Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. YR ORIEL.—Bydd gennym yn fuan amryw ddarluniau i ymddangos, yn eu tro, yn y golofn hon. EIN CANTORION, &O.—Bydd nodion o drefniadau a gweithrediadau y cyfryw yn dderbyniol bob amser. Gobeithiwn y gwel- ant fantais iddynt eu hunain drwy ohebu a ni! ADOLYGIADAU.-Adolygir darnau cerddorol .&c. yma, fel y bydd galw am hynny. EISTEDDFOD MILE END.—Wrth son am y canu ar y bedwarawd a'r darn i Gor Meibion, dealler nad at waith y buddugwyr yr oeddym yn cyfeirio yr oedd y naill a'r Hall yn bur ganmoladwy. CYNGHERDD WILTON SQUARE, nos Iau, Mai y 9fed. Yr unawdwyr oeddynt: Miss Towena Thomas, Miss Dilys Jones, Mr. .Spencer Thomas, Mr. Dan Price, Mr. W. II. Hen ton, a Mr. Walter Hughes. Cynorthwyid hwy gan Gor Meibion Wilton, Mr. R. 0. Jones yn arwain. Y cyfeilydd corawl ydoedd Miss Maggie Davies. Cadeiriwyd gan Dr. Hugh Davies, yn cael ei gynorthwyo gan ei fab a'r Parch. G. H. Havard (y Gweinidog). Nid oes gofod nac angen i enwi yr holl ddarnau ganwyd gan yr Artistes uchod-yr oedd yr encores dibaid yn dystiolaeth eu bod -oil ar eu goreu ac os oes eisiau prawf pellach o hyn, yr oedd gweled y Doctor yn neidio ar ei draed mor fynych i ganmawl geniusy cantorion a'r cerddorion Cymreig, yn brawf diamheuol. Rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i alw sylw at waith un o'r datganwyr, sef Mr. Dan Price, yr hwn oedd yn canu, ys dywedir, yn fendigedig Nid ydym er's amser yn cofio canu mor afaelgar—mor llawn o ysbrydiaeth! Yr oedd y cantor yn cario'r gwrandawyr gydag ef. Gwyn fyd na chaffem ganu fel hyn yn amlach. Os nad oes defnydd cantor operataidd yn Dan Price, ym mhwy y mae ? Ond er mor uchel y rhaid canmawl Mr. Price, credwn fod canu Nos Galan—gyda'r dorf yn ymuno yn y Gydgan, gyda Fa, la, la, la, la !—yn gamgymeriad mawr. Os yw y capel i gael ei droi ar nos Iau yn lie i ganu Fal-lal o'r fath, prin y mae yn ddigon .cysegredig i gydgyfarfod i addoli ynddo y Sabbath! A'i tybed nad yw y capel mor .gysegredig a'r Abbey? Ac a fuasid yn canu y fath ddarn yno unrhyw adeg ? Clywsom am Roman Catholic arferai dynnu ei het bob tro yr elai heibio yr Eglwys. Gofynwyd iddo paham ? Atebai: "Y mae yr host (y presenoldeb Dwyfol) yna." Ac er nad ydym yn edmygu Eglwys Rufain, edmygwn y fath barch a hynyna i'r Man cyfarfod"! Meddylier am hyn, ,Gymry anwyl! Synwyd ni yn fawr yng ngwaith cor Wilton. Deallasom nad oedd namyn tri -cantor ynddo o King's Cross. Yn wir yr oedd yn canu yn rhagorol! Ac yr oedd yn dda yn y lie y disgwyliem iddo fod yn wan, 0 sef yn y darn disgrifiadol a beichus "The Martyrs of the Arena"! Yr oedd y dat- ganiad yn afaelgar a meddylgar drwyddo. Felly hefyd, yn wir, oedd ymdrechion ereill y cor. Heb ini fanylu ar y man bethau (peth diflas lie y ceid cymaint o'r da), os gellir ychwanegu at rif a nerth yr ail Denors, a'r Bass cyntaf, bydd y cor hwn
PYSGODWYR DYNION.
