Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. MR. DAVID RICHARDS.—Y mae gennym y pleser yr wythnos hon o roddi darlun a -chrynodeb o hanes gyrfa gerddorol y gwr ieuanc hwn. Fel y gwyr llawer o'n dar- Ilenwyr, efe ydyw Organydd y Tabernacl, King's Cross: swydd y gofynwyd cael Meistr i'w llanw i foddloni cynulleidfa mor fawr ymhob modd o'r addfed Elfed i lawr Ganwyd ef yn Brynhyfryd, Abertawe, y 30ain o Fai, 1880, a chan nad yw eto wedi ,dysgu chwareu ar dannau calon neb merch, gall y rhyw deg gyfrif ei oedran Y mae ger bron y cyhoedd er pan yn wyth mlwydd oed. Pan yn 12eg mlwydd oed yr .oedd yn organydd Eglwys All Saints, Pont- ardawe, Dyffryn Abertawe, a glynnodd wrth y swydd hyd heddyw. Bu yn Pontardawe am bum' mlynedd, ac yn ddilynol yn Aber- tawe, lie yr ydoedd galwad mawr am ei wasanaeth fel cyfeilydd. Yn wir el yno yn awr i chwareu. Y prif ddigwyddiad yn ei hanes ydoedd ei gyfarfyddiad a, Madam Patti, y gantores fyd-enwog, o Graig-y-Nos; ac nid yw y gydnabyddiaeth wedi darfod eto, canys bydd Mr. Richards yn cyfeilio iddi yn ei chyng- herdd ym mis Medi er budd Ysbytty Aber- tawe. Wele dystiolaeth Madam Patti iddo -ar ei ymadawiad o Abertawe am Lundain :— I have much pleasure in stating that I consider Mr. David Richards an excellent musician, with a thorough knowledge of Music and Harmony. He is a very clever accompanist, and is thoroughly competent to fill the post of Or- ganist in a large Cathedral." Y mae tystiolaeth fel hon yn gyfryw ag y gallai unrhyw chwareuydd ymfalchio ynddi a diau gennym y bu, ac y bydd eto, o werth mawr iddo yn ei yrfa fel Organydd. Deallir barn pobl Abertawe am dano pan y dywedir ei fod i gyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn hon. Y mae gwers ym mywyd pob dyn, ac y mae darllen y "dystiolaeth" uchod i Mr. Richards, a gwybod pa mor werthfawr ydyw ei lafur yng ngolwg pobl Abertawe, yn peri ini ofyn a ydyw Cymry Llundain wedi peidio ei esgeuluso yn ormodol ? Pa mor ami y gwelir ef yn cyfeilio yn ein cyngherddau Cymreig yn y ddinas hon ? Pur anaml! ac onid yw hynny yn resyn yng ngwyneb barn addfed Madam Patti am dano ? Credwn ein bod yn gwneud gwasanaeth i Gymru Llundain drwy alw sylw at y gwr ieuanc hwn, a mawr hyderwn y ceir gweled ei enw yn amlacli fel cyfeilydd yn y gwa- hanol gylchoedd cerddorol. CERDDORIAETH GYMRAEG. Y mae ein •eym'dogion yn myned yn y blaen yn wir! Eu cam diweddaraf ydyw hyfforddi plant yr Ysgolion Elfenol mewn cerddoriaeth offer- ynol—gerddorfaol. Bydd mil o blant, wedi -eu dewis allan o haner cant o ysgolion dyddiol, yn chwareu yn yr Alexandra Palace yn ystod Mehefin. Rhagorol! A gwyn fyd na ellid gwneud darpariaeth o'r fath i blant Cymru Beth pe dewisid, dywedir ugain o fechgyn a genethod ym mhob ysgol o fewn pob Sir yng Nghymru i'w haddysgu mewn chwareu y Violin, y Viola a'r Cello i ddechreu. Hefyd y Flute, a'r Clarionet a'r Bassoon. A all rywun ddirnad y lies ddeilliai i Gerdd- oriaeth Gymreig o fewn yr ugain mlynedd nesaf ? Beth wnaeth yr Eisteddfod o fewn yr ugain mlynedd diweddaf er gwella Cerdd- oriaeth Gerddorfaol ein gwlad ? Bron ddim. Gan hynny, oni ddylem fanteisio