gwaith ac amser y Ty hwnnw. Nid eu difrawder sydd yn gyfrifol am nad yw'r mater wedi cael sylw eisoes, ond, gan fod Ty'r Arglwyddi yn sefyll ar ffordd pob symudiad o'r eiddynt, rhaid yw trefnu'r gwaith a'r Mesurau i gyfarfod a'r rhwystr annisgwyliadwy hwn. Os na ellir sierhau lie iddo, cyn y bydd raid apelio at y wlad ar bwnc Ty'r Arglwyddi, yna fe roddir y lie blaenaf i Ddadgysylltiad yn rhaglen y Senedd newydd. Nis gall neb ddisgwyl rhagor na hynyna yn awr. Mae gwaith Ty'r Cyffredin wedi ei barlysu gan hunlle f: yr Arglwyddi, ac ni fyddai ond gwastraif ar amser i wthio mesurau drwy'r Ty Isaf yn unig er mwyn rhoddi cyfle i'r Ty Uchaf eu handwyo neu eu gwrthod. Mae'r frwydr yn sicr o fod yn un eithafol, a goreu po gyntaf y cauir y rhengoedd er ymladd y gadgyrch yn erbyn trahausder Ty'r Arglwyddi. Yr Anibynwyr. Mae ymddygiad Cymanfa'r Anibynwyr yng N ghastellnedd tuag at addewid Mr. Lloyd- George yn eithafol o angha,redig. Bu'r gweinidogion yno yn curo yn arw ar y Llywodraeth, ar y Ddirprwyaeth Eglwysig, ac ar Mr. Lloyd-George ei hun. Aeth Mr. Josiah Thomas, Lerpwl, mor bell a chyhuddo Llywydd y Bwrdd Masnach o geisio ym- yrryd a gwaith Cymanfa'r Anibynwyr. Nis gallai dim fod yn fwy anfoneddigaidd. Ond mae Mr. Thomas megys wedi colli ei ben yn yr ymgyrch presennol. Ychydig wythnosau yn ol yr oedd ef, neu ei is-olygydd yn y Tyst, yn cyhuddo y Methodistiaid o droi'n fradwyr, ac yn gwneud ensyniadau brwnt am arweinwyr y Cyfundeb. Y tro hwnnw seiliai ei gyhuddiadau ar hen chwed- lau, a'r tro hwn eto cyhoeddai ei anathema heb wybod mai ar gais ac mewn ateb i ddau Anibynwr yr ysgrifennodd Mr. Lloyd-George ei lythyr, ac nid gyda'r un bwriad o ddylan- wadu dim ar yr Undeb. Pe na buasai Elfed a Machreth wedi galw ar Mr. Lloyd-George, diau na fuasai'r llythyr byth wedi ei ys- grifennu. Da oedd gennym glywed i Elfed roddi Mr. Thomas yn iawn mewn pryd, eto dengys yr ymfflamychiad sut mae'r Anibyn- wyr yn gwneud eu cwynion heb wybod y ffeithiau, ac heb ystyried y canlyniadau. Gwrthod y Cyngor. Gofyn am undeb wnai Mr. Lloyd-George, ond myn Undeb yr Anibynwyr weithio yn groes i'r cais. Nid ydym yn gwybod beth sydd ganddynt i'w ennill trwy guro a beirniadu y Weinyddiaeth fel hyn. Ofer disgwyl am Ddadgysylltiad oddiwrth y Toriaid eto i gyd chwareu i ddwylaw yr Eglwyswyr wna'r arweinwyr Ymneillduol yng Nghymru wrth feirniadu a chwythu bygythion fel hyn. Ni ddywedant pa fodd i weithredu na pha beth amgenach sydd i'w wneuthur. Gwaeddi yn unig am Ddadgys- ylltiad wnant, ond does yr un o honynt a ddengys Iwybyr goleu i'w sicrhau. Ni ddywedwyd ond ychydig am eiddilwch yr aelodau Cymreig, eto i gyd, os oes rhywrai i'w beio dylid beio y rhai hyn am eu heidd- ilwch yn methu a chytuno ar gynllun priodol sut i weithredu, neu sut i osod achos Cymru yn briodol o flaen y Senedd. Mae ein haelodau heddyw mewn cymaint o amhenderfynolrwydd ag erioed, a bydd yn werth i Undeb yr Anibynwyr i ddechreu ei chenhadaeth trwy gael barn Cymru yn unol ar y pwnc cyn ceisio gwthio y mater ar Weinyddiaeth sydd eisoes ar fin ei llethu gan fesurau anorphenedig.
CRI GWERIN.
