Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
EGLWYS Y WESLEYAID CYMREIG CITY ROAD, FINSBURY SQUARE, E.G. (AIL-AGORIAD Y CAPEL.) CYNHELIR CYFARFOD PREGETHU o MAI 25az"n ir 28 ain, Pryd y Gwasanaethir gan y Parchn. IK=lb RICHARD MORGAN (B.), CAERNARFON, a O. IKEADOC ROBERTS, TOWYN. Tpefn yr Odfaeon: Nos Sadwrn, am 7.30 Parch. RICHARD MORGAN Sabboth, „ 110 „ 0. MADOC ROBERTS j j 30 5) RICHARD MORGAN „ 630 „ O. MADOC ROBERTS Nos Lun, „ 7.45 „ RICHARD MORGAN „ Fawrth, „ 7.45 „ O. MADOC ROBERTS 'oJ"r eenir Solo Prydnawn Sabboth gan Mr. DllVID EVRNS, R.H.M., ac yn yr Oedfa Hwyrol gan Miss TILLIE BODDIEOMBE. USTOS FEROHER, 29, T" CYFARFOD GWEDD1 UNDEBOL EBLWYS1 CYMREIG LLUNDAIN YN Y LLE UCHOD AM 7.30. P. EDWARDS, Mus. Bac. (Pedr Aiaw), Beirniad Cerddorol, Arweinydd Gymanfaoedd Canu, «. 40, Scarborough Road, Leyfonstone, M.E. r-r"f" C"r'J- -J. Cyfansoddiadau- PSALMODY."—Yn cynwys dros dri chant o Gor- ganau Newyddion. Pris, Hen Nodiant, 3/ Gyda darlun o'r Awdwr. (Copïau oddiwrth Weekes & Co., Hanover Square, W.) Dywed Emlyn Evans am y gwaith yn y Cerddor- Nid ymym yn gwybod am gyrnfer o Gor- ganau gan yr un Awdwr, mewn unrhyw wlad nac iaith Gobeithiwn y ca'r gwaith y fath dderbyniad ag a'i had-dala am ei lafur a'i wasanaeth." THE BEATITUDES," Cantawd. Hen Nodiant, 2/ Sol-ffa (Cydganau), 6c. "YR ARGT/WYDD YW FY MUGAIL," Anthem i Gorau Meibion. Hen Nodiant, Swllt; Sol-ffa, 4c. Sieryd Tom Price, J. T. Rees, Mus. Bac., ac eraill, yn uchel am y darn hwn. "FY ENAID, BENDITHIA YR ARGLWYDD," Anthem.* Hen Nodiant, 4c.; Sol-fia, 2g. Copiau oddiwrth Gwmni'r Wasg Gymreig, Caernarfon. Y gweddill oddiwrth y Cyfan- soddwr. MISS MAY JOHN (Soprano), First Prize-Winner World's Fair, Chicago. Double Medallist, R.A.M. For Oratorio, Ballad and Miscellaneous Concerts, and Eisteddfodau, apply direct to 20, MONTGOMERY STREET. ROATH PARK, CARDIFF. [B188-8-6
" Historical Evidence."
Historical Evidence." Dyma fwgan mawr yr enwadau angliyd- ffurfiol yng Nghymru y dyddiau hyn. Er cychwyniad y Ddirprwyaeth Eg- lwysig yr ydym wedi clywed siarad am dystiolaethau hanesiol," ond hyd yn awr does neb wedi 13enderfynu pa fath dystiol- aeth fyddant, na pha feusydd hanesiol yr ymdrinir a hwynt. Cofus gan y darllenydd i'r Barnwr Vughan Williams beth amser yn ol hysbysu mai ffeithiau oedd ef am eu cael, ac hyd yn awr y mae'r Ddirprwyaeth wedi rhoddi ei holl amser i ymdrin a ffigyrau a ffeithiau lleol. Diau fod ym mryd y Dir- prwywyr i eangu cylch yr ymholiad yn yr eisteddiadau dyfodol, ac y ceir ffigyrau yn Iny ymwneud a'r holl enwadau o hyn allan yn hytrach na manylion lleol. Ond dylid cofio fod tystiolaethau penagored-fel ag yr awgrymir gan rai o'n harweinwyr enwadol- yn bethau hollol ddiles, os nad yn wir yn dra niweidiol, i achos Dadgysylltiad a bwriadau'r Ddirprwyaeth hon. Rhaid addef ar unwaith mai tystiolaethau after iawn sydd wedi eu rhoddi hyd yn hyn gan yr Ymneill- duwyr. Mae ffeithiau a ffigyrau yn bethau dyrus i'r tystion sydd wedi ymddangos ac mae'r anghysonderau yn y manylion a roddir ger bron yn bethau y dylid fod wedi eu gochel neu eu hegluro. Hyd yn hyn nid yw'r Methodistiad Calfinaidd wedi gyrru llawer o dystion i fynu, ond mae'r ffigyrau sydd gan yr enwad hwn fel rheol yn lied gywir, oherwydd fod trefn y Cyfarfodydd Misol yn hawlio am fanylion rheolaidd oddiwrth