Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

UNtVERStTY COLLEGE OF WALES,…

Advertising

Y Gwyddet Eto.

News
Cite
Share

Y Gwyddet Eto. Beth bynnag ellir ddyweyd yn erbyn arweinwyr gwleidyddol yr Iwerddon, nis gellir cyhuddo y genedl o anghysondeb. Ymreolaeth ac Anibyniaeth yw'r geiriau sydd ganddi hi ar ei baner ers cenedlaethau bellach, a does dim hawl gan yr un o'i chynrychiolwyr yn Senedd Prydain i ym- foddloni ar lai na hyn. Oeisia Senedd ar ol Senedd, a'r naill brif-weinidog ar ol y Hall, liniaru ychydig ar y cri drwy gynwyno iddi fesurau bendithfawr a deddfau nad oes en hafal gan y Sais ei hun end ar ol yr holl garedigrwydd a'r rhyddfrydigrwydd hyn, parhaa i ofyn am ymreolaeth wna'r Gwyddel o hyd. Yr wythnosau diweddaf gwnaed ymgais gan y Wemyddiaeth breaennol i glydo ychydig ar gynllun rheolaeth yr Ynys Werdd, ac ar ol penodi Mr. Birrell i fod yn Brif-Ysgriiennydd credai'r gwleidyddwr cyNredin, y byddai'n ddigon craS ac yn ddigon gallaog i gymodi yr holl bleidiau, fel ag i Imiarn cryn lawer ar gri mawr y bobl. Dygodd ei Feaur newydd ger bron y Ty, a rhoddwyd iddo ei ddarlleniad cyntaf gyda cbryn lawer o gymeradwyaeth ond byr ]hi parhad y llawenydd ynglyn ag ef! Yr wythnos ddiweddaf galwyd y cadau Gwydd- elig ynghyd i'w ystyried, ac ar ol trafodaeth bwyllog a gofalus penderfynwyd, gydag unfrydedd hollol, nad oedd yr Iwerddon yn barod i'w dderbyn; ei fod yn ddiles i'r genedl, ac nad oes dim. llai nag Ymreolaeth hollol a foddlona'r bobi sydd wedi brwydro cyhyd dros ryddid ac iawnder. Mae'r pen- derfyniad hwn wedi parlysu'r Weinyddiaeth, ac mae rhai pobi eisoea yn cyhuddo'r Gwyddelod o fradwriaeth a gwamalwch ond yn ol y tarn fwyaf addfed nis gallent fel cenedl wneud dim arall na rhoddi terfyn bythol ar yr awydd parhaus o glytio deddfau, pan y gwyddisraai'runigfeddyginiaetli yw'r hyn a addawyd iddi gan Mr. Gladstone yn y biynyddoedd gynt. Anrhydeddu Cymro. Syniad hapus o eiddo Cymry Llundam oedd y syniad i anrhydeddu y Seneddwr W. M. Hughes, o'r Awstralia, drwy ei wahodd i wiedd gyhoeddus cyn ei ymadawiad o Lundain. Nos Wener diweddaf y cymerodd yr amgylchiad hapus Ie, a daeth cynulliad Hawen i un o ystafelloedd y National Liberal Club i ganu ffarwel i Gymro sydd wedi ennill y fath enwogrwydd yn y wlad yr ochr arall i'r byd." Un o arweinwyr Plaid Llafur yn Awstralia yw Mr. Hughes, ac y mae wedi ennill y Safle anrhydeddus y mae ynddo drwy ei allu a'i yni parhaus. Cyn ei ymadawiad i Awstralia yr oedd Mr. Hughes yn athraw cynorthwyol yn un o ysgolion Llundain. Yr oedd ei dad yn ilaenor parchus yn hen gapel y Beddyddwyr yn Eldon Street, ac ar ol i'r mab gyrraedd ugain oed, ym- ludodd i Awstralia er treio ei ffawd yn y wlad honno. Trodd y newidiad yn fantais iddo, ac erbyn heddyw edrychir arno fel un o seneddwyr mwyaf craff y talaethau pell hyn. Daeth Mr. Hughes yma i geisio ffafrau arbennig i drafnidiaeth cydrhwng Awstralia a Phrydain, end