Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

[No title]

News
Cite
Share

NID yw Llys Prifysgol Cymru yn rhydd oddiwrth glicyddiaeth. Mewn cyfarfod o'r Llys gynhaliwyd yn y Mwythig yr wythnos ddiweddaf, buwyd yn ceisio di-orseddu yr Is-ganghellydd, Syr Isambard Owen, ond profodd y mudiad yn fethiant y tro hwn. YR oedd 11,577 o blant yn Ysgolion Canolradd Cymru yn 1906, ac o'r nifer enfawr hwn ni chaed ond 2,730 yn ceisio dysgu Cymraeg. Nid fel yna y dylai pethau fod, yn sicr,.a da gennym ddeall fod pethau yn graddol ddiwygio yn hyn o faes. YEt wythnos ddiweddaf agorwyd capel newydd i'r Bedyddwyr yn Llandrindod. Mae'n adeilad hardd, gwerth chwe' mil o bunnau, a chynwysa eisteddleoedd i fil o aelodau. Y Parch. James Jones, B.Sc., yw'r gweinidog. CAFODD Gwarcheidwaid Undeb West Ham wers amserol yr wythnos ddiweddaf am ladrata arian y cyhoedd. Gyrrwyd hwy i garchar gyda llafur caled, rhai i ddwy flynedd, ac ereill naw, a chwe mis. GWR anffodus yw Mr. Birrell, ac mae wedi cael dwy wers bellach nad yw'r wlad yn malio rhyw lawer am gymodwyr a gwleid- yddwyr ymarferol. Gwell gan y dyn cyffredin weled ymladdfa boeth tros egwydd- orion a hawliau cyflawn, na rhyw gymod glasdwraidd gyda'r bwriad o geisio bodd- loni pob plaid a dosbarth. Mae mesur newydd yr Iwerddon, yn barod, mor farw a hoel drws. MAE gwyr mawr ein cenedl yn troi'n feirdd i gyd, a deallwn fod dau o honynt, sef Sir T. Marchant Williams a Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., wedi cyfansoddi caneuon arbennig i gyhoeddiad blynyddol Cym- deithas y Cymmrodorion. Cana y blaenaf gofeb Gymraeg i'r diweddar Stephen Evans, tra mai awdl Saesneg geir gan yr olaf ar un o hen arwyr y Deheubarth. Rhaid i Dyfed a Lewis Morris edrych ati ar ol hyn