Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Cyfansoddiadau

Advertising

" League John Hugh."

News
Cite
Share

League John Hugh." Dyna fel yr adnabyddir yn gyffredin y Gymdeithas Newydd a ffurfiwyd beth amser yn ol gan y Parch. J. Hugh Edwards, M.A. Mae ef ei hun wedi rhoddi enw Seisnig clogyrnaidd arni, fel y rhaid maddeu os yw'r cyhoedd am osod enw mwy persain ar y mudiad. Nos Wener, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Charing Cross gyda'r bwriad o ffurfio cangen Lun- deinig o'r Gymdeithas ac, er cyhoeddi Mr. Ellis J. Griffith a'r Parch. Herbert Morgan fel siaradwyr, heb son am yr atyniadau cywrain ynglyn ag enw Mr. Ellis W. Davies, ni chaed ond rhyw bedwar ugain o wyr ieuainc yn ddigon "gwladgarol" i ddod ynghyd. Bu Mr. Edwards a Mr. Ellis Griffith yn egluro amcanion y Gymdeithas Newydd, ac apeliodd y Parch. Herbert Morgan am aelodau, ond ni chaed na brwd- frydedd nac undeb i gefnogi'r erthyl di- weddaf hyn. Y gwir am dani yw, nad oes angen am y fath gymdeithas. Ei hamcan pennaf yw creu anghydfod, ac i rwystro gwaith Mr. Lloyd-George ar ran Cyiaru yn y Weinyddiaeth bresennol. Cwestiwn Dad- gysylltiad oedd yr unig bwnc y buwyd yn ymdrin ag ef, a baich yr areithiau a dradd- odwyd oedd y dylid ar bob cyfrif wthio y mater hwn i'r ffrynt ar unwaith. Gwawdient y Ddirprwyaeth bresennol, ac nid oedd ball ar y beio a wnaed ar yr aelodau Cymreig am wrthod cytuno i fod yn Blaid Gymreig. Gallai 34 o aelodau wneud gwrhydri, meddai un o'r siaradwyr, pe cydweithient ar gynllun yr aelodau Gwyddelig. Doniol iawn oedd elywed Mr. Ellis J. Griffith yn cymeradwyo y syniad hwn, oherwydd pan fu yr Aelod tros Fon yn anerch torf o Gymry yn Llundain ar adeg y Weinyddiaeth Doriaidd rhyw dair blynedd yn ol, esgusodai anallu yr aelodau Cymreig trwy ddyweyd, u Beth all 30 o bobl wneud mewn ty o 670 o aelodau ? Peth anoeth yn ei dyb pryd hynny oedd gwthio materion Cymreig i'r ffrynt, ond yn awr, pan mae gobeithion Cymru ar gael eu sylweddoli, wele ef ac ereill yn barod i godi pob math o rwystrau ar y ffordd. Feallai mai rhyw fath o chwareu plant yw'r cyfan—ac mae'r holl fudiad ar un olwg yn edrych yn debyg iawn i hynny-ond credwn fod cenedlaeth- oldeb Gymreig yn beth rhy gysegredig i'w droi yn chwareu beth, hyd yn oed gan Weini- dogion ieuainc yn Llundain. Gobeithio mai dyma'r olaf o'r cyfarfodydd plentynaidd hyn a gynhelir yn ein plith fel cenedl. Helyntion y Ddirprwyaeth. Bu'r Ddirprwyaeth Eglwysig wrthi yr wythnos hon eto yn gwrando rhai tystiol- aethau am waith y gwahanol sectau yng Nghymru, ond ni chaed dim o ddyddordeb arbennig yn yr hyn osodwyd ger bron y Dirprwywyr. Ail adrodd yr un hen hanes wneir byth a hefyd, a gallem feddwl ei bod yn llawn bryd bellach i ni gael tystiolaethau cyffredinol