Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOG A'R WENNOL.

[No title]

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y SULGWYN.-Mae niter o wib-deithiauj wedi eu trefnu gogyfer a'r gwyliau, a aheir manylion am rai o honynt yn ein colofnau. hysbysebol. CYFARFODYDD.—Ar adeg y Sulgwyn y cynnal Eglwys y Boro' ei chymanfa bregethu flynyddol. Maent wedi llwyddo eleni i gael dau o gewri'r enwad i draethu'r genadwri, yno-neb llai na'r Parch. Stanley Jones,. Caernarfon, a'r Parch. Peter Price, Dowlais. CAPEL Y GOHEBYDD.Dechreuir heno ar gyfres cyfarfodydd pregethu yn y lie hwn. Gwasanaethir gan y Parch. D. Adams,. Lerpwl, a'r Parch. Elias B. Jones, Caergybi. BRYNTEG.—Dyna yw enw palasdy MT„ Hinds, Blackheath, lie y cynhaliodd Gweini-- dogion Cymreig Llundain eu cyfarfod misol ddydd Llun, Ebrill 29ain, dan lywyddiaeth Elfed. Darllenodd Machreth bapur dihafal ar "Montanus," a'r mudiad hwnnw yn Phrygia gariodd y fath ddylanwad ar grefydd o ganol yr ail ganrif hyd tua y chweched ganrif, pryd y darfyddodd gan i'r Eglwys gymeryd i fewn iddi ei hunan brif hanfodior. y mudiad. Rhoddodd Mr. a Mrs. Hinds dderbyniad tywysogaidd i'r Undeb. Mae i grefydd, ac yn arbenig i grefydd y Cymry. le anwyl a chynnes iawn yng nghalonau Mr. a Mrs. Hinds. Mor werthfawr ydyw cael teuluoedd o ysbryd y teula hwn yn ein mysg fel cenedl yn y dref Mae megis ffynnon yn tarddu yn loyw yn yr anialwch crasboeth. Teuluoedd fel hwn ydynt golofnau cryfion i. rinwedd a moes i ni yng nghanol arferion llygredig prif ddinas y byd. BORo'Nos Iau, Mai 2, darllenwyd' papurau i Gymdeithas Lenyddol y Boro' gan Miss M. E. Owen a Miss M. M. Wood. Gan y gyntaf cafwyd papur ardderchog ar gredo a gwasanaeth Eglwys Rufain, a chan yr ail cafwyd papur dihafal ar gredo a chyfan- soddiad Eglwys Loegr. Diolchwyd yn gynnes i'r boneddigesau am y papurau, campus. Methodd Mr. D. J. Lloyd, B.A., oherwydd afiechyd yn ei gartref, fod yn bresennol i roi ei bapur ar gredo a ffurf- lywodraeth yr Eglwys Bresbyteraidd. DECHREU CANRIF ARALL.-Bydd Cymanfa y Sulgwyn yn y Boro' eleni y gyntaf o'r ail' ganrif yn hanes yr addoldy yn y fan bresennol. Y Parch. D. Jones, Crugybar,. bregethodd yn y Boro' yn y gymanfa gan mlynedd i eleni. Pwy fydd byw ym mhen canrif eto i ddwevd mai Peter Price a Stanley Jones bregethodd yno ddechreu yr ail ganrif ? CYFARFODYDD MAWR."—Dywedodd Syr Marchant Williams y Sul diweddaf fod cewri y pulpud yn cilio o'r tir, fod yr hen hoelion wyth wedi darfod bob un. Mae yn amlwg. nad yw Syr Marchant ddim yn myned i gapel yn awr fel yn y blynyddoedd gynt, ac nad yw yn gynefin a chlywed ein doniau mawr presennol, neu ni fuasai yn traethu'r fath heresi. Mae gan bob enwad ei phregeth- wyr mawr fel yn y dyddiau gynt, ac yr ydym wedi cael prawf o hynny yn Llundain yn ddiweddar. Ar adeg y Pasc bu cewri'r Hen Gorff yn llenwi pulpudau'r ddinas, a'r Suliau presennol daw gwyr mawr Anibynol a'u cenadaethau i'n plith. Y Sul diweddaf bu y bardd-bregethwr Ben Davies, Pant-teg, a W. J. Nicholson, Porthmadog, a'u dawn yn tynnu tyrfaoedd i gapel Radnor Street, ac i-ii, chaed rhagorach odfaon erioed yn y lie. Y tyner a'r barddonol yw arddull Ben, a cheidw'r dorf, gan gyfaredd ei ddarluniau perffaith, yn hollol yn ei law. Mae Nichol- son bach" yntau yn perlio ei arabedd a'i