Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y Gol.

SAFON I ADRODDWYR.

News
Cite
Share

SAFON I ADRODDWYR. At Olygydd y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. SVR,-Caniatewch i mi ychydig ofod i alw sylw at y feirniadaeth o'r adroddiad Cymraeg Gwraig y Meddwyn," yn Eisteddfod Mile End Road nos Iau, Mai 2. Adroddodd dau ar y llwyfan. Hoffwn yn fawr gael gwybod beth oedd safon y beirniad. Ai Did oedd cywirdeb geiriau yn hanfodol er cael adroddiad boddhaol. Gadawodd y buddugwr ddwy linell allan o'r dernyn, a thybiaf y buasai hyn yn "ddigon o fai ar ei ran fel y buasai yn amhosibl iddo ennill y wobr—er iddo adrodd yn rhagorol oddigerth y gwall hwn. Ond darfu i'r llall gael anghyfiawnder yn ol tyb rhai oedd wedi dilyn y ddau yn adrodd. Hawdd y coeliaf, os gadawai canwr ddwy linell allan o unawd mewn cystadleuaeth, na fuasai fawr obaith ganddo am wobr. A'i nid yw y rheol hon yn perthyn i gystadleuaeth mewn adrodd yn ogystal ag i unawd ? A oedd y beirniad yn ystyried y buddugwr wedi ennill gymaint yn ychwaneg o farciau i deu- lyngu y wobr, wedi iddo- roddi ystyriaeth i'r ffaith ei fod wedi gadael allan y ddwy linell ? Os darfu i hyn ddod i sylw y beirniad feallai y cawn ei sylwadau ef. —Yr eiddoch yn gywir, UN DROS CHWAREU TEG.

WELSH REVIVALISTS.

Advertising