Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

-----Ffrae yr Enwad au.

News
Cite
Share

Ffrae yr Enwad au. Gan i ymgais yr enwadau i ddymchwelyd y Ddirprwyaeth Eglwysig droi yn fethiant, mae'r arweinwyr enwadol wedi dechreu syrthio ar yddfau eu gilydd. Mae'r Metho- distiaid wedi myned i ddrwgdybio yr Ani- bynwyr, ac mae'r Anibynwyr hwythau wedi ymosod ar yr Hen Gorph, gan gyhuddo y Pwyllgor ynglyn ag ef o anheyrngarwch a bradwriaeth. Nid yw'r helynt ond megys ar ddechreu, ond y mae digon o deimladau chwerw wedi eu creu eisoes a beru i bawb anghofio bodolaeth y Ddirprwyaeth. Dengys yr helynt fath arweinwyr cul a diegwyddor sydd gan y naill blaid a'r Hall. Maent wedi eu trwytho ag enwadaeth fel yr aberthant bawb a phopeth er mwyn eu heulun, a phan fo galwad am ycliydig ffeithiau plaen oddiwrthynt ceisiant ym mhob modd eu hosgoi. Mae hanes y ffrwgwd presennol yn un tra nodweddiadol o'r bobl hyn. Cynllwynasant ar y dechreu i beidio rhoddi tystiolaeth ger bron y Ddirprwyaeth, ond ar delerau arben- nig. Llwyddodd y Bedyddwyr a'r Ani- bynwyr gael gan y Methodistiaid i gytuno na roddent dystiolaeth ond ar y telerau y teimlai yr enwad f'ai mwyaf manteisiol i'w hachos. Yr oedd y Methodistiaid wedi cael awgrym gan y Pwyllgor Canolog pa fath dystiolaetb fyddai'n dderbyniol, a pharatois- ant eu hachos ar y llinellau priodol. Gwel- odd rhai o'u gwyr mwyaf goleuedig y gaUasent wneud y cyfan yn unol a lies yr enwad, ac aethant yn eu blaen. Pan glywodd yr Anibynwyr hyn ffromasant yn ddirfawr, a cheisia rhai o'u pobl gyhuddo y Methodist- iaid o anheyrngarwch fel pe disgwylient i'r enwad hwnnw gyflwyno eu hachos i farn yr Anibynwyr yng nghyntaf cyn gyrru'r proofs i'r Ddirprwyaeth. Mae'r drwg wedi ei ddechreu, a 'does dim i'w ddisgwyl bellach ond ffrae fawr cydrhwng yr enwadau hyn, os na. fydd yr Hen Gorph yn ddigon call a mawrfrydig a gadael yn ddisylw ebychiadau y corgwn siomedig sy'n ceisio ail-agor hen gwestiwn enwadaeth yng Nghymru. Siom y Senedd. Nos Lun diweddaf cafodd aelodau Ty'r Cyffredin agoriad llygaid ar waith y tymor presennol. Addefodd Syr H. Oampbell Bannerman nas gallesid cyflawni yr holl fwriadau, ond fod y Weinyddiaeth yn ben- derfynol o wthio drwodd amryw fesurau buddiol cyn gwyliau Awst. Mae Mesur Rheolaeth Cartrefol yr Iwerddon wedi ei ladd, a gadawodd y Prif Weinidog ef yn ei ddinodedd haeddianol nos Lun. Mae'n amlwg fod y Ty yn teimlo yn dra chwithig ar ol ymddygiad Mr. Redmond, ac nis gall y gwr hwnnw a'i Blaid gwyno llawer os gadewir y Mesur yn llonydd, am ysbaid beth bynnag. Rhaid i'r Ymneillduwyr hefyd fod yn foddlawn i aros am flwyddyn eto cyn y gellir gwella yr anghysonderau presennol, ac nid oes sicrwydd y gellir, y