Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
GORMOD 0 BREGETHWYR.
GORMOD 0 BREGETHWYR. Dydd Gwener, cynlialiwyd cyfarfod blyn- yddol Coleg Diwinyddol y Methodistiaid (Coleg Trefecca) yn Aberystwyth. Yn ei araith agoriadol, diolchodd y Prif- athro Prys yn gynnes iawn i gefnogwyr haelfrydig y Coleg. Yr oedd y flwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiant hollol. Yr oedd yno 31 o fyfyrwyr-deuddeg o honynt yn raddedigion. Derbyniasid cryn nifer o ysgoloriaethau. Rhoddai Mrs. Davies, Plas- dinam, £100 y flwyddyn am bum mlynedd. Rhoddai Mrs. Lloyd Jones, er cof am ei phriod, £10 y flwyddyn at brynu llyfrau i fyfyrwyr wrth adael yr athrofa. Yr oedd y cyhoeddiadau Sabothol yn foddhaol. Yr oedd agos i gant o fyfyrwyr yn paratoi am fyned i'r Coleg. Yr oedd digon o le i rai fedrent wneud lleoedd iddynt eu hunain yn y byd ond os na fedrai y myfyrwyr wneud hynny, byddai'r Cyfundeb mewn trybasdod. Gobeithiai y byddai i'r eglwysi a'r Cyfarfodydd Misol ystyried mai ang- hyfiawnder mawr a'r myfyrwyr eu hunain fyddai gollwng i fewn fwy o fyfyrwyr nag oedd o eglwysi ar eu cyfer. Byddai deg o fyfyrwyr newydd yn flynyddol yn ddigon i gyfarfod a gofynion yr Hen Gorff am rai blynyddau a cwestiwn pwysig oedd, beth i -wneud a'r gweddill ? Yr oedd saith o fyfyrwyr yn ymadael, a phob un wedi derbyn galwad.
CYHOEDDI 'STEDDFOD LLANGOLLEN.
CYHOEDDI 'STEDDFOD LLANGOLLEN. Mae'n hen arfer i orphen pob Eisteddfod Genedlaethol gydag ystorm-rhwng y beirdd neu'r cantorion ond dechreuwyd gwyl fawr Llangollen ddydd Iau diweddaf yng nghanol storm o wynt a gwlaw. Ac er mai "yng ngwyneb haul llygad goleuni" y rhaid dwyn yr holl weithrediadau ymlaen cafodd Dyfed gryn anhawster i gydymifurfio a'r rheol hon eleni. Ar wahan hefyd i anhawsterau y tywydd, rhaid addef nad oedd y dyrfa yn un hawdd ei thrin, a rhaid i bobl Llangollen y tro nesaf, i fod yn llawer mwy trefnus gyda'r holl seremoniau hyn, os am sicrhau llwydd- iant yr Eisteddsod y flwyddyn nesaf. 0 dan gyfarwyddyd Arlunydd Penygarn, codwyd yr Orsedd ar dir Pare Plas Newydd, ac oddiyno caed golygfa ardderchog. Y mae y dyffryn yn llawn o gysylltiadau hanes- yddol ac o brydferthwch naturiol. Yr oedd meini yr Orsedd heb eu naddu, ac ni ddif- Wynwyd hwy gan gun na morthwyl. Diau fod yr Archdderwydd 3m falch o weled y fath lu o feirdd. Gydag ef yr oedd Eifion- ydd (y Cofiadur), Arlunydd Penygarn, "Cadfan, Gwynedd, Gwynfad, Pedrog, Meirig Wyn, Gwilym Caerau, Madryn, Geraint, Grwyddon, Abon, Eilir, Gwilym Ceiriog, Berwyn, Parch. Wynn Evans, Caer; Mr. Lewis Hughes, Amlwch; ac ereill balch o wisgo eu gynau barddol; tra yr oedd Mr. Lloyd, Raggatt, yn ei wisg fel Ofydd, a Dr. Jones, Treffynnon, yn ei wisg golegol. Ym mysg ereill yn bresennol yr oedd Maerod yr Amwythig, Croesoswallt, Gwrecsam, Llan- *yllin ac Aberystwyth. Yr oedd y dref wedi ei haddurno. Godidog oedd yr orymdaith, yn cael ei harwain gan yr ^fr, nifer o rianod tlws mewn gwisgoedd Cymreig, a weuent hosanau tra y cerddent yrn. mlaen. Yr oedd golwg ardderehog ar yr orymdaith, ac nid yn fuan y caiff ei hang- flofio gan Llangollen. Wrth borth yr orsedd yr oedd cor o blant yr ysgolion, o dan arweiniad