Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y SENEDD.—Mae'r Cymry wedi ffoi o'r 'Senedd. Ni welir ond rhyw hanner dwsin yno y dyddiau hyn. EISIEU ABFYWIAD.—Mae'n hen bryd i Gymry Llundain ddihuno mewn materion gwleidyddol. Ers cryn amser bellach, nid ydynt wedi gwneud dim dros hyrwyddo mudiadau Oymreig yn y Senedd. CLWB SYR ALFRED.—Ni cheir son am blaid Gymreig yn y Senedd lieddyw. Yr unig weithred undebol a wneir, yw cydwledda ,gyda Syr Alfred Thomas. Priodol y gellir galw'r haid yn Glwb Syr Alfred. CYFARFODYDD.—Nos Fawrth nesaf bydd noson y merched yn noson fawr gan bobl Battersea. Rhoddir cyngherdd mawreddog yn y capel yn Battersea Rise, a daw'r mierclied i'r adwy drwy roddi swper goffi i bawb ant yno. Os am wledd ddyblig- mewn canu a chroesaw'r merched-ewch i Battersea Rise nos Fawrth. Y MEDDYGON CYMREIG.-Nos Wener, yr nvythnos ddiweddaf, cynhaliodd meddygon •Gymreig y ddinas eu ciniaw blynyddol. Llywyddwyd eleni gan Syr Isambard Owen, ,gwr ag sydd hyd yn hyn wedi gwrthsefyll jpob gwrthwynebiad ar ran clic y Brifysgol i'w yrru allan o Gymru. NOSON Y MERCHED.—Llwyddiant mawr fu noson y merched gan Urdd y Seiri Rhyddion nos Fercher, yrwythnos ddiweddaf. Mae un noson yn rhydd i'r merched bob blwyddyn gan yr Urdd Gyfrin hon, a daeth tua 150 i neuadd y Criterion i eistedd wrth fwrdd gwledd am y noson. Croesawyd hwy gan y Pen-feistr anrhydeddus-y Dr. Dan L. 'Thomas, Stepney-yr hwn a lywyddodd ar y rhyw deg fel hen wr profiadol." Nis ;gallai neb a'i gwyliai y noson hon ddyweyd anai bachgen ifanc oedd, ac yn sicr ni ddeil felly yn hir pan fo'r fath ddewis ar ei law ag a gafodd yn y wledd eleni. RAMBLERS KING'S CROSS." Talodd aelodau yr uchod ymweliad a Chiugford prydnawn Iau diweddaf, ac er i'r hin droi .allan yn anffafriol at yr hwyr, a thrwy hynny ,in hatal rhag myned am "ramble" drwy Epping Forest, cafwyd amser da o dan arweiniad medrus Miss Cissie Davies a Miss L. Evans. SILVER STREET.—Nos Sadwrn, Mehefin laf, rhoddwyd te rhad, trwy garedigrwydd B. J. Rees, Ysw., King's Cross, i ystafell orlawn o "frodyr a chwiorydd. Cynhaliwyd cyngherdd rhagorol dan lywyddiaeth Mr. Rees. Dat- ganwyd gan Cor bach, Silver Street; Miss Parry, Wilton Square; Miss Laura Evans, 'Stanley Davies, King's Cross a'r Withering- ton Glee Party, J. R. Evans, Nellie a Frank. Hefyd dadl gan Misses Stephens, ac adroddiad gan Mr. Jones. Cyfeiliwyd gan Miss Laura Evans a J. W. Lewis. Yr oedd yr oil yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad, a gwerth- lawrogir eu caredigrwydd. Lion gennym fod cyrddau y prydnawn a nos Sabothau a. nos Fercher mor gymeradwyol. Disgwylir gwibdaith i Chingford yn fuan. Bydd yn dda gennym i ereill efelychu caredigrwydd y Gadeirydd a'r cyfeillion. MARWOLAETH MRS. W. BOWEN, White Horse 'Street, Stepney.—Yn blygeiniol iawn, gyda thoriad y wawr, bu farw yr anwyl chwaer uchod, Mai 27ain, yn 48 mlwydd oed, ar ol cystudd trwm am amryw fisoedd, yr hyn a ddioddefodd yn hynod o amyneddgar. Nos lau, Mai 30ain, daeth lliaws mawr o'i chyfeillion a'i pherthynasau i orsaf Euston, pryd y dilynvvyd y corff gan ei phriod a'i phlant, ei chwaer, a'i dau frawd i Aber- ystwyth, lie y rhoddwyd hi i orphwys gyda'i rhieni yrn mynwent Penygarn, ger Aber- ystwyth, a daeth tyrfa liosog i dalu y gym- wynas olaf iddi, pryd y gweinyddiwyd yn effeithiol gan Mr. Roberts, Siloh. Cysured yr Arglwydd ei theulu galarus yn eu trallod.

Advertising