Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
MARWOLAETH A CHLADD= .EDIGAETH…
MARWOLAETH A CHLADD= EDIGAETH MR DAVID EVANS, 33, Henderson Road, S.W. Bu farw y gwr da uchod yn dra sydyn tua- banner awr wedi pump prydnawn Llun, Mai 27ain, yn ei gartref, 33, Henderson Road, Wandsworth Common. Achos ei farwolaeth ydoedd methiant sydyn y galon. Creodd y newydd am ei farwolaeth don o brudd-der dros gylch eang ei gyfeillion yn Llundain a Chymru. Brodor ydoedd o ardal y Boncath, Sir Benfro a bu drwy ei oes yn ffyddlon i nodweddion bro ei faboed. Enwau ei rieni ydoedd William ac Esther Evans. Mab Ffynnonau Gleision oedd ei dad, yr hwn wedi priodi a aeth gyda'i wraig i fyw i Amaethdy Castellan, gerllaw Blaenffos, ac yno, Tachwedd 27ain, 1838, y ganwyd eu cyntafanedig, yr hwn ar ol enw ei daid a enwasant yn David. Symudodd y teulu i fyw o'r Castellan i Rhydwen, gerllaw Crym- ych neu Crymrych, lie y bu farw y fam, Tachwedd 24ain, 1853, yn 40 oed. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Blaenffos, ac yn y fynwent wrth yr addoldy hwnnw y claddwyd hi. Disgynnodd gofal y teulu ar y tad, a rhoddodd iddynt addysg elfenol a chrefyddol. Symudodd y tad i'r Barley Mow, Trelech, ac oddi yno i'r Glasbant, ger y Talog, lie y bu farw, Hydref 3vdd, 1889, yn 84 oed. Claddwyd ef ym mynwent addoldy y Graig, Trelech. Saer coed ydoedd yr alwedigaeth ddewis- odd David, a chafodd bob mantais i ddysgu y grefft yn ei gwahanol rannau gan saer yn y gymydogaeth. Meddai barch dwfn i'w goffadwriaeth. Daeth wedi hynny i Lundain i weithio wrth ei grefft. Rhoddodd yr alwedigaeth honno i fynu, ac ymaflodd ym masnach llaeth, yn yr hon y Ilwyddodd i gasglu cyfoeth. Priododd a Miss Owen, o ardal Meifod, yn Sir Trefaldwyn, a buont fyw mewn cysur a dedwyddwch. Yr oeddynt yn aelodau yn Fetter Lane. Eithr wedi iddynt ymddeol o fasnach aethant i fyw i 3, Soudan Road, Battersea, ac ymaelodasant yn Radnor Street. Pan agorwyd eglwys yn Beauchamp Road ymaelodasant yno, am ei bod yn agos, a gwnaed Mr. David Evans yn un o flaenor- iaid cyntaf yr eglwys honno. Yn fuan wedi sefydliad yr eglwys gan yr Anibynwyr yn Battersea, Mehefin 28ain, 1903, ymunodd a'r eglwys yno ac etholwyd ef yn un o ddiacon- iaid cyntaf yr eglwys. Bu yn wasanaethgar iawn i'r eglwys hyd awr ei farwolaeth, ac y mae, wedi marw, yn llefaru eto." Pery dylanwad ei fywyd pur i weithio ymlaen yn yr eglwys dros flynyddoedd y dyfodol. Yr oedd yn ymwelwr ardderchog, ao yn dra ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Tua deunaw mlynedd yn ol teimlem fod ei natur foesol wedi ei deffro yn ddwfn-ffieiddiai bob anghyfiawnder: eithr yn y blynyddoedd diweddaf hyn daethom i deimlo fod ei natur ysbrydol wedi ei deffro drwyddi-deuai yn fwy o addolwr o flwyddyn i flwyddyn. David Evans y cywir geid amlycaf yn y blynydd- oedd gynt, ond David Evans yr addolwr Duw hefyd welir yn y blynyddoedd hyn. Bydd bwlch mawr ar ei ol yn y cylch Cym- reig yn ein dinas, ond yn yr eglwys ieuanc yn Battersea Rise bydd adwy na lenwir mo honi am amser hir. Yr oedd ef yn wr da." Gwr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd a'i holl dy, ac yn gwneuthur llawer o elusenau i'r bobl, ac yn gweddio Duw yn wastadol." Dydd Llun, Mehefin 3ydd, am 4 o'r gloch, claddwyd ei gorff lluniaidd yng Nghladdfa Gyhoeddus Magdalen Road, Wandsworth. Hawdd ydoedd gweled, wrth y dorf barchus ydoedd ynghyd, fod un a fawr gerid yn cael 61 osod yn ei argel wely. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn gan ei weinidog, y Parch. E. T. Owen; yn y capel gan y Parchn. D. C. Jones a J. Machreth Rees ac wrth y bedd gan y Parchn. H. Elfed Lewis, M.A., ac E. T. Owen. Dilynwyd y corff gan y galarwyr canlynol:—Mrs. Evans (y weddw), Miss Owen (ei nith), Mr. Daniel Evans (ei frawd), ynghyd a'i ddwy chwaer, a pherthyn- asau ereill. Ym mysg y dorf gwelsom y Parch. T. Watcyn Jones, Abercynon; Mri. D. R. Davies, D. H. Evans, Jenkin Davies, Haydn Davies, Tom Jenkins, Evan Jenkins, W. Kattray, bpurgeon Roberts, D. J. Pritch- ard, Griffith Jenkins, Benjamin Rees, Thos. Davies, W. Davies, Y.H., C.S.LI., John Richards, David Jones, Lewis Evans, John Harries, J. Daniel, Edward Jones (Iorwerth Ceitho), David Edwards, John Williams, J. Caradog Jones, J. V. Evans, William Price, W. H. Evans, a llu ereill. Boed i weddillion ein brawd orphwyso yn dawel yn y distaw fedd a pharhaed ei ysbryd caredig yn y gwaith da byth. Nodded Duw fyddo dros ei weddw anwyl, ei nith, ei chwiorydd, ei frawd, a'i holl berthynasau, ei gydswyddogion, a'r eglwys yn Battersea Rise. Hedd, perffaith hedd."
