Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

YR ATHRAW NEWYDD.

PRIODAS YN RADNOR STREET.

News
Cite
Share

P. W. Williams, Mr. W. E. Davies, Mr. a Mrs. Pritchard, Uxbridge Road Mr. a Mrs. Hayward, Mr. a Mrs. J. Maldwyn Evans, Mr. a Mrs. Wakeford, Mr. a Mrs. T. P. Lloyd, Misses Lloyd, Battersea Park Road; Mrs. a Misses W. Lloyd-Owen, Mr. Henry Griffiths, Kensington Mr. R. Morgan, Mr. Lewis Evans, Mr. a Mrs. Hobbs, Mr. J. Richards, Mrs. Isaac Williams, Mr. a Mrs. Griffith Griffiths, Mr. a Mrs. Ellis Richards, Mr. Edward Owen, a llu mawr ereill. Llonwyd y cwmni gan unawdau yn ateb i'r amgylchiad gan Miss Mary Lloyd-Owen, Mri. J. Maldwyn Evans, Llewelyn Lloyd Hughes, Arthian Davies, Ian Davies, ac ereill. Rhoddodd Miss Sarah Griffiths, King's Road, adroddiad gorchestol o'r Gloyn Byw," ac adroddodd Llewelyn yr englynion cyfarchiadol canlynol Dau anwyl wedi'u huno-heddyw sydd, 0 serch pur di-ildio Gwelwn drwy y fodrwy fad, Nod o gariad diguro. Willington hoff i'w fonwen-a fynodd Deg feinir ddirodres, Geneth a chalon gynnes Ydyw'n llawn doniau a lies. Willington geir yn llonnach-nag erioed, Bydd gwraig ganddo bellach Mi gana'n fil amgenach, 'Nod o fwyn gyda'i Nesta fach. Heb loes boed hir oes i'w rhan-a bywyd Heb awel anyddan, Ac heb uwchlaw'r cyfan, Lond ty o glws hoffus blant glan. Hon oedd un o'r priodasau mwyaf ffasiynol a gafwyd yn y cylch Cymraeg yn y dref ers llawer blwyddyn. Cafwyd popeth up-to-date o'r dechreu i'r diwedd. Daeth popeth yn esmwyth, llyfn, a hollol ddianghydsain. Yr oedd gwisgoedd y briodasferch, ei mor- wynion, a'i gwesanau yn dlysion a gweddus i'r amgylchiad. Derbyniodd y priodfab a'r briodferch ugeiniau o anrhegion priodasol drudfawr a gwasanaethgar oddiwrth eu cyfeillion, a dangoswyd parch mawr i gym- eriad pur a gwasanaeth aberthol Mr. a Mrs. Willington gan holl gylch eu cydnabod. Daeth hefyd yn hollol amlwg safle barchus Mr. a Mrs. Davies, Rosebery Villa, yn Llun- dain gan eu cydgenedl a chan Saeson Chelsea a Battersea. Dangoswyd iddynt barch mawr ar ddydd priodas eu merch, ac yn wir y maent yn haeddol o barch dau- ddyblig ar gyfrif eu gwasanaeth i wleidiad- aeth a chrefydd. Rhoddodd cyfeillion Mr. a Mrs. W. Davies, sef Mr. a Mrs. Hobbs, Courtlands, Staple- hurst, Kent, eu ty i fynu i wasanaeth Mr. a Mrs. Willington i dreulio eu mis mel ynddo a'r meusydd o'i amgylch. Prydnawn dydd y briodas aeth y par dedwydd, o dan gawodydd o rice a confetti, &c., o Rosebery Villa i'r Courtlands, Staplehurst, Kent. Llais pawb ydyw, "Pob llwydd i'r par dedwydd." Byw'n anwyl, heb anhunedd, Eich dau y boch hyd y bedd."

Am Gymry Llundain.