Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Mae'r Gol. yn dra pbarod i gydnabod ei fod yn wr pwysig ac yn fawr ei ddylanwad, ar rai adegau ond rhaid iddo siomi rhyw banner dwsin o ohebwyr yr wythnos hon, am nas gall broffwydo fath dywydd a gant yn ystod y Sulgwyn. Ei ddymuniad gonest yw ar i bob darllenydd gael tywydd wrth ei fodd-os yn myned i Gymru, heulwen gynnes; os yn fodurwr gwlaw yn y nos a heolydd sycbion di-lwch yn y dydd os yn bysgotwr cawodau tyner yn awr ac eil- waith; ac os yn llaethwr ac yn gorfod aros yn y ddinas dros y gwyliau, wel gwlaw mawr er mwyn golchi'r canau llaeth yn ddidrafferth. Rhyw dymor rhyfedd yw tymor y gwyliau bob amser, a phrin y mae'r Gol. yn credu fod dyfeiswyr dyddiau Gwyl wedi bod o fendith i ddynoliaeth yn gyffredinol. Mae wedi cael profiad chwerw ei hun yn y swyddfa y dyddiau hyn o ddylanwad anffafriol dyddiau gwyl. Am ryw bythefnos cyn yr amser mae pob gweithiwr yn anghofio pob peth, ac yn edrych ym mlaen at gael un dydd o seibiant mewn chwarter blwyddyn, tra ar ol ei gael cymer dros bythefnos arall iddynt ddod i hwyl gwaith a gofal. Cafodd air ddechreu'r wythnos o ben Plumlumon oddiwrth "YDiwinydd" yn dyweyd fod gofalon y golofn wedi gwasgu mor galed ar ei ystumog fel bu aid iddo anwybuddu yr oil o gyfarfodydd Mai a dadleuon Campbell a myned i unigedd y mynyddoedd i chwilio am frithyllod. Cwynai yn dost fod y gwr du wedi gosod "k" yn enw Dr. Nicoll, ac yn lied awgrymu fod y Gol. yn gwybod mwy am old nick nag am Ddiwinyddiaeth Newydd. Galwodd Dafydd Jos yn y swyddfa ddechreu'r wythnos i ddyweyd ei fod yn myned i Gymru am dymor, ond addawa ddod yn ol cyn hir gyda'i gyn- yrchion clasurol. Mae wedi bod yn nosbarth Cymraeg y Counti Counsil tan Goronwy Owen, meddai, ac yn dechreu dod i sillebu ychydig yn well yn awr. Bu'r tywydd poeth a gaed yr wythnos ddiweddaf yn achos i'r "gwr du anghofio "ei" Gymraeg. Gadawodd nifer anarferol o wallau i fewn i'r papur, ■ac esgusodai ei gamwedd drwy ddyweyd fod angen seibiant arno. Mae'r Gol. wedi ychwanegu at ei gyflog, ac yn rhoddi mwy o wyliau iddo o hyn allan, ac os na lwydda drwy hynny i gael gwell gwaith o'i swyddfa, caiff saith niwrnod o wyliau bob wythnos cyn hir, a thai yn y fargen. Cwyna Gol. y golofn lenyddol i ni gamesbonio ei nodyn yr wythnos ddiweddaf drwy ddyweyd am lenyddiaeth y pulpud" mai ymdrin a hanes yr eglwys a'r capel yn ystod y gauaf diweddaf oedd yr hyn sydd wedi eu casglu gan y Ddirprwyaeth Eglwysig, yr hyn a ysgrifennodd efe oedd y ganrif o'r blaen." Wel, na foed iddo ddigio, does ond 99 mlynedd o wahaniaeth yn y gwall wedi'r cyfan J. R. Thomas.—Gwelwch ein bod wedi cywiro y cyfeiriad yr wythnos hon, ond i wr mor enwog achwi ni ddylai fod angen am nodi'r rhif, hyd yn oed mewn heol mor faith ag Oxford Street. "Cymru Fydd.Rhaid i chwi osod eich enw priodol wrth y llith cyn y gallwn ei chyhoeddi. Nid teg a Mr. Griffith a Mr. Edwards fyddai eu beirniadu mor llym, ond tan eich enw priodol. E. W. Daniel.-Diolch am nodyn, a chaiff le. Mae llawer i'w ddweyd tros sefydlu cartref i ferched yn Llundain, ond gofaler na wneir sefydliad enwadol o liono, onide fe'i lleddir ar y cychwyn. T. Phillips.-Blin gennym i'r parsel fyned ar gyfeiliorn yr wythnos ddiweddaf. Yr ydym wedi gwneud ymholiad yn y llythyrdy ynglyn a'r mater.

SAFON I ADRODDWYR.

WELSH REVIVALISTS.

Advertising