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. A'I LLENLADRAD ? At Olygydd y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. SYR,-A fyddwch chwi garediced a rhoddi gofod fechan yn eich colofnau i'r ychydig sylwadau sydd gennyf. Nid wyf yn hoffi cweryla a neb, nac ychwaith fychanu neb pwy bynnag, ond i'r gwrthwyneb. Gwell gennyf roddi gair o ganmoliaeth pan y cyf- iawnheir hynny; ond yn yr achos presennol drwg gennyf nas gallaf wneyd hynny. Cyfeiriaf yn awr at y llinellau barddonol a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf; er cof am y diweddar John Pierce, o Eglwys Dewi Sant, Llundain. Geilw yr awdwr tybiedig ei hun yn Gwydd- fryn," ond temtir fi yn fawr iawn i'w alw wrth enw arall. Pan yr oedd "Cadfan," beth amser yn ol, yn beirniadu y beirdd mewn Eisteddfod, dywedai am un o honynt yn ddifloesgni, mai hen leidr ydoedd, ac y dylasai gael ei grogi; ac edrydd cyfaill i mi ei fod ef un tro yn ysgrifennydd Eisteddfod leol mewn lie heb fod gan milldir o dref henafol Machynlleth, a Chadfan yn feirniad yno ac iddynt gael hwyl anar- ferol, mewn dinoethi llenleidr yn gyhoeddus ar y llwyfan, yr hwn oedd wedi gyrru cyfansoddiad i mewn, sef can goffa, a'r rhan fwyaf o honi wedi ei difynnnu o farwnad "Jones Talysarn;" ond y peth oedd yn dorcalonus i'r eithaf, pan gaed y drwg- weithredwr i'r llwyfan, nid oedd yn neb llai na hen athraw Cadfan ei hun, yn ei fachgenoed, ac yn gwisgo y cadach gwyn perthynol i un o'r cyrph crefyddol mwyaf parchus yn y dywysogaeth, felly y trodd y chwareu yn chwerw." Ac yn awr yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd i'r cyhoedd i gyhoeddi yng ngwyneb haul a llygad goleuni mai nid "Gwyddfryn" ydyw awdwr y llin- ellau gyhoeddwyd yn eich rhifyn diweddaf, nac un- rhyw un arall y tu yma i Glawdd Offa, ond y mae y gan wedi ei thynnu yn gyfangwbl o Farwnad ragorol o eiddo Aeronian ar ol y diweddar Ebenezer Lloyd, Trefynor, Gartheli, Ceredigion, yr hon oedd fudd- ugol yn Eisteddfod Abermeurig, yn Ebrill, 1886. Onid oferedd ydyw i ddynion honni eu hunain yn feirdd, a hwythau yn hollol amddifad o'r awen os na ellwch ganu o'ch adnoddau eich hun, gwell fyddai i chwi hongian eich Jews Harps bychain ar yr helyg hyd nes y bydd i rwd amser eu llwyr fwyta. Er boddlonrwydd i chwi, Mr. Golygydd, gosodaf yma rai o'r llinellau ochr yn ochr, fel y bernwch trosoch eich hunan. Wele hwy :— It Yn anterth bywyd yn cynllunio byw Dyfodol claer-nid hyn oedd bwriad Duw." Aeronian. Un diwyd oedd, ac yn cynllunio byw Am flwyddi maith, nid hyn oedd bwriad Duw." Gwyddfryn. Nid yw hyn ond engraifft o laweroedd ereill, pe byddai eu hangen mewn gwirionedd, nid ydyw ond copy o r gan uchod, wedi newid ambell air yma a thraw. Mr. Golygydd, nid wyf yn eich beio chwi mewn un- rhyw fodd, am fod yn anhawdd i chwi gadw gwylia- dwriaeth ar bob peth a anfonir i chwi i'w gyhoeddi; ond gresynaf at Gwyddfryn a phawb o'i hiliogaeth, ac ato ef yn benodol yr wyf yn ergydio paham, gyfaill, y gwnaethost y "mawrddrwg hwn?" a'i tybed dy fod mor ffol a meddwl y gallet