Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. MISS LAURA EVANs.-Yr wythnos hon, anrhegir ein darllenwyr a darlun o'r gan- tores hon. Os na wyddant lawer am dani, y mae ei chanu yn lied sicr o'u gwneud yn edmygwyr ohoni pan y clywant hi yn pyngcio! Dywedwn hyn ar ol ei chlywed deirgwaith, ,a hefyd gael ar ddeall gan ei hathraw, Mr. Edward Isles, ei bod hi a Mr. Furness Williams, y tenor, yn lied sicr o wneud eu marc fel datganwyr. Os ydyw awdurdod fel hwn yn fabh o'u ddau ddisgybl Cymreig, "odid na ddaw ein cenedl i'w mawr edmygu cyn hir! Ganwyd Miss Evans yn Henllan, ger Dinbych, yn 1884. Pan yn bedair mlwydd oed, yr oedd yn ddisgybl i Miss Jane Roberts, merch yr enwog a'r caruaidd John Roberts, Henllan. Wedi hynny bu o dan lofat Miss Roberts, High Street, Dinbych. Yr hyn a'i cymhellodd i fyiied yn y blaen gyda'r gan ydoedd ei llwyddiant cyson fel •cystadleuydd unawdol mewn Eistedd- fodau. Yr oedd yn gorchfygu ereill yn y maes hwn er yn chwe' mlwydd oed. Pan yn naw oed, yr oedd yn chwareu y berdoneg, mewn cystadleuaeth, yn Eisteddfod bwysig Dolgellau. Ymgeis- iau un-ar-bymtheg. Er cyrraedd rhai o'r cordiau yr oedd yn rhaid i'r fach godi ar ei thraed ac estyn ei bysedd i'r -eithaf Chwarddodd y beirniad, Joseph Bennett, yn galonog, ond iddi hi yr aeth y wobr. Gwelir pa fath gantores ydoedd pan y deallir ddarfod iddi pan yn ddeg oed ymgeisio mewn tair cystadleuaeth mewn Cyfarfod Cystadleuol yn y Groes, ger Dinbych Un i rai dan ddeuddeg oed tin i rai dan bedair-ar-ddeg oed; ac un i rai dan un-ar-bymtheg oed. Enillodd y tair gwobr! Nid oes gofod i ddilyn ei holl or- chestion yn y blynyddoedd boreuol hyn digon cyfeirio yn unig at Eisteddfod Corwen [pan oedd Miss Evans yn 16eg oed]. Yma, allan o 29, enillodd y wobr am ganu yr unawd contralto, "0 thou that tellest" (o'r "Messiah"). Ac nid dynar unig dro iddi ennill yn yr Eisted- fod bwysig hon. Wrth gwrs yr oedd ei llwyddiant yn dod a galwadau mynych iddi i ganu mewn cyngherddau, ac i gymeryd rhan .mewn cyfanweithiau. Bu am amser yn ddisgybl i Mr. Wilfrid -Jones, Gwrecsam. Y pryd hyn yr oedd yn addaw dadblygu yn contralto gyfoethog; ond erbyn hyn wele hi yn Soprano or fath oreu. Gall gyrraedd y 0 dwbl, i fyny yn rhwydd. Oynebydd y sawl a'i clyw ragor- oldeb ei llais, o ran nerth a phurdeb an- sawdd, drwy gylch eang ei nodau. Argy- hoedda ni wrth ganu, fod ei holl galon yn ei gwaith a chydar peth hanfodol hwn, sicr 3 ilwydda i apelio at galon ei gwrandawyr Os na chamsyniwn yn fawr, y mae yr amsei .yn dod pan y bydd Miss Evans yn sefyll yi rheng flaenaf cantorion ein cenedl; ac 01 gwna llais da ac ymroddiad di-ildio i antur iaeth, a hynny o dan ofal gwr mor llwydd ianus fel addysgwr, sillebu llwyddiant,' bydd yn feddiant sicr iddi. CYMANFA Y PLANT.