PYSGODWYR DYNION. CWYNA'R Ymneillduwyr fod gormod o efrydwyr yn ymgeisio am y Weinidogaeth, tra mae'r Eglwyswyr yn cyhoeddi mai ychydig yw nifer y curadiaid."
--. Y GOG A'R WENNOL.
Y GOG A'R WENNOL. (Parhad.) Y WENNOL. Aderyn ymfudol yw hwn hefyd. Tybid gan ein hynafiaid ei fod megis llyffaint a nadroedd yn cysgu megis marw y gauaf, ac megis hwythau yn dadebru drachefn yn yr haf. Eithr cydnabyddir gan bawb bellach mai ymfudo a wna i hinsawdd gynhesach yn y de tros y gauaf. Casgla miloedd o honynt ynghyd yn un gymanfa fawr yn yr Hydref, yna ehedant yn gymylau tewion i'r deheu. Dywed morwyr y gorphwysant yn heidiau ar hwylbrennau y llongau ar ganol y cefnfor yna wedi gorffwyso encyd ehedant i'w taith bell i'r deheu. Ceir y wennol drwy holl Ewrop, Asia, ac Affrica. Aderyn main hir o gorph ydyw, gydag edyn llydain cryfion a chynffon hir fforchog. Ei gylfin sydd fer a llydan. Ymbortha ar ednog yr awyr. Eheda yn gyflym gyda ei gylfin yn agored i'w dal a'u bwyta wrth ehedeg. Chwyrndeithio, troellwibio'n haid, Mewn hwyl, wnai'r chwim wennoliaid, Trwy'r awyr mewn difyr daith, Yn ol ac y'mlaen eilwaith Ar dro chwyrn, a'r drych arnynt Fel arf dur yn gwanu'r gwynt." Ehedant yn uchel rai dyddiau am mai yn uchel y mae y gwybed yn ehedeg, yr hyn sydd arwydd o dywydd teg i'r amaethwr i gael ei wair i'r ydlan yn dymherus. Ond pan welir y gwennoliaid yn hedfan yn isel, hynny sydd am mai yn isel y mae y gwybed yn hedfan, yr hyn sydd arwydd sicr o dywydd gwlyb, cyfartal. Clywir gwladwyr Cymru yn ami yn dweyd wrth y bobl," gadewch i ni frysio i gael gorffen y gwair cyn daw y gwlaw, y mae y gwennoliaid yn hedfan yn isel iawn, ac fe welais i y crych- ydd yn myned i fynu yn erbyn yr afon i mofyn dwr bore heddyw. Daw hir wlybyn yn fuan. Bant a hi, bobl." NYTHA rhai o'r gwennoliaid dan fargod to y tai ereill ar y cyplau a'r ceubrennau mewn hen feudau ac ysguborau; ereill mewn ceu- brennau a simneiau; a'r lleill mewn tywod- geulannau. Daw yr adar yn ol bob blwydd- yn i'r man y magwyd hwy ynddo. Tybir fod yr un adar yn magu eu rhai bychain yn yr un nyth, os na ddryllir hi, flwyddyn 'rol blwyddyn. Dywedir os daw adeg ymfudo, a rhai bychain ganddynt yn y nyth, yr ymfud- ant gan adael eu rhai bychain i farw o newyn. Mor gauedig a chref yw y nyth o laid wedi ei gydio ynghyd a phorfa! Y wennol yn adeiladu ei nyth roddodd syniad i ddyn am wal bridd. Pluf sydd tufewn i nyth y wennol, a phortha ei rai bychain wrth ehedeg. Aderyn hagr yw pan ar gangen; pen tew, gwddf byr, llygaid yn sefyll allan, edyn ceimion megis dwy bladur, gylfin llydan i ddal a llyngcu ednog, lliw du disglair tebyg i 'Gigfran' Edgar Allan Poe. Ynghreadigaeth