Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) President-The Right Hon. LORD RENDEL. PrincipaZ-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, .£10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee XI. Men Students reside in Registered lodgings in the town. or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar
SAFLE DADGYSYLLTIAD.
SAFLE DADGYSYLLTIAD. Dydd Llun diweddaf bu'r Aelodau Cym- reig yn cael ymgom a'r Prif Weinidog o berthynas i safle Dadgysylltiad ymysg Mesurau dyfodol y Weinyddiaeth. Yr oedd angen am ryw fath o eglurhad swyddogol ar ol y datganiad a wnaed yn y Ty ychydig amser yn ol pan gyhoeddodd C. B. fod yn rhaid gadael amryw o'r mesurau addawedig o'r neilldu am y tymor presennol. Gan nad oedd mesur Dadgysylltiad ymysg y rhai a enwyd,, ac fod syniad cyffredinol y buasid yn ei ddwyn i mewn ar ddechreu'r trydydd tymor, sef y flwyddyn nesaf, yr oedd yr aelodau Cymreig yn teimlo ei fod yn ddyledswydd arnynt i gael gwybodaeth pendant pa le yr oeddent yn sefyll. Cyn ymweled a'r Prif Weinidog cafwyd eisteddiad arbennig o'r aelodau eu hunain. Yn ol yr hyn a ddywedwyd wrtbym gan rai oedd yn bresennol, nid yw'r blaid Gymreig ar hyn o bryd yn un unol iawn. 'Roedd Mri. S. T. Evans a D. A. Thomas yn lied awyddus i wrthio'r pwnc i'r ffrynt ar un- waith, gan adael i ganlyniadau'r dyfodol ofalu am danynt eu hunain, Iddynthwy, yr oedd ennill poblogrwydd presennol eu hunain, yn fwy pwysig na sicrhau llwyddiant dyfodol pwnc Dadgysylltiad. Peth hawdd yw gwaeddi am Ddadgysylltiad, ac hyd yn oed basio mesur drwy Dy'r Cyffredin i ddadwaddoli yr Eglwys yng Nghymru, ond peth arall yw cael hynny ar ddeddf-lyfr y wlad. Gwyr y Prif Weinidog hyn yn dda, a gwyr holl aelodau'r Weinyddiaeth mai nid pasio penderfyniadau yw gwneud Deddfau. Eglurhad C. B." Pan ddaeth yr Aelodau Cymreig o'i flaen a gosod eu hachos yn glir a phendant, addefodd y Prif Weinidog fod yna gam- esboniad wedi ei roddi ar ei addewid ynglyn a'r trydydd tymor." Nid oedd wedi dweyd y geiriau yn bendant, ond yr oedd yn berffaith deg i'r neb a ddarllenodd ei araith dynu'r casgliad hwnnw; ac hefyd yr oedd hynny yn eithaf rhesymol iddynt oil feddwl y buasent, ac fe fnasent, o dan amgylch- iadau priodol, yn abl i gyflawni y bwriad yn. ystod y trydydd tymor o'u gwaith. Mor bell ag yr oedd barn Ty'r Cyffredin yn myned, peth hawdd iawn oedd cael Dad- gysylltiad, ond y rhwystr mawr ar ffordd y Weinyddiaeth Ryddfrydig oedd Ty'r Ar- glwyddi, ac fe ddylai Cymru gymeryd hyn i ystyriaeth. Nid oedd ganddynt y bwriad lleiaf i anwybyddu cais Cymru, eithr bwr- iadent ymdrin ag ef mor fuan ag yr oedd yn bosibl o fewn adeg y Weinyddiaeth bres- ennol. Yr oedd yn anhawdd penodi'r adeg ar hyn o bryd, ond credai y gallai Cymru roddi ei hymddiriedaeth yng ngwaith a gofal y Weinyddiaeth y rhoddid i Ddad- gysylltiad y lie blaenaf mor gynted ag y eliriai'r ffordd ac y teimlai y Senedd yn fanteisiol i wthio y fath Fesur drwodd. Barn Asquith. Ar ol y Prif Weinidog rhoddodd Mr. Asquith ei farn, a dywedai nad oedd yr un pwnc o fewn y Senedd y teimlai efe fwy o ddyddordeb personol ynddo na mater Dad- gysylltiad. Yr oedd wedi datgan ei farn droion ar y pwnc, ac wedi gwneud llawer yn y blynyddoedd gynt i gadarnhau barn ei gydaelodau ar y cwestiwn. Ar hyn o bryd yr oeddent hwy, Aelodau y Weinyddiaeth, fel y bobl yng Nghymru, yn teimlo yn flin iawn am nas gellid wrthio y pwnc i safle mwy blaenllaw yn rhestr y Mesurau anghen- rheidiol, ac nid bai y Weinyddiaeth ydoedd na fuasaid wedi cael y Mesur eisaes ar lawr y Ty. Yn bersonol, teimlai ei fod yn ddyledswydd arbennig ar y Weinyddiaeth i basio y fath Fesur ag a ofynid gan Gymru, ac os na wnaent hynny cyn eu hymddi- swyddiad, byddai'n warth oesol ar y blaid Ryddfrydig, ac ar eu gallu fel rheolwyr Ty'r Cyffredin. Sut i weithio. Dengys yr atebion hyn fod y pwnc wedi ei ohirio am dymor eto, o leiaf. Mae'r cyfrif- oldeb am hyn yn gorwedd ar y Weinydd- iaeth i raddau, yn ogystal ag ar Dy'r Arglwyddi, ac ar Ymneillduwyr Cymru ei huh. Mae dwylaw yr Aelodau Cymreig wedi eu rhwymo i raddau ym mhenodiad y Ddirprwyaeth Eglwysig. Nis gallant ei. anwybyddu ar ol ei dderbyn. Ac wrth ei feirniadu yn barhaus a gosod rhwystrau ar ffordd, fel ag i oedi ei weithrediadau, nid ydym ond yn chwareu i ddwylaw ein gelyn- ion. Os gellir cael adroddiad swyddogol y Comisiwn erbyn yr Hydref, yna bydd hawl gan yr Aelodau Cymreig i droi'n wrthryfel- wyr adeg y tymor nesaf, a diau y llwyddent wedyn i gael gwell safle i'r Mesur ond iddynt fod yn unol a chadarn yn eu cais. Ar hyn o bryd y maent yn dra rhanedig. Mae un blaid yn cadarnhau gwaith y Ddir- prwyaeth, a phlaid arall yn condemnio yr holl fusnes, a thra yr erys y llys hwn fel rhwystr neu fwgan ar y daith ni cheir fawr o gynnvdd ym mhwnc Dadgysylltiad i Gyu. Gofaled y tystion, y pwyllgorau lleol, a'r enwadau Cymreig felly, am drefnu ar fyrder, eu tystiolaethau yn briodol, ac yna ni fydd achos gan y Comisiwn i barhau, nac oedi rhoddi ei farn ar y mater y mae i ymholi iddo.