Mr. W. Pen- cerdd Williams; ac fel y dynesai yr Arch- aderwydd a'i luoedd at y porth, canwyd yn swynol gan y plant. Wedi canu Corn Gwlad, gofyn deirgwaith "A oes heddweh ? offrymwyd Gweddi yr Orsedd. Canwyd gan Ehedydd Alaw, yn cael ei ddilyn ar y delyn. Erbyn hyn, yr oedd y gwlaw yn disgyn yn bistylloedd. Ym mhorth yr Orsedd yr oedd hen fardd yn dal peithynen i fynny. Oeisiai Arlunydd Penygarn ddangos Coelbren y Beirdd" Iolo Morganwg. Ar y Maen Llog, gosodwyd blodau-glymau o feillion gwyllt a gwyfyd. Cafwyd anerchiadau gan yr Archdder- wydd a Syr Marchant Williams. Yna cyf- lwynwyd y Corn Hirlais" gan Miss Barbara Robertson, Plas Newydd tra yr aedd yr Aberthged," neu offi-wm blodau, yn cael ei gyflwyno gan Miss Williams, merch Ab Ithel. Ar ol anerchiadau gan y beirdd cyflwyn- wyd Urddau yr Orsedd i nifer o wyr enwog oedd yn bresennol.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. THE WELSH ACCENT. To the Editor of CYMRO LLUNDAIN A'R CELT." SIR,-In your issue of to-day's date, I read that Mrs. Winton Evans spoke with a Welsh accent." A week or two before her appearance at Cardiff, I was one out of several thousand other people listen- ing to her stylish eloquence in Hyde Park. Writing from a considerable experience of both the educated and uneducated Londoner, I have no hesita- tion in stating that she spoke English as she ought to be spoke," and that her speech was the speech of the day and listened to by the immense crowd with rapt attention and no interruption. For all I know, the penny-a-liner of the South Wales Daily News may be a cockney, but I should be sorry to find Mrs. Winton Evans goin' dahn to Wailes with a cockney accent. A LONDON CYMRO. June 22nd,jl907.
" CURO AR MR. LLOYD-GEORGE."
CURO AR MR. LLOYD-GEORGE." At Olygydd y GYMRO LLUNDAIN A'R CELT. SYR,—Yr wyf yn ysgrifennu atoch o fysg berw chwaer y fam-ddinas fawr. Yr hyn a'm cynhyrfa i'r gorchwyl yw eich erthygl yr wythnos hon, yn dwyn y teitl: "Curo ar Mr. Lloyd-George." Nid yn aml yr anghytunaf a chwi. Mae ton y CELT (hoff gennyf yr hen enw !) mor groyw yn ei wladgarwch, mor rymus yn ei eiriolaeth ar ran iawnderau y genedl, fel mai anhawdd yw peidio cydfyn'd ag ef. Ond yn awr ac yn y man, cyfyd gwahaniaethau hyd yn oed rhwng pobl a gredant yn yr un pethau yn hollol, ac a goledd- ant bron yr un syniadau am naw pwnc o bob deg. Yn y ddadl bresennol ceir engraifft o'r gwirionedd hwn. Tybiwyf eich bod i raddau helaeth, ar y mater o dan sylw, yn cynrychioli barn Cymry Llundain-y Cymry goreu o dan haul (rhai blynyddau yn ol, yr oeddwn yn un ohonynt). Credwyf, i'r un mesur, fy mod innau yn datgan teimladau fy nghydwladwyr yn y ddinas hon wrth fynegi a ganlyn. Yr ydych yn beio ein harweinwyr crefyddol am eu bod "yn curo ar Mr. D. Lloyd-George am nad yw'r Llywodraeth wedi dwyn i fewn Fesur Dadgysylltiad i Gymru." Cyhuddwch hwynt o anheyrngarwch i noddwr caredicaf ein cenedl, ac o anothineb dybryd o safbwynt llesiant eu gwlad. Caniatewch imi ddatgan yn ddibetrus a phendant fy anghytundeb dwfn a chwi. Y mae Mr. Lloyd-George yn ddyn o alluoedd mawr, ac o wladgarwch mwy. Efe, yn ddiameu, yw yr arweinydd mwyaf a'r