yn hytrach na ffeithiau a ffigyrau o leoedd penodedig—lleoedd lie y gwyddis fod yr Eglwys wedi dihuno i'w chyfrifoldeb yn y blynyddoedd diweddar hyn. Tra parheir i ddewis tystion o wahanol ran- barthau ofer fydd disgwyL am ddarluniad cywir a gonest o sefyllfa gyffredinol y gwa- hanol eglwysi drwy y wlad. Erbyn hyn mae pob enwad wedi cael digon o amser i baratoi y ffigyrau yn llawn, ac ond iddynfr lynnu at eu heglwysi a'u hachosion eu hunain gall y Dirprwywyr yn ddigon hawdd ddod o hyd i'r gwir safleoedd cydrhwng y gwahanol dystiolaethau a osodir ger eu bron. Mae'r tri Dirprwywr newydd wedi dechreu ar eu gwaith yn hynod o foddhaol, ac mae eu cyfeillion yn credu y gwnant berffaith gyf- iawnder a'r gwahanol achosion a ddygir ger bron. Gwir fod adran o'r Anibynwyr wedi credu fod galwad arnynt i gefnogi gwaith Mr. S. T. Evans a Dr. Fairbairn yn ymddi- swyddo, drwy wrthod rhoddi ychwaneg o dystiolaethau ond gwyr ereill fod Mr. Gibbon a Syr Brynmor Jones yn bleidiol i'w henwad, fel mai anheg fuasai cadw draw ar hyn o bryd. Dywedodd Mr. Gibbon eiriau llym wrth ei gyd-weinidogion mewn gwledd Gymreig yr wythnos ddiweddaf, a bydd yn syn gennym os na ddaw gwell trefn ar bethatt ar ol iddo gystwyo y rhai anufudd mor effeithiol y tro hwnnw. Yn ol pob argoelion fe gwblheir y gwaith cyn diwedd y flwyddyn, ac yna gellir cyhoeddi yr adroddiad mewn pryd i ddwyn mesur Dadgysylltiad o flaen y Senedd yn ystod y tymor nesaf. Pregethwr Siomedig. Un o arweinwyr yr enwad Anibynol yn Neheubarth Cymru yw Mr. H. M. Hughes, Caerdydd. Mae yn bregethwr gafaelgar ac yn draddodwr tra hyawdl, ond yn ychwanegol at ei alwedigaeth fel pregethwr ceisia fod yn awdurdod ar faterion gwleidyddol hefyd. Yn hyn y mae wedi dangos ei wendid a'i anwybodaeth. Ers rhai wythnosau y mae wedi beirniadu pawb a phopeth ynglyn a'r Ddirprwyaeth, os nad ydynt yn unol a barn ac ymddygiad Mr. S. T. Evans. Yr aelod hwnnw yw ei eilun yn hyn o waith, ac y mae wedi dyweyd geiriau llym iawn am lythyrau Mr. Vincent Evans i'r Fancr a'r South Wales Daily News. Cyhudda ef o anwybodaeth ac o gamarwain y cyhoedd, tra mewn gwirionedd dengys ei erthyglau ef ei hun yn y Tyst, mai efe sydd ar gyfeiliorn. Bu Mr. Gibbon yn dyweyd ei farn am danno y dydd o'r blaen, ac am hynny mae Mr. Hughes wedi pwdi a dywed yn awr na wnaiff ymddangos o flaen y Ddirprwaeth i roddi tystiolaeth fel yr oedd wedi addaw i'w enwad. Nid ydym yn credu y bydd i saile yr enwad ddioddef dim drwy hyn, eithr yn hytrach y bydd ar ei mantais oherwydd os yw Mr. Hughes mor anwybodus yn hanes ei enwad ag yw ym. mudiadau gwleidyddol y dydd, gwell fydd iddo gadw at y pulpud, a cheisio egluro pynciau athrawiaethol i'w braidd, a gadael i ifeithiau a ffigyrau yn faes agored i ereill mwy galluog nag efe.