Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. MR. DAVID EVANS. Y mae mwy nag un cantor Cymreig yn • dwyn yr enw hwn, ond nid oes ond un David Evans, Baritone Cymreig uwchraddol, yn Llundain. Yma cawn engraifft o gantor sydd wedi codi o'r pydew "—o'r pwll" glo-a thrwy lafur caled ac astudiaeth, wedi gorfodi rhan lied helaeth o Gymru a Lloegr i gyf- .addef ei ragoroldeb. Nid oes diolch i lawer cerddor am ei safle, canys os rhoddwyd y llwy arian yn eu enau, yr oedd llwydd yr ymgyrch wedi ei sicrhau ar y cychwyn ond y mae gan y byd engreifftiau ysblenydd y wyr y self help," ac nid oes arwyr teilyngach na'r cyfryw. Yn hanes pobl Cymru, hyd y blynyddau diweddaf, yr oedd dynion yr "hunan-ym- gais" yn y mwyafrif mawr; a'r dynion hynny sydd wedi sicrbau cadernid y cym- eriad Cymreig, gan mwyaf. Pob clod, gan hynny, i'r rhai hynny sydd wedi gorfodi amgylchiadau i blygu i'w hewyllys, a hawlio gwrandawiad gan y byd Ganwyd Mr. Evans yn Ponterwydd, ger Aberystwyth. Mwnwr (miner) ydoedd ei dad. Pan aeth y gwaith yn brin, symudodd y teulu i Blaengarw (Morganwg), lie pryd- ferth a rhamantus y pryd hynny. Gweith- iodd David yn y pwll-glo hyd y flwyddyn 1896, pryd y daeth i Lundain. Yr oedd ei dad yn gantor-baritone-ac yn arwain y gaa yng nghapel y Methodist- iaid, Blaengarw. Bu ein gwrthddrych yn perthyn i Gor Glyndwr Richards, hyd nes y symudodd yr arweinydd i Mountain Ash. Mynych y byddai yn cystadlu y pryd hyn, a mynych ei Iwyddiant. Anaml y collai, gan nad ym- geisiau os na fyddai y gan yn gyfaddas iddo. (Dyma wers bwysig i gystadleuwyr !). Yr oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedl- aethol Merthyr yn 1901, a thrwy hyn daeth i gryn sylw ynglyn a chyngherddau, ar hyd ca lied y wlad. Canodd yn y Queen's Hall, a lleoedd pwysig ereill gyda Maggie Davies, Ffrangcon Davies, &e. Wedi hyn rhaid oedd rhoddi ei holl amser i alwadau -cerddoriaeth, ac aeth i'r Coleg Brenhinol. Astudiau ddatganiaeth, &c., o dan Ffrangcon Davies, ac yn 1906 enillodd y Gilbert Betjemann Gold Medal am ganu mewn opera. Siaradai y Times, y Telegraph, &c., yn sichel am ei ymddangosiad yn y cymeriad Falstaff," o ran y cantor a'r actor. Y mae Mr. Evans, fel hyn, wedi profii ei allu ac chelder ei amcanion yn y byd Datgan- yddol. Y mae wedi canu yn y gweithiau canlynol: The Beatitudes (Ffranck); Messiah," Samson," "Ancient Mariner," "Rose Maiden," "Elijah," "Jeptha," "Martyr of Antioch," &c. Bydd hefyd ym Mawrth, 1908, yn canu yn Lerpwl yn yr Apostles '(Elgar), yng nghyngerdd y Welsh Choral ■Union. Pan yn ei gyflwyno i sylw rhyw awdur- ^odau yn ddiweddar, dyma fel yr ysgrifenai MacKenzie am dano: Here is a young baritone worth your while hearing. He is Well equipped in all respects; has a fine VOIce; well taught, and with excellent taste." Wrth gyflwyno ei. ddarlun i'n darllenwyr, nid oes gennym ond dweyd Duw yn rhwydd i chwi, a boed i chwi gael hir oes i wasanaethu eich cenedl a'r cylchoedd cerdd- ,orol y ty draw i Glawdd Offa BATTERSEA Pt iSE.-Deallwn y bydd yr Anibynwyr Cymreig yma yn cynnal Eistedd- fod, ar raddfa eang, cyn diwedd y flwyddyn. Gwyddom drwy brofiad eu gallu i drefnu gogyfer a'r cyfryw. Dymunwn eu Ilwydd ym mhob modd, a boed i'w hysgrifennydd selog, Mr. Jenkins, gael nerth i ddal ati. Miss GWLADYS ROBERTS.—Clywsom ddar- fod iddi dderbyn gwahoddiad i ganu yn Canada, cyn hir. Os el yno, gobeithio y daw yn ol, ac yr erys yn hir iawn gyda ni cyn myned i'r United States! COR UPSALA.-Bydd cor enwog Prifysgol Upsala (Swedish) yn canu y dyddiau nesaf hyn yn y Queen's Hall. Yr ydym wedi clywed corau y Swediaid yn canu lawer tro, a gallwn sicrhau eu bod cystal a'r eiddom ni, y Cymry! DR. GREIG.—Y mae ef bellach yn 64 mlwydd oed. Daw i Leeds i'r wyl, lie y chwareuir rhai o'i weitbiau. Miss TEIHY DAVIES.—Diau y bydd yn dda gan lawer o'n darllenwyr wybod y Mr. DAVID EVANS. bydd y contralto enwog hoa yn canu yn Eglwys Sant Banet, Queea Victoria Street, nos y fory (y Sul). Y mae newydd ddych- welyd o Berlin. Ymhlith ei lliaws ym- rwymiadau, bydd yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni. Dyma'r gantores operataidd fwyaf blaenllaw a feddwn fel cenedi; ac os ydym mor falch o honi ag y dylem fod, sicr y gwneir ymdrech i'w chlywed yn canu yn St. Benet. ALAWON GWERIN CYMRU.