ar y nieddylddrych a ddyry y Sais ini ? Gwel ef mai doeth ydyw dechreu gyda'r plant, a hynny yn yr ysgolion dyddiol—lie y ceir addysg ac ymarferiad cyson. Sut y cafwyd yr offerynau a phwy dal am yr addysg nis gwyddom; ond os daeth y Sais dros yr anhawsterau hyn, sicr y gallai y Cymro b.efyd ddod. Yr ydym wedi anfon llith i'r papurau Cymreig ar y mater dyddorol a phwysig hwn, a chrybwyllir ef yma hefyd yn y gobaith y bydd y CYMRO A'R CELT yn foddion i ddwyn y mater ymhellach i sylw. Gobeithio y bydd i bob Ysgol Elfenol, &c., yng Nghymru drefnu i ymgymeryd a'r gwaith pwysig hwn. Gellid cynnal dos- barthiadau ar ol yr oriau arferol ym mhob ysgol; ac o berthynas i'r gost, credwn fod teuluoedd a phersonau cefnog ym mhob ardal fyddent yn barod i helpu gydag arian. Hwyrach hefyd y gwna y Byrddau Lleol a'r Cynghorau Sirol helpu, os bydd angen gofyn iddynt. MR. DAVID RICHARDS, A.R.C.O. (Organydd y Tabernacl Cymraeg, King's Cross). CERDDORIAETH GREGORAIDD."—Y mae y Pabyddion yn ad-drefnu y cyfryw y dyddiau hyn. Nid ydyw Cerddoriaeth Gysegredig ysgafn Mozart a Haydn mewn ffafr yn awr; ac yn wir y mae yn fwy tlws nag ydyw o gysegredig Fel hyn gwelir y duedd ar y naill law i fyned yn rhy bell-yn rhy am- rywiog gyda Cherddoriaeth y Cyssegr, ac ar y Haw arall ddymuniad am fyned yn ol at y syml, defosiynol. Nis gellir amgyffred cerddoriaeth fwy defosiynol na'r un Greg- oraidd," fel nad yw yn syndod yn y byd fod y Pabyddion yn ei gefnogi. EISTEDDFOD Sm FON.-Y mae pobl Sir Fon bellach wedi sefydlu Eisteddfod Sirol. Cynhaliwyd y gyntaf yng Nghaergybi y Llun- gwyn, ac yr oedd yn un llwyddiannus. Dywedai Pedrog mai hon ydoedd yr un fwyaf Gymreig a fu ynddi ers blynyddau Diolch am Eisteddfod Gymreig Am ganu Ymweliad y Gog;" allan o chwech o gorau, enillodd cor plant Cybi. I gorau Sir Fon yr oedd gwobr am ganu Bydd melus gofio y cyfamod." Pedwar yn cynnyg.; goreu cor Holyhead. Yn y cyng- herdd canodd Miss Jennie Ellis, Mr. Gwilym Richards, a Mr. Charles Tree. Go dda, Sir Fon! Edryched Dolgellau a Chorwen ati! Y TENORS.—Yn Eisteddfod y Bala y dydd o'r blaen yr oedd Mr. Harry Evans yn dweyd y drefn. Dyma'r hyn a ddarllen- asom :— Mr. Evans said that Welsh Tenors were degenerating, and were becoming a positive nuisance at many Eisteddfodau, because of the objectionable vibrato characteristics of their performance. Now- a-days the Tenor was a sort of bad bleat." Beth ydyw barn gwyr fel Mr. Madoc Davies, Mr. Maengwyn Davies, ac ereill ar hyn ? Bydd yn dda gennym roddi lie iddynt ddweyd eu barn. MADAM PATTI.-Dywed ddarfod i Wagner ysgrifennu rhan Kundry yn Parsifal iddi hi, ond pan y gwelodd hi y byddai raid ysgrechian, gwrthododd ganu yn yr Opera. Yr oedd Wagner o'i got, a byth er hynny nis gwelai hi! Er hyn dywed y gantores ei bod yn hoff iawn o gerddoriaeth Wagner. Y RING.Dywed Critic pe gellid gosod wrth eu gilydd y pigion o'r gwaith mawr hwn, y gwnelai yr Opera oreu a welodd y byd erioed. Eithaf gwir ond y gresyn yw nad ydyw Wagner yn fyw i ymgymeryd a'r gorchwyl! HANES CERDDORION CYMREIG.-Diolch yn fawr i Mr. Vincent Evans am gopi o'r llyfr hwn, gan Mr. M. 0. Jones.

[No title]