Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

[No title]

News
Cite
Share

MYNED ar gynnydd mae nifer yr efrydwyr yng ngholegau yr enwadau yng Nghymru. Mae mwy o alw am bregethwyr yn awr nag; a fu ers talm, er fod yr Eglwys yn ceisio dangos mai ei haelodau hi sydd yn cynyddu. gyflymaf. YM Mehefill, 1906, y penodwyd y Ddir- prwyaeth Eglwysig, ac y mae yn ystod yr un mis a'r ddeg hyn wedi llwyddo i holi hanner cant o dystion a gyrru tri o'r Dir- prwywyr i ebargofiant. MAE Mr. Joseph Jones, B.A.,B.D., wedi ei benodi yn broffeswr mewn Groeg i Goleg Aberhonddu. Cyfrifir Mr. Jones yn un o wyr ieuainc mwyaf addawol yr Anibynwyr, ac efe oedd enillydd y Greek prize agored i holl Rydychen eleni. GOFALON eu cartrefi, debyg iawn, sydd yn gyfrifol fod yr aelodau Seneddol Cymreig mor ddistaw y dyddiau hyn. Y dydd o'r blaen bu raid i Ellis W. Davies aros gartref am rai dyddiau, a deallwn fod priod Mr. John Williams, A.S. (Gower) wedi rhoddi genedigaeth i'w deuddegfed plentyn ddydd Sul cyn y diweddaf, fel bydd raid i John aros gartref am ddeuddydd neu dri eto.

Advertising