CRI GWERIN. GWAGEDD GWLEIDYDDWYR. The first step to nationality is the open and deliberate recognition of it by the People themselves. Once the Irish people declare the disconnection of themselves, their feel- ings, and interests from the men, feelings and interests of England, they are in march for freedom. Ireland must bid all whom it concerns to know that her interests are separate, and her rights peculiar. She must trace her frontier with a firm hand, and that frontier will be respected. Thomas Davis. Hen gyngor gwladweinydd i genedl fechan ormesedig ydoedd, iddi beidio rhoddi ei gobaith yng mgwych-bethau y cenhed- loedd mawrion o'i chylch. Yn ei meirch y gobeithiai Israel cyn dydd ei gwarth bob amser. Y mae cyngor ei bardd i Israel yn werth sylw Cymru heddyw. Ofnwn mai un o beryglon Cymru heddyw ydyw, disgwyl i'w chynrychiolwyr yng nghynghorau yr estron grea ei hoes euraidd ryw fodd neu gilydd-a gwyddom nad ydym bell o'n lie pan yn dweyd nad oes lawer diwrnod hir ddim pellacli o'u meddwl hwy na dyfodol eu gwlad. Buan, buan y lleddir y cenedlgarwr gan y Seneddwr. Ddydd etholiad gellir meddwl fod calon yr ymgeisydd yn gwaedu o gydymdeimlad a'r wlad a'r gwladwyr. Ymddengys fel pe yn foddlon eario croes, boed drymed ag y bo, os bydd gobaith y tyf C> blodau bywyd newydd gylch ei throed ryw- bryd, ond cyn bod awr yng nghyfathrach yr estron, daw posibilrwydd swydd neu ryw orsedd fechan fel hunllef i felldithio ei fywyd, a cha'r groes a'i wlad eu hyrddio i alltudiaeth. Os gwrandewch arno ef, nid bradychu ei wlad wnaeth, ond ehangu wnaeth ei feddwl, a chyn hir cewch ei glywed hyd esgynloriau ei wlad yn pregethu mai "culni meddwl a dyhead" ydyw melldith fwyaf ei wlad. Cymru fy iigwlad Mor aiitl y mae traed y plant fegaist, geraist, anrhydeddaist wedi sarnn yn drwm arnat, a thithau yn dy waed 0 fy ngvslad Afor ami y gwerthwyd di i ddwylan) dy elynion gan dy gyfeillion proffes- edig. Disgwyliaisl fysedd tyner cy blant i drift dy glwyjan, a'th weliau crawnllyd ond cefaist eu bod hwy wedi dy anghojio, ac yn dy ochain clwyfawg, ti glywaist eu crechwen a'u llawen- ydd ddydd eu llwyddiant bradwrus Y mae'n wir fod yna ambell i blaid wleid- yddol yn lew o rydd oddiwrth felldith hunan- les. Dyna'r blaid Wyddelig er engraifft. Rhaid addef eu bod hwy yn rhoddi y He blaenaf i'w gwlad o leiaf, i bob ymddangos- iad, ac eto gall y glust deneu glywed adsain cyhuddo Judas yn eu mysg hwy ambell ddiwrnod. Y maent erbyn hyn yn addef gwirionedd pwysicach hefyd mai ychydig fedrant wneud dros eu gwlad ar eu goreu yng ngynghorau yr estron. Y mae y Sinn Fein yn dweyd mai ofer hollol eu presenoldeb yn Senedd Prydain Fawr, ac mai eu dyledswydd ydyw dychwel adref i fod yn athrawon y werin. NA, NI GMYCIIWYNNODD DIWYGIAD CEXHEDL- AETHOL ERIOED TU FEWN I FURIAU ST. STEPHAN, AC NI CHYGHWYNNA FYTH. Y bobl ddistaw, galed, hunanaberthol,-pobl fel Thomas Davis, Douglas Hyde, Dr. Sigermond—sydd wedi cynhyrchu y diwygiad cenedlaethol yn yr Iwerddon. Gwnaeth Thomas Davis, y Cymro a'r llenor, fwy dros yr Iwerddon na'r holl wleidyddwyr o ddyddiau Cromwell hyd heddyw. Chwilio am aur a pherlau, gorchymyn i Arthur a'i farchogion gysgu, ae anghofio'u deffro wnaeth dewin yn yr hen chwedl Gymreig. Y GWLEIDYDDWR YDYW'R DEWIN HEDDYW, AC Y MAE GORSEDD ARTHUR WEDI EI THRO I YN FAS NAG II DY GANDDO. Y bachgen fychan, wyddai fwy am Iwybrau'r defaid hyd fryniau'r wlad nag am iwybrau diserch anrhydedd a gogoniant, ganodd y glock ddeffro. Bechgyn y werin ledr ddeffro brenin y f uddugoliaeth eto. GWYLLT Y KELT.
Advertising
MISS TEIfY DflVlES' VOCAL RECITAL AT STEIN WAY HALL, JULY 8th, 8 p.m. lit the Piano tfeFF Walter, ftyeytromitz. -n_ Tickets: £ 1 Is. Od., 10s. 6d.f 5s, 2s. 6d., Is., to be obtained Box Office, Steinway Hall; N. V'ert, 6, Cork St.; usual Agents, and of Miss Teify Davies, 11, Gordon St., Gordon Square, W.C.