—Cynhaliwyd hon yi Jewin nos Iau diweddaf, ac yr oedd yi llwyddiant mawr mewn ystyr gerddorol Pur anaml y clywsom gystal cantorioi leuaino mewn cystadleuaethau unawdol, Sec Gan y bydd adroddiad or holl weithrediadal yn ein colofnau, nid oes angen manylu a bob cystadleuaeth yma. Cyfarfod tystfawr iawn ydoedd hwn, a direol, hefyd. Gellid dwyn trefn ar bethau drwy benodi Arweinydd da i gynorthwyo y Cadeirydd; hefyd bedwar Sleward-dau bob ochr. Gallai y cyfryw fod a'u llygaid yn barhaus ar y plant. Gallent hefyd helpu i gadw y rhai mewn oed yn ddistaw yn yr ochrau, o dan yr oriel. Dylid hefyd gael dau feirniad cerddorol, un i weithredu yn y Gymanfa a'r llall i helpu gyda'r "chwynnu." Gellid "chwyn- nu nifer fawr gan y ddau y noson cyn y Gymanfa, neu yr wythnos flaenorol; ac os byddai angen chwynnu rhyw weddill noson yr wyl, gellid, yn rhwydd drefnu hynny, gyda dan feirniad. Na sonier am y gost"; rhaid myned i gost i wneud y gwaith yn dda a threfnus. Nid oes rheswm ychwaith mewn gorfodi i'r corau plant ganu am hanner awr wedi deg- amser y dylai y rhai bach fod gartref yn cysgu! Dylent gael canu am, dyweder, wyth o'r gloch, a myned adref os MISS LAURA EVANS. l dymunai ell rhieni iddynt y pryd hynny. Gellid rhoddi y dyfarniad ar y canu ar l derfyn y gweithrediadau. l Peth arall. Rhaid yn wir wrth fwy o ofal wrth ddewis darn cystadleuol. Y mae L nodau yn y darn a genid ydynt yn ormod treth ar leisiau plant o wyth i ddeuddeg oed t ac nid oedd rhyfedd fod cymaint o ganu c allan o don yn y gystadleuaeth bresennol. 1 B Gan fod y darian" wedi ei hennill yn llwyr gan gor Falmouth Road, oni fyddai yn dda gwneud y gystadleuaeth yn y dyfodol yn anhawddach ? Gellid dewis Anthem fer, a hefyd Ran-gan i'w canu gan bob cor: darnau i leisiau plant yn unig fyddai oreu. 1 Y mae y rhai bach yn canu yn fwy swynol ar eu penau eu hunain! Meddylier am hyn oil. 1 Synasom at allu cor bach Mile End. Yr 1 oedd canu y fath ddarn gyda thonyddiaeth r mor bur yn glod mawr iddynt. Yn wir rhoddasant ddatganiad rhagorol ini. Yng nghor Jewin cawsom siomedigaeth. Yr oedd allan o don yn fuan ar ol dechreu, ac yr oedd yn y niwl hyd y diwedd. Y mae yn digwydd fel hyn weithiau, i gorau. Yr oedd Falmouth Roadar ei oreu. Yr oedd yma fwy o blant a mwy o rai profiadol nac a geid yng nghor Mile End. Yr oedd gan y cor hefyd amrywd arawiadau hapus, yn dangos ol astudiaeth fanwl. Yr oedd llawer o orphenedd yn y datganiad hwn. Iddo ef, am y drydedd waith, yr aeth y wobr. Yr oedd yn ei haeddu. Llongyfarchwn Mr. Morgan, yr arweinydd, a Mr. Morris, Mile End, a gobeithiwn y bydd i gor Air. Thomas, Jewin, wneud mwy o gyfiawnder ag ef ei hun y tro nesaf Y CERDDOR AM MEHEFINCeir ynddo Motett, gan J. H. Roberts, ar y geiriau A welsoch chwi Ef ? Credwn ei fod yn un o'r darnau goreu ymddangosodd yn y cy- hoeddiad hwn. Gerddorion, mynwch weled a dysgu y darn y mae yn odidog. Y VIBRATO.Yr ydym wedi cael gair oddiwrth Mr. Madoc Davies, a bydd gennym lith led faith ar y testyn hwn yr wythnos nesaf. FURNESS, WILLIAMS.—Cawsom ymgom a Mr Edward lies, Athraw Cerddorol y Cymro a ennwyd. Tystia fod Cymru wedi anfon i Lundain gantor fydd yn y man ymhlith goreuon Tenoriaid y Deyrnas Bachgen o Ruthyn ydyw Mr. Williams. Ceisiwn ychydig o'i hanes cyn hir. W = as

Cymanfa'r Plant.