Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

BETH DDAETH O'R DIWYGIAD ?

News
Cite
Share

BETH DDAETH O'R DIWYGIAD ? (Gan CEMLYN). Gofynir yn ami beth sydd wedi dod o'r Diwygiad Crefyddol roddodd gymaint o hynodrwydd ar ein gwlad flwyddyn neu ddwy yn ol. Atebir y gofyniad yn gyffredin gan ddau ddosbarth o ddynion, ac y mae gan y naill a'r llall ei ffordd ei hun i wneud hynny. Dywed un ei fod wedi diflannu mor sydyn ag yr ymddangosodd, a'i fod wedi gadael yr eglwysi ar draethellau oeraidd, difywyd, heb unrhyw argoel y bydd iddynt gael dyfroedd nofiadwy eto; yn wir, aw- grymir fod yr eglwysi wedi mynd yn fwy materol nag oeddynt, ac mai eu hunig gyn- ysgaeth ydyw gwrthweithrediad ar ol gor- frwdfrydedd y Diwygiad. Addefa'r dos- barth arall fod llawer o'r brwdfrydedd wedi mynd i golli, fel y gallesid disgwyl, ac fod bagad o'r afradloniaid ddaeth i'r eglwys wedi mynd yn ol at eu hen gyfoedion, ac wedi ymgolli unwaith eto yn yr hen ddull o fyw; ond maentumir fod yr eglwysi wedi cadw sylwedd y Diwygiad, ac fod llawer o'r afradloniaid ddaeth i mewn gyda'r llanw mawr yn aros, heb golli nemawr o'r tan- beidrwydd a'u nodweddai. Nid wyf yn proffesu gwybod beth yw profiad gwahanol eglwysi ar hyd a lied y wlad, ond gwn am ami i eglwys oedd yn ddigon ffurfiol sydd wedi cadw ireidd-dra y Diwygiad, ac am bulpudau ysbrydolwyd gan y bedydd tan." Yn y Deheudir. Mwy na hynny, gwn am un eglwys yn Nghaerdydd a'i chyrddau gweddi a'i seiadau yn dod beunydd dan y gawod, "fel gwlith neu dyner wlaw." Ond y mae swn yn mrig y morwydd eto mewn amryw fanau, a hiraeth yr Eglwys am gawod faethlon arall yn cael ei angerddoli, a'r argaeau yn torri ar ambell achlysur. Felly y bu yng Nghym- deithasfa'r Bermo, ac eilwaith yng nghwrdd blynyddol Methodistiaid Trecynon. Ond efallai na welwyd, o fewn y misoedd di- weddaf o leiaf, ddim yn gyffelyb i'r hyn gymerodd le yn Abertridwr Sul cyn y di- weddaf, ac amheua llawer a fu ei gyffelyb hyd yn oed ar ben llanw'r Diwygiad. Gyda bod y gweinidog (y Parch. J. 0. Hughes), yn cymeryd ei destyn oddiar y geiriau, Daeth gwraig ato a chanddi flwch o enaint gwerth- fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben "—gyda'i fod yn dweyd y geiriau cododd y gynull- eidfa o saith gant o bobl ar ei thraed, a chanwyd yr hen emyn— Henffych i enw Iesu gwiw —drosodd a throsodd gyda hwyl nefolaiddj a thorodd merch ieuanc allan i ganu eil- waith, 0, yr Oen, yr addfwyn Oen," gyda theimladau drylliog, a'r gynulleidfa enfawr yn foddfa o ddagrau. Yn ystod blwyddyn o amser y mae rhif yr eglwys hon wedi cyn- yddu o 150 i 400, a llawer o ddychweledig- ion yn troi i mewn yn barhaus. Efallai na ellir gwneud dim yn well na chrybwyll yr engraifft ddiweddaf hon i'r bobl hynny sydd beunydd yn gofyn, Beth ddaeth o'r Diwygiad ? Dirywiad y Gogledd. Gellid ychwanegu engreifftiau ereill i ddangos nad yw'r Diwygiad yn ei ddylan- wadau iachusol wedi ymadael a llawer ardal ond mae'n ymddangos nad yw'r Gogledd, o leiaf, wedi dysgu gwersi'r Diwygiad fel y Deheubarth, ac fod llawer o'r eglwysi wedi neu yn syrthio'n ol i'w hen ffurfioldeb, a phob ffurf ar snobyddiaeth yn uchel ei fri. Yng nghwrs ymdrafodaeth yng Nghynghrair Eglwysi Rhyddion y Gogledd ar y buddiol- deb i sefydlu cymdeithasau i ferched ieuainc yr eglwysi, ymosododd Dr. Griffith Evans, Bangor, ar ddrygau ffurfioldeb a snobydd- iaeth, a dywedai fod y naill a'r llall i'w weled yn amlwg yn yr Eglwysi Rhyddion. Cyn y Diwygiad ffurfiwyd Cymdeithas Gristionogol y Merched Ieuainc ym Mangor, a'r anhawster deimlwyd fwyaf ydoedd nad oedd merched y siopau yn dangos unrhyw barodrwydd i ymgyfathrachu a merched mewn gwasanaeth fel morwynion. Snobyddiaeth. Bu'r Diwygiad yn foddion i yrru ffurfiol- deb a snobyddiaeth ar ffo, ond ofnai fod gwrthweithiad wedi dechreu cymeryd lie yn barod. Yr oedd yr un ffurfioldeb yn y gwasanaeth," meddai, yr un ffurf y boreu, y prydnawn, a'r nos, ym mron fel peiriant; a gallai un yn hawdd fyned i gysgu. Daeth y Diwygiad i dorri i lawr yr hen arfer farw- aidd honno, a gobeithid y ceid gwell cynllun ar ol hynny. Yr oedd efe yn meddwl y dylai yr eglwysi edrych ym mha ffordd y gallent wylio rhag syrthio i'r hen arfer farwaidd honno. Paham y mae eisieu yr un cylch rheolaidd o wasanaeth, yr oil yn dechreu ac yn diweddu yr un fath ? Yr Hen Arferion. Paham y mae eisieu pregethau hirion? Paham na roddid cyfleusdra i'r lleygwyr fyned i'r pulpud, a gofyn cwestiynau? Wedi hynny, dyna'r eisteddleoedd-hoffai ef eu hysgubo ymaith yn hollol, a chychwyn rhyw symudiad yn y gynnulleidfa. Paham yr oedd eisieu i'r bobl eistedd yn yr un lie, ac yn nesaf at yr un bobl? Boed iddynt gymysgu y bobl a'u gilydd." Rhaid fod yr eglwysi wedi mynd yn gaeth iawn i ffurf- ioldeb os oes eisieu moddion mor eithafol i'w meddyginiaethu ond fe wyr y cyfarwydd yn eithaf da fod yr hen ellyll hwnnw —snobyddiaeth—yn fwy ei barch ym man drefi y Gogledd nag yn unrhyw ran o'r wlad, ac y bydd yn rhaid trwytho'r eglwysi gan ddiwygiadau grymus cyn y bydd iddo roddi yr orsedd i fyny i gydraddoldeb plant ar yr un aelwyd, beth bynnag fo eu ham- gylchiadau bydol.

[No title]