Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Profodd hin oer y Sulgwyn yn ormod i'r Gol. i'w ddal, ac aeth am seibiant i wlad yr haf. Addawa ddod yn ol cyn diwedd yr wythnos nesaf, fel na raid pryderu am brydlondeb ymddangosiad CYMRO LLUN- DAIN A'R CELT. Yr oedd llawer o wyr enwog y genedl ar ymweliad a'r ddinas yn ystod yr wythnos, a throisant i mewn i'r Swyddfa er mwyn talu teyrnged o barch i'r gwr urddasol, a theimlai yntau yn dra siriol wrth glywed eu cyfarchiadau siriol a'u dymuniadau da. E. R. W.—Nid ydym yn credu ei bod yn ddoeth i gyhoeddi eich llith ar League John Hugh." Mae'r mudiad yn hollol farw o ran dim a wyddis. W. OWEN.—Yr oeddech yn rhy hwyr i'r rhifyn diweddaf, ac mae'r hanes erbyn hyn yn "out of date." Dewch eto ac yn fwy cynnar y tro nesaf. Y DIWINYDD.-Diolch am y parsel a'r ysgrif faith ar Campbell, ond byddai yn fwy addas i ryw gyhoeddwr a'i dygai allan yn gyfrol drwchus, yn hytrach nag i golofn y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT." Cafodd ei gosod o'r neilldu am beth amser er mwyn gweled a wnaiff dynu ei thraed ati" rhyw gymaint. D. R. H.—Y llythyr i law a'i gynnwys gyda diolch. Oes modd berwi disglaid o gawl yr wythnos hon? E. JONES.—Mae'r prif gyfarfodydd bob amser yn cael eu hysbysu yn y papur hwn. Wrth gwrs fe gynhelir ambell i fan gyfarfod nas gwyddom ddim am dano. E. W. R.—Yr ydych yn gwneud camgymeriad. Nid yr un yw'r Parch. W. Llewelyn Williams, golygydd y Sunday Strand, a Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. Gwir fod y ddau yn newyddiadurwyr profedig, ond tra mai pynciau niwliog diwinyddiaeth yw maesllafur un, y mae'r llall yn ymhyfrydu mewn ffeithiau a gwleidyddiaeth ymarferol. D. JOSEPH.—Fe gyhoeddir ystadegau am holl eglwysi'r ddinas. Daeth rhai'r Methodistiaid allan ar adeg y Pasc; ond nid ydym eto wedi gweled rhai'r Bedyddwyr a'r Anibynwyr a'r enwadau ereill. T. J. PITT.- Er mai enw Seisnig sydd arnoch y mae cryn lawer o'r hwyl Gymreig yn eich barddon- iaeth. Gydag ychydig o ymarferiad gallwch wneud bardd gwych, ond rhaid caboli cryn dipyn ar "Darlun fy mam" cyn y bydd yn deilwng o'r gwrthrych. LLAETHWR LLWYD.-Mae un rhinwedd yn eich can—yr hyn a gyfrifech yn feius yn y can Ilaeth- mae wedi ei gwneud ar y mesur byr. Ceisir lie iddi yn y nesaf, a bydd wedyn mor ffres a'r llaeth. ISGAER.-Nid ydym yn eredu y gwelir rhagor o seddau gwag yn y Gcgledd am beth amser, ond mae argoelion y bydd tair neu bedair o seddau'r Deheu- barth yn syrthio i ran aelodau newydd cyn bo hir. Sonir fod Sam Evans i gael ei godi i'r fainc farnol, os Dad yw ei ymddygiad diweddar wedi gwneud niwed iddo yng ngolwg yr awdurdodau ac hwyrach y caiff Brynmor safle anrhydeddus hefyd. Ar ol hyn daw Mr. Lloyd Morgan i fod yn Farnwr y Cwrt Bach, fel mae digon o gyfleusterau-fel y gwelwch- i chwi ddod yn un o'r haid anibynol a elwir tan yr enw Welsh Party yn y Senedd heddyw. J. JENKINS.—Yn ol yr hyn hysbyswyd yng Nghaer- uarfon y llynedd y mae Llundain i wneud cais yn Abertawe eleni am yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1909. Gellwch gael y telerau ond anfon at Ysgrifen- nydd Cymdeithas yr Eisteddfod, Mr. E. Vincent Evans, 64, Chancery Lane, W.C.

Budd=Gyngherdd y Parch. M.…

Advertising

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…