Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. CHWAETH MEWN CERDDORIAETH (PARHAD).— Yn y fan hon rhaid dyweyd fod chwaeth y Dwyreiniwr yn wahanol iawn i'r eiddo y Gorllewinwr. Clywsom fintai o Chwareu- wyr y Brenin," o Siam, yn chwareu yn y ddinas hon flynyddau yn ol, ac ymddangosai y gerddoriaeth i ni yn hollol ddi-bwynt a di- amcan—fel, yn ddiau, yr ymddangosai ein cerddoriaeth ni i'r fintai y cyfeiriwyd ati. Gwyddom am Japs yma sydd wedi dod i hoffi cerddoriaeth Seisnig yn fawr, yr hyn a brawf mai ymarferiad a cherddoriaeth gwlad ac astudiaeth sydd yn meithrin chwaeth at y .cyfryw. Gwelir, felly, mor bwysig ydyw i gerdd- hoffwyr ddod o dan ddylanwadau y Gerdd- oriaeth oreu, buraf! Canys er nas gallant drosglwyddo eu chwaeth i'w hiliogaeth a'r rhai fuont o dan eu dylanwad, y maent yn sicr o drosglwyddo tuedd, fwy neu lai gref, at Gerddoriaeth—ac fe ddichon at y math o gerddoriaeth apeliai yn fwyaf arbennig atynt hwy. Os yw hyn yn wir, y mae yn bwysig iawn i rieni feithrin chwaeth at gerddoriaeth deilwng, canys yn y man gwelir ffrwyth hyn yn eu disgynyddion. TENOR NEWYDD.—Y mae tram conductor yn Wakefield newydd brofi fod ynddo ddefnydd cantor rhagorol. Gwneir ym- drech i'w alluogi i fyned o dan addysg briodol, a chredir y ceir ynddo ail Sims Reeves. Nid dyma'r cyntaf i gael ei ddargan- fod." Daeth gweithiwr ochr y ffordd i -enwogrwydd sydyn fel tenor, amser yn ol, ac .aeth ar y stage yn ei ddillad gwaith. Y mae rhai merched hefyd yn myned oddiamgylch i ganu yn union o'r ystryd," fel y dywedir, ond ni thybiwn y bydd eu llwyddiant yn un hir. Rhaid wrth addysg briodol; a da gennym y gofelir y bydd i'r tenor y cyfeir- iwyd ato gael y cyfryw. ST. PADARN, HOLLOWAY.—Cawsom gyfran o'r cyfarfod cystadleuol hwn, yr wythnos ddiweddaf. Gwobrau bychain a roddid, ond yr oedd y cystadleuwyr, serch hynny, yn lliosog a da. Peth calonogol iawn ydyw hyn; ond gresyn gorfodi'r gwrandawyr i glywed pob cystadleuydd. Dylasid, yn ol pob rheswm "chwynnu"—fel y mae arfer gwneud, mewn cyrddau ereill o'r fath. Da chwi, frodyr St. Padarn, ceisiwch drefnu hyn yn y dyfodol! Am ganu Mi glywaf dyner lais," allan o naw, cipiodd y ferch fach, Lizzie Davies, Camberwell, y wobr gyntaf, a Winifred Price, Paddington, yr ail wobr. Rhoddwyd gwobr ychwanegol i Nellie Edwards, Paddington. Credwn fod dyfodol yn aros Lizzie Davies. Y mae ganddi lais pur a swynol, ac y mae ei darlleniad yn dangos ol chwaeth a meddylgarwch. Am ganu Yr Hen Gerddor," gwobrwywyd Miss Hannah Davies, Dewi Sant, allan o ddeg. Rhai yn ddigon da i'w gwrandaw a rhai, ddim felly, yn y gystadleuaeth hon. Pump yn yngeisio ar £ i Dim ond deilen," goreu, John Hughes, City Road. Am dano, dywedai y beirniad good rendering; excellent throughout. -Music clear and clean good time. Bu pedwar parti yn ymgeisio ar Aber- ystwyth," ac yr oedd parti St. Mary, Camber- well, yn orchfygwyr teg. Ar y ddwyawd, Gwys i'r Gad," cafwyd cryn ganu, ond nid llawer o deilyngdod. Mr. John Hughes, City Road, a Mr. Phillips, o Jewin, oedd y buddugwyr. Ar y pedwarawd Y Bwthyn ar y Bryn" yr oedd dau barti yn Sydradd-sef two and two," o'r East End City Mission, a'r Walham Green party. Y Parch. Lumley Davies ydoedd y beirn- iad, ac yr oedd yn amlwg gydwybodol yn ei waith. Cyfeilyddes, Miss Nancy Pierce.

BETH DDAETH O'R DIWYGIAD ?

[No title]