Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

SAFLE DADGYSYLLTIAD.

CRI GWERIN.

News
Cite
Share

CRI GWERIN. ANGHENION PRESENNOL CYMRU. I. Gair o Eglurhad yn unig y tro hwn. Un o flynyddoedd mawr hanes oedd y flwyddyn '48 — blwyddyn y diwygiadau cenedlaethol yn Ewrop. Dyddiau tywyll ydyw dyddiau trais a gormes bob amser; dysgodd llawer cenedl yn Ewrop hynny rhwng 1800 a 1848, ond dysgodd pob un o honynt ar yr un pryd fwy gwerthfawr gwers o lawer-y wers y medr trais a gormes chwythu gwreichionen o gariad at gartref a rhyddid yn fflam ysol. Bu farw gormes gweithredol y genedl fawr, i raddau pell, ym mywyd Ewrop yn y flwyddyn '48 claddwyd ef mewn llawenydd a dawns. Wrth addef hyn, dywed un o haneswyr blaenaf Prydain Fawr fod cened- laetholdeb fel gallu symudol ym mywyd y Cyfandir wedi marw ac wedi ei gladdu yr un dydd. Dyna farn un o haneswyr blaenaf ein gwlad. Ai gwir hi, tybed ? Mae'n sicr fod y cwestiwn yma yn werth ymdrech ag ef er ceisio ei ateb, yn enwedig felly i bob Cymro a Chelt. Ar yr olwg gyntaf y mae'r farn yn un ffol a gwirion. Pwy fedr feddwl fod cenedlaeth- oldeb wedi marw pan sylweddola yr asbri newydd welir ym mywydau cenedloedd bychain Ewrop y dyddiau yma? Tybed fod rhywun eto heb glywed son am y Pan-Celtic Movement, yr Irish League, y Gaelic League, a llu eraill o symudiadau tebyg-bob un o honynt, i bob ymddangosiad, yn brawf hyawdl o fywyd newydd y Genedl Fechan. Gwyr pawb nad oes mis er pan yr oedd y Cenedlaetholwyr Gwyddelig, y blaid gened- laethol fwyaf bywyng ngwleidyddiaeth y byd, y porffor allan o fywyd Gweinyddiaeth gryfaf y ganrif. Yr wythnos ddiweddaf bu'r Irish Theatre Society yn chwareu chwe drama yn Llundain, a phob beirniad yn mawrygu y gelf, ac yn siarad am hud a deniadaeth yr ysbryd cenedlaethol ynddynt. Eleni apwyntiodd Llywodraeth yr Estron- Sais y cenedlaetholwr cyhoeddus mwyaf pybyr a hunan-aberthol yng Nghymru i fod yn Brif Arolygydd Ysgolion y wlad, a ffurf- iodd yr un Llywodraeth adran arbennig o Fwrdd Addysg i ofalu am anghenion y wlad fechan esgeuluswyd ers canrifoedd. Yn sicr, dyna ddigon o brofion nad marw yr ysbryd cenedlaethol eto, nac agos hynny. Y mae y rhan fwyaf o honom yn hoff iawn o gasgliadau rhwydd arwynebol, a chas- gliadau ofnadwy o beryglus ydynt bob amser. Y rhan amlaf y maent yn hollol anghywir ac yn drychinebus o ddiniwed. Cyn cael hawl i gredu mewn adfywiad cenedlaethol Celtaidd rhaid gwneud rhagor na chyfrif cymdeithasau, a darllen testy nau llyfrau,a phrynnu tocynau chwareudai. Rhaid edrych i fewn yn ofalus i ba raddau y mae y cyfryw bethau yn Geltaidd eu hysbryd a'tt mynegiad. Felly drachefn gyda phleidiau gwleidyddoi. Rhaid cofio wrth ymdrin a hwy MAI YMDDANG- OSIAD (SHOW) YDYW ENAID PLAID WLEIDYDDOL. AC MAI BUDDIANT PERSONOL YDYW YSBRYDOL- IAETH PENNAF Y GWLEIDYDDWR Y RHAN AMLAF. Er cymaint y twrw a'r canu cyrn, y mae'n bosibl ddigon mai marw y mae cenedlaeth- oldeb wedi'r cyfan. Chwilio i mewn i hyn fydd ein hamcan yn yr ysgrifau yma.—Ceisio penderfynnu i sicrwydd, os posibl hynny, ai Marchogion Arthur sydd yn cario arfau drwy'r wlad, yntc gwyr bras, dieithr, oer-galon a hunan- foddlon ydynt. GWYLLT Y "KELT."