er na Iwyddodd yn hollo! fel y dymunai, cred ei fod wedi cael gwr doeth a galluog wrth lyw y cylchoedd mas- nachol ym Mhrydain ym mherson Mr. D. Lloyd-George, a theimla na fydd ei drefedig- aeth ar ei cholled drwy ei reolaeth ddeheuig ef. Nis gwyr Mr. Hughes ond ychydig o'r iaith Gymraeg, etc cura ei galon yn gynnes at hen wlad ei dadau, ac at ei phobi ym mha Ie bynnag y b'ont yn digwydd byw. Gan mat Mr. Lloyd-George oedd yn llywyddu y cynulliad, caed ganddo araith amserol ar berthynas yr Hen Fam a'r Trefedigaetbau, ac anogai bawb i wneud yr oil a allent er cadarnliau yr undeb a fodolai drwy yr Ymherodraeth ar hyn o bryd. Safle'r Anibynwyr. Un o'r pethau mwyaf llipa mae arweinwyr yr enwad Anibynol wedi ei wneud ers talm, yw'r eglurhad" maent wedi gyhoeddi ar eu gwaith yn gwrthod rhoddi tystiolaeth o flaen y Ddirprwyaeth Eglwysig. Ceisiant feio pawb a phopeth ond pwyllgor yr enwad Anibynol; ac a'nt mor bell a chy- huddo y rhai a feiddiant eu beirniadu fel pobi "na cheisiant ddilyn nac egwyddor nac argyhoeddiad o fath yn y byd." Conr i'r enwad basic amryw benderfyniadau, un yn canmol gwaith Mr. S. T. Evans a Dr. Fair- bairn a Henry Jones yn ymddiswyddo a hynny am y rheawm y gwelent nad oedd en hymdrechion yn tyeio i gySymn gweith- rediadau y Ddirpr\vyaetb. nac i wneuthur yr ymchwiliad yn ddim amgen nag un hollo! n arwynebol." Yn awr byddai'n ddyddorol gwybod ar ba seiliau y gallai yr enwad dd'od o hyd i'r fath resym.au." Ni. ddywedodd yr un o'r tri beth oedd ei resymau, ond wele'r enwad hwn, trwy ei arweinwyr, yn ceisio rhoddi eglurhad ar yr holl achos. Tebyg mat rhai o'i awduron ar Historical Evidence" sydd yn gyfrifol am hyn, oherwydd deallwn fod yr hyn a gyfrinr fel tystiolaeth hanesiol" gan yr enwad, yn ddim amgen na rhestr o fympwyon a haer- iadau disail. Myn rhai o'r papurau hefyd i gondemnio y Ddirprwyaeth am ei bod wedi galw mwy o dystion Eglwysig nag o dyation Ymneillduol hyd yn hyn. Y rheswm am hynny yn ddios yw, am fod y tystiolaethau Eglwysig yn barod a'r tystion wedi gofyn am gael rhoddi eu hanes, tra mae'n amhosibi cael gan dystion Ymneillduol i ddwyn- ffeithiau ger bron. Mae'n ddigon hawdd cael haid o bersonau i ddyweyd eu barn wrth y Dirprwywyr ond nid "barn a mym- pwy" sydd eisieu ar y Ddirprwyaeth eithr ffeithiau noeth ac anwadadwy. Ac yn hyn o beth mae'r Ymneillduwyr wedi bod yn druenus o wael. Mae tri o bob pedwar o'r tystion Ymneillduol wedi bod yn fethiantau truenus pan yn ymdrin a nigyrau, ac mae eu gweled yn methu egluro rhai anghysonderau bychain, yn gwneud eu barn yn ddiles pan yn ymwneud a phethau o bwys a dylanwad cynredinol. Feallai pan geir mgyrau a ffeithiau cydnabyddedig y Methodistiaid-y rhai a ddygir ym miaen cyn bo hir, fel y deallwn—y gwel yr enwad Anibynol y ffolineb o chwareu plant fel hyn, ao y daw a thystion priodol i roddi ychydig o oleuni ar sefyllfa bresennol yr enwad a/i waith ar ran crefyddoli cenedl y Cym.ry.