—Dyma destyn erthygl fer o eiddo y Prifathraw Reichel, yn y Traethodydd diweddaf. Yn ei ymres- ymiad o blaid trysori'r Alawon hyn dywed Mewn can yn bennaf oil y caiff diwylliant pobl ei fynegiant. Yr ydym oil wedi clywed yr hen air, Gadewch i mi gyfan- soddi caneuon cenedl, ac ni waeth gennyf pwy wna ei chyfreithiau." Gellir ateb: "Nid oes dim perygl y torrir y cysylltiad hwn yng Nghymru, gan fod yr ymdeimlad cenedlaethol yn rhy gryf." Nid wyf fi yn teimlo mor sicr o hyn. A'i ni welir tuedd i. esgeuluso hen emynau godidog Cymru (a pha beth ydyw'r rhai hyn ond caneuon crefydd gwerin) yn ffafr cyfansoddiadau diweddarach nad ydynt yn deilwng o'u gosod yn eu hyml, ac nad ydynt yn ami ond cynyrchion ysgeifn awen Anglicanaidd ? Mewn cyffelyb fodd clywn i'r Japaneaid roi heibio eu diwyg prydferth eu hunain am het uchel a chob laes y gorllewin. Felly hefyd y mae gyda chaneuon gwerin bydol. Iviae rhywbeth yn hynod o elyniaethus i hen ddi- wylliant syml a dyrchafol y dosparth gwledig goreu yn nylanwadau bywyd trefol y dydd- iau hyn. Mae i'r bywyd hwn ei ddyddordeb a'i gyffroadau ei hun sy'n tueddu i ddad- blygu cyfundrefn o ddiwylliant o'i eiddo'i hun (os teilynga ei alw yn ddiwylliant). Mae gan y ddinas hefyd ei chan gwerin ei hun, sef canig y music-hall, ei hofferyn cerdd ei hun, sef y banjo. A thuedda'r ddinas yn awr fel bob amser i ymestyn y tu allan i'w therfynau ei hun, ac ymgysyllta a llecynau prydferthaf y wlad, fel cyrchfanau iechyd a phleser. Pa le bynnag y planna hi ei hun, boed ar y lanfa, ar fin y mor, neu ger y gwesty mynyddig, yno fe welwn y pierrot," neu'r cantor du," ac yno fe glywir acenion y ddigrifgan ddiweddaraf. A rhaid cofio fod gan y ffug-ddiwylliant dinesig hwn, er gwaethaf ei faswedd a'i ddiffyg chwaeth, ryw atyniad i'r meddwl ieuanc ar gyfrif y pert- rwydd a'r bywiogrwydd a'i nodweddant yn gyffredin. Mae gan hynny berygl diam- heuol y gall moddion y diwylliant uwch a symlach, sy'n cynrychioli agweddau hynaf a iachaf bywyd cenedl, gael eu gwthio allan gan gynnyrch afiachus a phenagored prysur- deb twymynol ein dinasoedd. Eto, fe ddylem edrych ymlaen at ffurfiad ysgol gerddorol genedlaethol. Ond os barnwn oddiwrth brofiad gwledydd ereill, nis gellir cael ysgol gref o'r fath os na bydd yn sugno bywyd ac ysbrydiaeth o ganeuon gwerin y genedl. Yn debyg fel y mae Grieg wedi ei drwytho gan ysbryd can gwerin Norway, Lizst gan eiddo Hungary, Tschaikowsky a Rubenstein gan eiddo Rwsio, a Villiers Stanford gan eiddo'r Iwerddon, felly, os ydym i gael ysgol o gyfansoddwyr Cymreig, rhaid iddi gael ei sylfaenu yn ddisigl, ar athrylith gerddorol y Cymry, fel yr amlygir hi yn yr Alaw Gymreig gysegredig a bydol. Eto, pan yn son am y moddion i ddwyn y cenhedloedd i undeb gwirioneddol a'u gilydd, dywed Drwy ba gyfrwng y gallant ddodd i adnabod gwir ysbryd a delfrydau eu gilydd yn well na thrwy eu caneuon gwerin—sy'n corffori efallai yn fwy nag unrhyw gynnyrch celfyddydol arall, reddfan coethaf y genedl fu yn esgor arnynt ? Gadewch i mi derfynnu, meddai, gyda dyfyniad byr o anerchiad draddodais yn y Drefnewydd yn 1899, ar y modd i ddef- nyddio cerddoriaeth yn ein hysgolion fel moddion diwylliant: Hyd yn oed yng Nghymru, gydnabyddir y rhan fwyaf cerddorol o'r ynysoedd Prydeinig, nid wyf yn meddwl ein bod yn sylweddoli beth ellir wneud o gerddoriaeth fel arf dysg. Yn unol ag un o ddeddfau hynotaf yr enaid, y gelf symlaf ac nid y fwyaf dyrus, boed yn llenyddiaeth, yn gerddor- iaeth neu yn arluniaeth, sydd bob amser wedi cael y dylanwad dyfnaf-mwyaf dyrchafol a mwyaf cryfhaol-ar y dyn cyffredin. Edrychwch ar farddoniaeth ac adroddiad disgrifiadol y Beibl. Ni ragor- wyd arno erioed o ran symledd, ac ni bu ei hafal erioed o ran gallu i ffurfio cymeriad. Felly, mewn cerddoriaeth yn yr hen don an, cysegredig a bydol, yr hen garolau, yr hen alawon cenedlaethol sydd yn dylanwadu yn ddyfnaf ar gymeriad."