gwladgarwr heiddgaraf a anfonodd Rhagluniaeth ini er amser Glyndwr. Fel pob gwir Gymro yr wyf yn ei edmygu yn fawr ac yn diolch i'r nefoedd am dano. Ond-ac efe ei hun fyddai'r cyntaf i gydsynio a mi yn hyn o beth-y mae Cymru yn fwy na Mr. Lloyd-George. Daw amser yn hanes pob mudiad pan mae rhaid dewis rhwng dyn ac egwyddor, rhwng cariad at arwyr a theyrngarwch i rhyw feddylddrych sylfaenol y bydd cenedl gyfan yn credu ac yn ymhyfrydu ynddo. Felly gyda Dad- gysylltiad Cododd Mr. Lloyd-George wrthryfel yn erbyn Llywodraeth Ryddfrydig, er mwyn ei gorfodi i dalu sylw i bynciau Cymreig. Gwnaeth hyn-a Mr. Tom Ellis yn aelod o honi. Llwyddodd yn ei amcan. 0 dan faner waedgoch gwrthryfel gwnaeth Cymru- drwy Mr. Lloyd-George—orchest na ellid ei chyf- lawni mewn unrhyw fodd arall. Ai anheyrngarwch hyn ? Nage! Cymru, fel cenedl, yng ngolwg Lloyd-George, oedd yn fwy ei hawliau hyd yn oed na'r cyfaill anwyl a'r twym aelod Tom Ellis." Ni cheir dim gan y Sais-bydded Dori, bydded Ryddfrydwr, bydded unpeth-heb frwydro a gwrth- ryfela. Yr hyn a ddealla oreu, yr hyn a wna'r argraff cryfaf a chyflymaf arno yw'r cledd a'r gwaew- ffon, nid. y sych a'r bladur. Y mae Cymru drwy yr oesau wedi goddef oddiwrth ormodedd hawddgarwch (excess of amiability), ac fel pawb sydd yng ngafael y dolur peryglus hwn, y mae erioed wedi cael ei thrin gyda dirmyg a gwawd. Gwna tymor o w.rth- ryfel ddaioni iddi. Fe yrr ei gwaed eto drwy ei gwythienau. Fe syth-galedir ei hasgwrn-cefn. Bydded iddi ofalu rhag i'r Prif Weinidog presennol wneud chwareubeth o honi fel y gwnaeth Gladstone. Mae presenoldeb Mr. Lloyd-George yn y Cyfrin-Gyngor yn sicrwydd y ceir yno un, o leiaf, i ymladd yn ddi- baid dros Gymru. Ond beth yw un ? Ys dywedodd Mr. Lloyd-George ei hun yn Llanelli rhai blynyddau yn ol: Members of the House of Commons- Liberals and Tories-have no love for Wales." Wrth wasgu ar y Llywodraeth, cryfhau-nid gwan- hau-sefyllfa Mr. Lloyd-George a wneir. Yn sicr rhaid, fel mae pethau yn bresennol, i rywun oddef. Ond y cwestiwn i ni yw hwn Pa- ham y dewisir Cymru yn barhaus fel yr ysglyfaeth anffodus? Paham, mai mesurau Cymreig o hyd a deflir oddi- ar fwrdd y llong? Cedwir yr Irish University Bill, ond aberthir Dadgysylltiad! Cedwir hyd yn oed rhyw fan fesur distadl a dibwys i'r Alban. Teimlaf yn sicr, Syr, mai ffeithiau fel hyn-ffeith- iau sydd yn dangos fod hen ysbryd y Sais o ddifater- wch a dirmyg tuagat Gymry yn fyw ar waethaf popeth-sydd yn tueddu ein harweinwyr crefyddol i adgoffa y Llywodraeth, fod y fath beth a chenedl Gymreig yn bod, ac fod ganddi ei hawliau a'i chenadwri fel pob cenedl arall. Fe ddywed rhai fod y llif Seisnig yn y Cyfrin-Gyngor wedi gordrechu gwladgarwch Mr. Lloyd-George. Anhawdd am- gyffred posiblrwydd o'r fath. Ond os gwir yw, geilw yr hen fam-wlad anwyl et yn ol i'w bron i glywed sibrwd yr oesau gynt yng nghuriad ei chalon ac yng ngwres angerddol ei chariad ato, i gyhoeddi unwaith eto mai hi, a hi yn unig, yw ei nerth, a i amcan, a'i ysbrydiaeth. Mewn cyfwng mor bwysig, carwn yn fawr ddarllen syniadau eich darllenwyr yn y rhifynnau nesaf.—Yr eiddoch yn wladgar, RHYS MORLAIS. Llynlleifiad, Mehefin 15, 1907.
