Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

JACK Y LANTERN.

News
Cite
Share

JACK Y LANTERN. I — —— —- Dywedir nad yw rhodd y Llywodraeth ynglyn a chadwraeth yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol yn rhyw ffafriol iawn i Gymru, ac mai teganau costus fyddant i'r genedl wedi'r holl helynt. Ond mae'r Iesu i ni'n Frawd, Golud y gogoniant nefol, Sydd yng nghadw i ni fry, Ac mae'r Iesu yno heddyw Yn eu paratoi i ni. Y mae y boneddigesau wedi dangos pob caredigrwydd ar hyd y blynyddoedd, a diolchir yn gynnes iddynt, ac i ereill sydd yn rhoddi cefnogaeth i'r gwaith anhawdd sydd gan y cenhadon dan anfanteision arianol. Y MAE y gwaith yn llwyddo yn Silver Street. Oynhaliwyd cwrdd yn yr awyr agored prydnawn Saboth a'r Saboth nesaf disgwylir Mr. Howell J. Williams, Y.H., L.C.C., i siarad yn y cyfarfod prydnawnol. PRIOI)A,S.-Ying nghapel y Tabernacl, King's Cross, dydd Sadwrn diweddaf, priodwyd dau o blant canolbarth Sir Gaer- fyrddin. Y gwr ieuanc ydoedd Mr. Isaac James, Glantowy, Llandilo, yr hwn a arweiniodd Miss Eleanor Davies, Ynysau, Pumpsaint, at allor Cariad. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan Mr. B. J. Evans, Llanfair, Ceredigion, a gwasanaethodd Mr. J. James, Rugby, fel y dyn goreu. Y Parch. H. Elfet Lewis, M.A. roddodd y cwlwm priodasol, ac wedi cyflawni hynny o orchwyl, aed i wledd arbennig i Reggiori's, lie yr eistedd- odd nifer o wahoddedigion gyda'r par ifanc wrth fyrddau llawn. Ymysg y cwmni oedd Dr. a Mrs. Evans, Camberwell; Mr. James, Rugby; Mrs. James, Torrington Square; Mr. a Mrs. T. J. Evans, Canonbury; Mr. David a Miss Mary Timothy, Clerkenwell; Mr. B. J. Evans, ac ereill. Ar derfyn y wledd ymadawodd y par ieuanc gyda'r tren i ardal Rugby, lie y treliant y mis mel, cyn dychwelyd i fwynhau y cartref dedwydd ar lannau'r Towy. MR. ARTHUR GRIFFITH.—Bydd yn llawen gan gyfeillion lliosog Mr. Arthur Griffith, o Castle Street, ddeall ei fod wedi derbyn swydd bwysig ynglyn a Bwrdd Masnach. Mae Mr. Griffith yn adnabyddus i bawb o Gymry'r ddinas, gan mai efe fu ysgrifennydd Cymdeithas Cymru Fydd am flynyddau lawer. Y CLWB CYMREIG.-Cynhaliwyd cwrdd blynyddol y clwb nos Lun diweddaf, a daeth cynulliad llawn o'r aelodau i'r lie. Yn ol adroddiad Syr John Puleston mae'r sef- ydliad yn edrych yn bur addawol. Ceir adroddiad llawn o'r cyfarfod yn ein nesaf. CYHOEDDI EISTEDDFOD 1908. Yr cedd dydd Iau, yr 20fed, yn uchel wyl yn mywyd Llangollen, oherwydd dyna'r adeg y cy- hoeddid Eisteddfod fawr 1908. Yr oedd beirdd a llenorion blaenaf y genedl wedi eu "gwahawdd i'r wyl." Arweinid y gweith- rediadau gan yr archdderwydd Dyfed, a siaradwyd yn yr orsedd gan Gwyneddr Marchant, Pedrog, Cadfan, Vinsent, ac ereill. Yn yr hwyr rhoddid cyngherdd mawreddog yn neuadd y dref, tan lywydd- iaeth Mr. Herbert Roberts, A.S., pryd y datganwyd gan Miss Edith Evans, Mr. Emlyn Davies, Ehedydd Alaw, ac ereill. DOES dim diwedd ar Eiriaduron Byw- graffyddol. Hysbysir yn awr fod Llyfrfa'r Methodistiaid wedi penderfynu cyhoeddi Geiriadur Bywgraffyddol sydd wedi ei baratoi gan y Parch. Joseph Evans, Dinbych. Mae Mr. Evans wedi rhoddi blynyddoedd o lafur gyda'r llyfr hwn.

Cymanfa Ganu Anibynwyr Mon.