pryd hynny, symud yr holl gwynion. Ond y prif fwgan sydd gan y Weinyddiaeth yw Ty'r Arglwyddi! Mae hwn o flaen pob symudiad o'u heiddo. Nis gallant feddwl am Fesur a Rheol na dyfeisio Deddf o fath yn y byd heb ofyn y cwestiwn, Beth a ganiata Ty'r Arglwyddi ? Y Ty Uchaf yw'r meistr o hyd, ac ofer siarad na gweithio tra fo hwn ag awenau pob plaid yn ei law. Cred Syr H. Campbell Bannerman fod y wlad yn barod i ddeddfu ar y Ty. Prin yr ydym yn credu hynny. Ag eithrio Mesur Addysg, nid yw wedi gwrthod pasio yr un mesur defnyddiol. Ac nid oedd pob peth ynglyn a'r Mesur hwnnw yn boddloni mwyafrif y wlad. Myn y wlad gael addysg hollol rydd oddiwrth sect- yddiaeth, a dynna'r unig feddyginiaeth i'r cwestiwn mawr hwn, a hyd nes y gwel y Llywodraeth yn ddoeth i ddwyn mesur o'r fath i mewn, ofer fydd ceisio am gefnogaeth y wlad yn erbyn Ty'r Arglwyddi. Yr unig ffordd i gael gan y cyhoedd i gymeryd dyddordeb yn achos y Rhyddfrydwyr yw trwy wthio drwy Dy'r Cyffredin gynnifer o ddeddfau llesol ag sy'n bosibl. Llanwer Dy'r Arglwyddi a gwaith, ac ond iddynt barhau i wrthod, yna gall y Llywodraeth gyda hyder apelio at y wlad. Ond ar hyn o bryd ofer disgwyl am gri yn erbyn yr Arglwyddi pan nad ydynt wedi cael cyfle i wneud yr un niwed i'r bobl! Inglis Cos." Mae rhai pobl yn Llundain yn dra awyddus i sefydlu achosion Seisnig yn y ddinas. Nid yw'r hen gapelau Oymreig yn ddigon byw i'w cenhadaethau, a chan fod llu mawr o Gymry Seisnigaidd yn dod o'r wlad yn barhaus credir y dylai fod lleoedd gan y Cymry yn Llundain i'w croesawu. Yr oeddem yn meddwl fod digon o addoldai yn y ddinas i'r rhai sy'n mynychu y fath leoedd. Dyna oedd barn y bobl fu'n gwneud cyfrif- iad crefyddol yn Llundain rhai blynyddau yn ol. Ac mae gan bob enwad bron en cyn- rychiolwyr Seisnig yn Llundain yn barod. Ond nid yw hyn yn ddigon i gefnogwyr yr Inglis Cos." Yr hyn sydd eisieu arnynt hwy yw troi rhai o'r capelau presennol yn. Seisnig a chael Cymry i'w rheoli fel yr achosion Seisnig yng Nghymru. Gwyddom fod llu mawr o Gymry ieuainc yn yr Hen Wlad yn cael eu dwyn i fynu ar gynlluniau snobyddol eu rhieni, ac yn cael eu gyrru i gapelau Seisnig am eu bod yn fwy respectable, ond gwel y rhai hyn wedi dod i Lundain ei bod yn fwy respectable i ddod i gapel Cym- reig! Ac er mwyn cadw at yr achos mae rhai o honynt wedi awgrymu y dylem roddi nodded i gynnyrch yr achosion Seisnig yng Nghymru. Hyd yn hyn nid yw'r elfen Seisnig wedi gwneud dim ond drwg i'r capelau Cymreig. Does yr un achos sydd. yn cefnogi y Saesneg ar raddfa helaeth wedi troi'n llwyddiant a hyderwn nas gwelir ddrygu achos crefydd ym mysg Cymry'r, ddinas eto, yn unig er boddio balchder a snobeiddiwch rhai o Ddic-Sion-Dafyddion, ein cenedl.