bob Eglwys yn y cyfundeb. Ond y mae arferion y Bedyddwyr a'r Anibynwyr yn dra gwahanol, a'u ffigyrau mor anghywir, nes pery i ni OY amheu a yw yn bosibl rhoddi coel ar unrhyw un o'u llawlyfrau neu ddyddiaduron enwadol. Ac os yw'r anghysonderau hyn yn britho eu llyfrau safonol yn y blynyddoedd hyn pa fodd y gellir disgwyl ar i'r Ddirprwyaetk dderbyn yr Historical evidence a gesglir drwy y llenyddiaeth a gyhoeddid ganddynt gant, neu gant a hanner o flynyddau yn ol ? Haneswyr Enwadol. Fel y gwyddis, y mae gan bob enwad yng Nghymru ei "haneswyr" neillduol, ac mae'r goreu o honynt wedi eu profi yn gyfeiliornus mewn llawer o faterion. Ni fyn y Methodistiaid gydnabod Hanes Ym- neillduaeth Dr. Thomas Rees, ac ni fyn y Bedyddwyr dderbyn y Tadau Methodist- aidd fel hanes safonol yr eglwysi Cym- reig, tra mae "Hanes y Bedyddwyr," gan Spinther, wedi ei brofi droion fel un am- hosibl i ddibynu arno am gywirdeb ffeithiau. O'r ochr arall myn yr Eglwys fod ei hysgrif- enwyr hi yn fwy cywir, ac fod. y llenydd- iaeth a gynyrchwyd drwy ei dylanwad a'i nodded yn profi yn ddigon eglur mai yn ei chorlanau hi y trigai gwir fywyd crefyddol y genedl ym mhob cyfnod. Ac os yw'r enwadau yn gwahaniaethu cymaint yn en barn a'u hanes, pwy yw'r Dirprwywyr sydd yn myned i benderfynu cydrhyngddynt ? Yn sicr nid yr haid sydd yn eistedd yn Westminster y dyddiau hyn Yng ngwyneb hyn o anhawsterau priodol felly fydd galw sylw arweinwyr yr enwadau yn awr ar y cychwyn ar iddynt fod yn dra. gochelgar ynglyn a'r "tystiolaethau hanes- iol" a osodant ger bron. Mae'n ddigon hawdd pentyru honiadau a damcaniaethau, ond peth arall yw dwyn profion enwadol wedi eu selio ar ffeithiau cydnabyddedig ac os na ellir cadarnhau pob gosodiad gwell fydd eu gadael dros gof a dibynu ar y def- nydd a wna'r Dirprwywyr o'r haneswyr a'r llyfrau a'r ffeithiau sydd eisoes wedi eu casglu ganddynt yn y maes hwn. C> Diffyg trefn. Ar wahan i'r peryglon ynglyn a'r cri am dystiolaeth hanesiol," mae'n hen bryd i ni alw sylw'r cyhoedd at yr anhrefn anesgus- odol ynglyn a thystiolaethau yr anghydffurf- wyr a osodir o flaen y Ddirprwyaeth. Pwy sydd yn gyfrifol am y tystion nis gwyddom, ond y mae'n eglur fod y rhai sydd wrth lyw y mudiad yn gwneud mwy o ddrwg i'r achos a'r tystion nag ydynt o les i'r Dirprwywyr. Paratoir y ffigyrau ar frys. Ni chymerir trafferth i'w cymharu a'r llawlyfrau awdur- dodedig, ac nis gellir cysoni nac egluro y gwahaniaethau a nodir allan, bron yn ddydd- iol, i'r tystion a ddygir ger bron. Mae'r Eglwys wedi paratoi yr holl hanes a'r ffigyrau rai misoedd yn ol, a'r profion eisoes yn nwylaw'r Dirprwywyr, tra nad yw'r profion. Ymneillduol ond yn cael eu rhuthro yn frysiog ddiwrnod neu ddau cyn ymddangos- iad y tyst. 'Does ryfedd fod rhai o'n gwyr blaenaf yn methu a deall paham mae'r Cadeirydd yn parhau i ofyn am ffeithiau, pan nad yw naw o bob deg o'r tystion yn barod i gadarnhau hanner y ffigyrau a osodir o'i flaen yn y tystiolaethau awdurdodedig Ar ol ychydig o seibiant feallai y daw yr awdurdodau neu'r pwyllgorau enwadol i weled eu. camsyniadau, ac y ceir nifer o dystion priodol a gwybodus i ddyweyd gair tros Ymneillduaeth a'i gwaith yng Nghymru er argyhoeddi y Dirprwywyr. Hyd yn hyn. does ond nifer fechan o'r tystion wedi gwneud cyfiawnder a'r achos ac a'r enwadau y buont yn ceisio gynrychioli