CRI GWERIN.
CRI GWERIN. ANGHENION PRESENNOL CYMRU. I. Gair o Eglurhad yn unig y tro hwn. Un o flynyddoedd mawr hanes oedd y flwyddyn '48 — blwyddyn y diwygiadau cenedlaethol yn Ewrop. Dyddiau tywyll ydyw dyddiau trais a gormes bob amser; dysgodd llawer cenedl yn Ewrop hynny rhwng 1800 a 1848, ond dysgodd pob un o honynt ar yr un pryd fwy gwerthfawr gwers o lawer-y wers y medr trais a gormes chwythu gwreichionen o gariad at gartref a rhyddid yn fflam ysol. Bu farw gormes gweithredol y genedl fawr, i raddau pell, ym mywyd Ewrop yn y flwyddyn '48 claddwyd ef mewn llawenydd a dawns. Wrth addef hyn, dywed un o haneswyr blaenaf Prydain Fawr fod cened- laetholdeb fel gallu symudol ym mywyd y Cyfandir wedi marw ac wedi ei gladdu yr un dydd. Dyna farn un o haneswyr blaenaf ein gwlad. Ai gwir hi, tybed ? Mae'n sicr fod y cwestiwn yma yn werth ymdrech ag ef er ceisio ei ateb, yn enwedig felly i bob Cymro a Chelt. Ar yr olwg gyntaf y mae'r farn yn un ffol a gwirion. Pwy fedr feddwl fod cenedlaeth- oldeb wedi marw pan sylweddola yr asbri newydd welir ym mywydau cenedloedd bychain Ewrop y dyddiau yma? Tybed fod rhywun eto heb glywed son am y Pan-Celtic Movement, yr Irish League, y Gaelic League, a llu eraill o symudiadau tebyg-bob un o honynt, i bob ymddangosiad, yn brawf hyawdl o fywyd newydd y Genedl Fechan. Gwyr pawb nad oes mis er pan yr oedd y Cenedlaetholwyr Gwyddelig, y blaid gened- laethol fwyaf bywyng ngwleidyddiaeth y byd, y porffor allan o fywyd Gweinyddiaeth gryfaf y ganrif. Yr wythnos ddiweddaf bu'r Irish Theatre Society yn chwareu chwe drama yn Llundain, a phob beirniad yn mawrygu y gelf, ac yn siarad am hud a deniadaeth yr ysbryd cenedlaethol ynddynt. Eleni apwyntiodd Llywodraeth yr Estron- Sais y cenedlaetholwr cyhoeddus mwyaf pybyr a hunan-aberthol yng Nghymru i fod yn Brif Arolygydd Ysgolion y wlad, a ffurf- iodd yr un Llywodraeth adran arbennig o Fwrdd Addysg i ofalu am anghenion y wlad fechan esgeuluswyd ers canrifoedd. Yn sicr, dyna ddigon o brofion nad marw yr ysbryd cenedlaethol eto, nac agos hynny. Y mae y rhan fwyaf o honom yn hoff iawn o gasgliadau rhwydd arwynebol, a chas- gliadau ofnadwy o beryglus ydynt bob amser. Y rhan amlaf y maent yn hollol anghywir ac yn drychinebus o ddiniwed. Cyn cael hawl i gredu mewn adfywiad cenedlaethol Celtaidd rhaid gwneud rhagor na chyfrif cymdeithasau, a darllen testy nau llyfrau,a phrynnu tocynau chwareudai. Rhaid edrych i fewn yn ofalus i ba raddau y mae y cyfryw bethau yn Geltaidd eu hysbryd a'tt mynegiad. Felly drachefn gyda phleidiau gwleidyddoi. Rhaid cofio wrth ymdrin a hwy MAI YMDDANG- OSIAD (SHOW) YDYW ENAID PLAID WLEIDYDDOL. AC MAI BUDDIANT PERSONOL YDYW YSBRYDOL- IAETH PENNAF Y GWLEIDYDDWR Y RHAN AMLAF. Er cymaint y twrw a'r canu cyrn, y mae'n bosibl ddigon mai marw y mae cenedlaeth- oldeb wedi'r cyfan. Chwilio i mewn i hyn fydd ein hamcan yn yr ysgrifau yma.—Ceisio penderfynnu i sicrwydd, os posibl hynny, ai Marchogion Arthur sydd yn cario arfau drwy'r wlad, yntc gwyr bras, dieithr, oer-galon a hunan- foddlon ydynt. GWYLLT Y "KELT."