dwyllo bechgyn a fagwyd ar lannau yr Aeron, yn swn miwsig awen her Aeronian. Yr ydwyt wedi bradychu diffyg cyfrwystra o'r fath waelaf, gan fod cynifer o blant glannau Aeron yn ddarllenwyr cyson a chyfar- wydd o weithiau y bardd anwyl hwn, yr hwn, er yn gorphwys mewn hedd yn naear Nantcwnlle, sydd eto yn fyw yng nghof a serch ei gyfoedion, y rhai yn naturiol a deimlant ei fod yn cael ei amddifadu (mewn bwriad) o'i ogoniant fel bardd y fro. Hyderaf y gwna y cyfaill Gwyddfryn," pwy bynnag ydyw, gymeryd yr awgrym yn garedig, ac y bydd iddo adael yr hen droion ffol hyn, a cheisio gwneud llwybr uniawn i'w draed, a pheidio byth mwy a cheisio dringo llethrau clod, trwy farchogaeth ar gefnau ceffylau benthyg. Oherwydd nid ydyw peth fel hyn yn un math o hunan-ddiwylliant, nac yn llesoli neb o'i gyfeillion. JOAN AERON.
Advertising
ST. MARY'S WELSH CHURCH, CAMBERWELL NEW ROAD. A TEA AND SALE OF WORK Will be held in the PARSONAGE GROUNDS On JUNE 20th, 1907. To be opened by MRS. J. FRANCIS (Wallog & Clapham Park), At 3.30 p.m. During the evening Glees will be given by the Mixed Choir, and Part Songs by the Male Voice Party. -r,-r"r- MISS JENNIE HUGHES (i ate of Daly's) and others will give Solos during intervals. Refreshments in the Grounds. Xeka ADMISSION, INCLUDING TEA, 1/- Proceecs towards altering the Church. LIFE AND TIMES OF ST. DAVID DEWI SANT BY OWEN RHOSCOMYL, Welsh Translation by REV. J. E. DAVIES. The work contains Genealogical Tables showing his descent and his connection with the other Saints and Princes of Cymru, and gives a fine picture of the Wales of St. David's time, and all the facts actually known concerning our Patron Saint. Is. nett. le. 3d. post free. Strongly bound, boards. Published March 18th, ODLAU SERCH A BYWYD (Lyrics of Love and Life) GAN SYR MARCHANT WILLIAMS Full Bound in Lamb Skin 2/6 nett, Postage 3d. „ in Cloth 1/6 nett, Postage 3d. To be had of all Booksellers. THE EDUCATIONAL PUBLISHING COMPANY, MERTHYR TYDFIL. LLYFRAU CYMRAEG. GWYDDFA Y BARDD, sef gwaith Barddonol y diweddar Brifardd Cawrdaf." Mewn llian, 5/6. BYWYDAU ENWOGION, yn cynwys hanes Owain Glyndwr, Dic Aberdaron, a Twm o'r Nant (ganddo ef ei hun), yn nghyd a Breiniol Gofrestr o hen Frenhinoedd a Thywysogion y Brythociaid er yr amser boreuaf. Mewn llian, 3/6. Y TAFOD 0 DAN, sef gwir nerth Cristionog- aeth, gan William Arthur, M.A. Mewn llian, 2/6. LLYFR Y RESOLUTION, neu hollawl ymroad i wasanaeth Duw, cyfieithedig gan y diweddar Doctor John Davies, o Fallwyd. Mewn llian, 3/6. IEUAN BRYDYDD HIR, sef ei holl weithiau barddonol ac amryw o'i lythyrau. Mewn llian, 3/6. EDMUND PRYS, Archddiacon Meirionydd, sef Traethawd Bywgraphyddol a Beirniadol ar yr hen Salmodlydd Melus 0 Feirion, gan y diweddar G. Jones (Glan Menai). Mewn llian, 2/6. Gellir cael yr oil o'r uchod ond anfon blaendal i P. J. EVANS, 80B, Queen's Road, Lavender Hill, London, S.W. D. OOOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWEIL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET. Telephone Nos. 30 and 601, NORTH.