gwennol aberthodd Duw harddwch i ddefnyddioldeb. Ni fedd nemawr o draed, edyn ac ehedeg ydyw yr oll. Defnyddir ef mewn llenyddiaeth yn ffigwr o gyflymder megis gwennol gweydd." ENW y wennol, a ddeillir gan rai o gwen=yr un deg, a dol==eilun hardd. Deillir ef gan ereili oddiwrth y ffaith fod rhan ol rhai mathau o honynt yn wyn-y wennol. Swallow yw yr enw Seisneg arni. Enw o bosibl yn ei dynodi yn aderyn y gwres neu aderyn hin- soddau poethion, gwresog. Dichon mai swaloth gwres neu swelan i losgi yw tarddiad y gair Seisneg swallow, Danaeg svale, Ice- landaeg svala, Ellmynaeg schwalbe a swallawa, a'r Saxonaeg swalewe. Gobhlan- gaoithe, sef fforch fechan y gwynt, yw ei henw yn y Gaelaeg; ac y mae yn gywir ddisgrifiadol ryfeddol. Nid yw yn ei ehed- iadau chwyrndrofaog yn yr awyr ond megis fforch fechan yn cael ei chario gan awel lem. Fforch y gwynt" ydyw mewn gwirionedd. Gelwir hi gan y Cymry yn wennol, gwendolen, gwenfolen, &c., ac anwylir hi yn ddirfawr gennym. Ystyrid ei bod yn aflwcus i ladd gwennoliaid gan eu bod yn adar cysegredig i dduwiau teuluol yr hynafiaid. Meddai y Rhodiaid flwyddgan gysegredig i groesawi y wennoliaid. Gwel Anacraeon's Ode to the Birds." Cofiwyf ryw linellau ddysgid gynt i'r plant ar ael- wydydd ein mamwlad Pwy bynnag dorro nyth y dryw, Ni chaiff ef byth wel'd wyneb Duw Pwy bynag dorro nyth y byngc, Fe grogir hwnnw wrth y link Pwy bynnag dorro nyth y wennol, Ni chaiff faddeuant yn dragwyddol." Gwelir felly fod y wennol yn aderyn anwyl gan y Cymry. Llonnir ni i'w gweled eleni eto yn awyr ein broydd a'n bryniau Wennol fwyn ti ddaethost eto, I ddwyn ar gof fod haf ar wawrio Wedi bod yn hir ymdeithio, Croeso, croeso i ti. Nid oes un rhyw berchen aden Mor gariadus a'r wenfolen Pawb o'th weled sydd yn llawen, Wennol, coelia fi."
A BYD Y GAN.
yn un campus. Eled rhagddo. Y mae yn glod mawr i Mr. R. 0. Jones. CHWAETH MEWN CERDDORIAETH.—Y mae chwaeth mewn cerddoriaeth i'w wahan- iaethu oddiwrth chwaeth at Gerddoriaeth. Golyga y naill y duedd sydd mewn dyn at gerddoriaeth, tra y golyga'r llall ddad- blygiad dysgeidiaeth mewn cerddoriaeth. Heb duedd naturiol at ganu, nis gellir meithrin chwaeth mewn cerddoriaeth, canys golyga chwaeth y gallu i ddewis, neu i edmygu, y peth perffeithiaf yn fwy na'r peth llai perffaith. Y mae y gallu hwn i ddewis yn un a geir drwy addysg ac ymarferiad. Gofynwyd i Bradlaugh unwaith beth ydoedd ei safon ef, fel Anffyddiwr, i foesol- deb. Atebai: y moesoldeb uwchaf. Dy- wedwn ninnau am safon Cerddoriaeth, mai cyrraeddiadau uwchaf dysgeidiaeth Gerdd- ZD orol ydyw. Duw sydd yn rhoddi y duedd, rhaid i addysg wneud y gweddill. (I'w Barhau.)