Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

SGWRS A " THALDIR,"

News
Cite
Share

SGWRS A THALDIR," Y Bardd Llydewig. Boreu Llun diweddaf daeth un o gardiau nodweddiadol fy nghyfaill, Kelt Edwards, yr arlunydd, i'm Haw. Hysbysai fi yn syml a didaro fod Apostol Cenedlaetholdeb Llydaw am dro yn Llun- dain," ac y byddai'n bosibl i mi gael cyfarfod ag ef yn hwyr yr un dydd. Am bump o'r gloch, i'r funud union, yr oeddwn yn ysgwyd llaw a'r bardd enwog a'r gwladgarwr gwych o Lydaw yn ystafell ysmygu y Olwb Cymreig, ac wedi cyflwyno fy hun iddo fel "cynry chicly dd neillduol" CELT LLUNDAIN. Edrychai Taldir yn debyg iawn i lawer gwr ieuanc welir yma a thraw ar hyd De- heudir Cymru, er y dywedai ef ei hun fod pobl y Gogledd yn dweyd ei fod yn debyg i Wyddel. Gydag ef yr oedd ei is-olygydd i'r Ar Bobl, newyddiadur cenedlaethol Llydaw. Ei enw ef ydoedd M. Berr; a phe buasai i mi gyfarfod ag ef yn rhywle ar yr ystryd, buasai i mi dyngu i'm fy hunan taw un o fechgyn Sir Forganwg oedd, a buaswn mewn perygl o floeddio Hwre i Gymru," er dangos y medr Oymro adnabod Cymro arall ble bynnag y cyfarfyddant. Nid ydyw calfach. o for na dylanwad amgylchoedd gwahanol wedi medru gwneud i ffwrdd a thebygolrwydd gwyneb a chorff yn y ddau deulu hyd yn hyn. Siaradai'r ddau Gymraeg pur, ynghyd a Saesneg gweddol-er na chlywsom, drwy drugaredd, fawr o'r llafar ysgrechlyd honno nos Lun. Yr oedd y cwmni i gyd yn Gymry pur, a than gwladgarwch ein calonnau Cymreig heb ei ddiffodd gan ofid, brys, a bychander eneidiol prif ddinas y Sais. Trodd y siarad yn fuan at genedlaetholdeb, a dyddorol oedd clywed y gwladgarwyr Llydewig yn hel hanes y mudiad yn Arfor. Teimlem fod yna ryw debygrwydd rhyfedd rhwng Llydaw a Chymru. Y mae'r ddwy yn ddaearol rhwng "yr estron a'r mor"— "the devil and the deep sea"—fel pe tai. Ar waethaf yr estron y mae y ddwy genedl fechan wedi medru cadw eu hunaniaeth cenedlaethol, ac y mae yna lawer cefn wedi crymu, a llawer pen wedi ei ostwng, gan galeted yr ymdrech i gadw'r dylanwadau estronol draw. Er gwaethaf yr oil, y mae y ddwy genedl fecban wedi bod yn hael i'r matron mewn ysbrydoliaeth ac athrylith. Y mae enwau Renan a Chateaubriand a llu -ereill yn brofion yn lien y wlad honno mor bell y medr dylanwad y genedl fechan dreiddio i fywyd y genedl fawr falch. Ond dyna, gadawn i Daldir siarad. Yn ol arfer y newyddiadurwr, gofynais iddo (yn bwysig), A ydyw'r ysbryd cenedlaethol yn fyw iawn yn Llydaw heddyw ? "Nid hawdd ateb eich gwestiwn," ebai Taldir, am nad hawdd i chwi sylweddoli ystad pethau yn Llydaw." Yr ydym ni yno yn awr yr un fan ag yr oeddech chwi yn Nghymru ddechreu teyrnasiad Buddug, tua 1840-1850. Y mae yna un dosbarth, dosbarth bychan dysgedig a dylanwadol, yn fyw o genedlgarwch, ac yn cymeryd y dydd- ordeb niwyaf yn hanes lien a thraddodiadau eu gwlad, ond y mae y bobl gyffredin, anys- gedig, yn ddidaro iawn, ac ymron heb eu deffro i'w gwerth a'u nerth eu hunain. Rhaid i chwi gofio fod yr ysgolion yn ein herbyn ni yn Ffraingc. Ni wna'r Llywodraeth ar unrhyw gyfrif gymaint ag addef ein bodol- aeth ni fel cenedl, a thra yn Nghymru y ca plentyn gyfleusterau i ddysgu ei iaith tu fewn i furiau ei ysgol, rhaid i ni ymddibynnu'n hollol ar yr aelwyd, a chyn daw'r aelwyd at ei gwaith o ddifrif, rhaid deffro duwiau'r aelwyd-y tad a'r fam. Cofiwch, serch hynny," ychwanegai Taldir, nid ydym heb ddechreu dylanwadu ar gyfundrefn addysg y wlad." Y mae yr Ieithoedd Celtaidd yn dechreu cael eu lie yn y prif ysgolion. Yn Rennes, er engraifft, y mae'r doethawr J. Loth yn athraw'r Ieithoedd Celtaidd. Dyna lie y dechreuais i ddysgu tipyn o Gymraeg," meddai. A ydych yn teimlo fod y Llywodraeth Ffrengig yn elynol i chwi ? meddwn innau. [Ca Taldir ateb yr wythnos nesaf.—Gol.]

Bwrdd y Gol.

Advertising