Y " Geninen " am Orphennaf.
Y Geninen am Orphennaf. Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru, gan y Parch. Canon Williams, B.D. Bwrdd Addysg Newydd Cymru, gan yr Athraw Thos. Rees, M.A. Cenadaeth Morgan Llwyd o Wynedd, gan y Parch. H. Cernyw Williams. Addysg Gref- yddol, "Catecism yr HenFam" a "Hyfforddwr" yr Hen Gorff," gan y Parch. John Owen, M.A. Y Parch. R. Llugwy Owen, M.A., Ph.D., gan y Parch. 0. Selwyn Jones. Cwyn Coll am Enwogion, gan Frynach, Bethel, a Mr. R. E. Jones. Penmaenmawr, gan Wylfa. Wrth Borth Dinefar: Can, gan y Parch., A. S. Thomas, B.A. (Anellydd). Perthynas y Methodistiaid Calfinaidd a Llenyddiaeth Gymraeg, gan y Parch. Evan Davies. Y Prifathraw Rowlands, B.A. (Dewi Mon), gan yr Hybarch David Griffith. Cri y Bobl yn erbyn yr Eglwys, gan Wyneddig. Barddoniaeth Beth yw ? gan Wili. Cofgolofn Mary Jones Can, gan Fryidir. Adgofion Henwr, gan Mr. Eleazar Roberts, Y.H. Trem ar Dduwinyddiaeth y Dyfodol, gan y Parch. Edward Jones, M.A., B.D. Sectyddiaeth ynte Cristionogaeth ? gan Arthur. Ad- gofion am Eisteddfod Fawr Llan Gollen, gan Rudden- fab. Safonau Dafydd ab Gwilym, gan yr Athraw Anwyl, M.A. Cynghor yr Eglwysi Rhyddion a'r Bedyddwyr, gan y Parch. James Evans, B.A. Y Bardd Christmas Evans, gan Ll. GWEHELYTH PRIFON.-Achau Iestyn ab Gwrgan. GWEDDILLION LLENYDDOL. Lleucu Llwyd," gan Degai. Bedydd, gan Robert ap Gwilym Ddu o Eifion. Iorwerth Drwyndwn, gan Wilym Lleyn. Dafydd Ionawr, gan Eben Fardd. Ieuan Goch, o'r Traws- goed, gan Wilym Lleyn. Jonathan Hughes, gan Owen Williams y Waunfawr. GOHEBIAETHAu.-Hanes Caerfyrddin Holeb, gan S. N. S. Seinio Saesneg, gan B. C. D. Y Parch. D. Jenkins, gan S. N. S. Blwyddi Geni a Marw En- wogion, gan M. P. G. Lewis Loyd yr Arianydd, gan T. C. U. Hen Arfer Hynod, gan P. P. Hen Lyfr Hymnau, gan T. L. R. Manion Barddonol, gan Amrywiol Feirdd.
Advertising
MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST. 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets, Upper and Lower from ze4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol. D. COOKSiiY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET. Telephone Nos. 30 and 601, NORTH.