Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOG A'R WENNOL.

News
Cite
Share

Y GOG A'R WENNOL. A glywsoch chwi y gog ? A welsoch chwi y wennol? ydynt ofyniadau glywir y tymor hwn o'r flwyddyn o oes i oes. Nid plantos eithr ieuainc a hen hoffant eu gweled a'u clywed. Eu nodau ydynt newyddion ym mawlgan natur yn ein broydd wedi misoedd o seibiant. Cyhoeddant ddy- fodiad teyrn haf i daenu heirddion flodau dros lwm fedd y gauaf du. Dywed un am y gog:- Yn odl hon ceir anadl haf." Adar ymfudol ydynt megis Ilu mawr ereill ymwelant a'n glannau ar wahanol dymhorau y flwyddyn. Nid yw yn iawn i ni foliannu yr ymwelwyr gan anwybyddu yr arhoswyr. Onid yw trydar aderyn y to, caniadau swynol y frongoch, y bync, teiliwr Llundain, a'r llinos, cathlan y fwyalchen a'r fronfraith, ie, hyd yn oed crawciadau y fran tyddyn, y crychydd, ac oergri y ddyllhuan mor berorus i'n clustiau a chan ddeunod y gog, twi twi twi y wennol, a rhygniad cryglyd rhegen yr yd yng ngoleuni y lloer yn nistawrwydd y nos. Ond pob peth newydd dedwydd da yw hi gyda phawb ym mhobman. Dyma ninnau i ffwrdd a'n hanadl yn ein dyrnau i Yr Isca (Yr Wysg) i gael clywed y GOG. Dacw hi! Ust! y mae yn canu, Gwccw Aderyn mawr o liw glaslwyd ydyw. Perthyna i gyff y Climbers, yr hwn sydd deulu mawr yn trigiannu yn bennaf ym mharthau cynnes y byd, er y ceir rhai o honynt yn ymwelwyr hafol a gwledydd oerion. Ei gylfin hi sydd guL ac ychydig yn fwaog. Ei chynffon sydd hir a blaengron a'i hedyn ydynt hirion. Ceir i'w thraed bedwar o fysedd-dau ym mlaen a dau yn ol; eithr troa yr un allanol 61 weithiau ym mlaen mewn trefn i afaelu yng nghangau y coed pan yn llammu o'r naill i'r llall. Pryfaid yw ei hymborth. Cruga ei llais yn fawr weithiau, a gwna swn wrth ehedeg ambell i dro megis pe buasai yn carthu ei gwddf a phoeri. Gwelir math o ewyn gwyn a'r goedydd y maes ym Mehefin a Gorphenaf, ac y mae magien yn ei ganol. Y fagien chwe troed honno (afihro- phora) sydd yn gwneud yr ewyn lie y mae yn byw nes tyfa ei hedyn. Ond poer y gog y gelwir ef mewn rhannau o Gymru. A cheir hefyd surddail tebyg i feillion gyda blodeu gwynion a elwir yn fara a chaws y gog." Mi wn fod y gog yn eu pori; pryfaid yw ei hymborth. Nid yw y gog yn priodi megis y gwna y rhan fwyaf o'r adar-math o kedeshah y byd asgellog yw hi. Dodwya yn nythod adar ereill sydd megis hi yn bwyta pryfaid sef Jack-Llwyd-y-Baw, yr aderyn penfelyn, tinsigl-y-gwys, a pipit-y-waun. Dilyna yr olaf y gog yn ei ehediadau, ac adnabyddir hwn wrth yr enw, Gwas-y-Gog neu Forwyn-y-Gog." Fel y daw y cyw o'r plisgyn a dechreu magu pluf, os bydd wyau neu adar eraill yn y nyth, gwthia ei aden danynt nes eu cael i'w gefn, yna teifl hwynt oil allan dros y nyth fel y gallo gael digon o le a digon o ymborth. Efe gaiff y cwbl gan ei dadmaeth a'i fam-maeth felly. Teimlant serch at yr aderyn estronol, a dilynant ef am flsoedd nes y daw yn ddigon nerthol i ymfudo ar ol ei riaint i India, Affrica, a lleoedd ereill. Ymfuda y gog yr haf i'r gogledd mor belled a Lapland a Kamstchatka. Y mae yn aderyn caled ac ymdrawus. YR ENW. Derbyniodd y gog ei henw oddiwrth ei chan ddau-nodyn. Galwai y Groegiaid hi cocux, y Lladiniaid cuculus, y French coucou, y Gaeliaid cubhag, y Saxoniaid cuckoo, a'r Sanscrit kokila. Ei dull hi o ddodwy yn nyth aderyn arall roddodd fodolaeth i'r gair cuckold am wr neu wraig anffyddlon. Enw y cenhedloedd gogleddol am y gog yw Gouk. Defnyddir y gair yn enw ar y ffol; gelwir ef yn gouk. Enw ffiaidd yw Cwccw. Yr hen gwccw." Ni wn i gymaint a bardd o Benboyr erioed i gymeryd yr enw "gwccw" yn ffugenw neu ran o fEugenw. Enw ffiaidd i'w Gwccw megis Judas Iscariot. Gouk y gelwir "Ffwl Ebrill" neu "Ffwl- Gwyl-Dechreu-y-Flwyddyn" yn Ucheldir- oedd yr Alban. Gauch yw y gair Teuton- aidd am ffwl neu stultus, ac o hwnw y deillia goke neu y gawky, ie, y gog a'r gwccw. OFERGOELAETH ynglyn a'r gog yw ei bod yn aflwcus i'w chlywed yn canu y tro cyntaf yn y flwyddyn os mai ar dir ar sef pridd coch y sefir ar yr adeg. Goreu oil po lasaf fyddo y maes y sefwch arno pan glywch hi yn canu y tro cyntaf bob blwyddyn. Druain o amaethwyr ydynt yn gorfod treulio eu dyddiau ar dir ar i aredig a llyfnu os yw yr hen chewdl yn wir. Aflwcus iawn hefyd yw ei chlywed yn canu y tro cyntaf yn y tymor heb arian yn y boced. Cofiwyf am un gerddodd ar y glas gydag arian yn ei goden o ddydd i i ddydd mewn trefn i gael lwc un tro, ond ni chafodd er ei chlywed yng nghanol maes meillionog gydag arian lawer yn ei logell. Ffynnai math o ddewiniaeth gynt gan gariadon ynglyn a'r gog megis y dengys y llinellau hyn :— When first the year I heard the cuckow sing, And call with welcome notes the budding spring, I straightway set a running with such haste, Deb'rah that won the smock scarce ran so fast, Till spent for lack of breath, quite weary grown, Upon a rising bank I sat me down Then doff'd my shoe, and by my troth I swear, Therein I spy'd this yellow frizzled hair, As like to Lubberkin's in curl and hue, As if upon his comely pate it grew." Nid yw arhosiad y gog ond byr yn ein gwlad, o ddeufis i ddeufis a hanner yr erys y cogau ddaw yma o'r dechreu. Erys yr adar fegir yma ychydig yn hwy, gan na allant ehedeg dros foroedd a chyfandiroedd i'r deheu nes ennill nerth. Nid ymadawant hwy lawer cyn misoedd Medi a Hydref. Eheda yr hen adar yn ol yn gynt os gwir y y geiriau Mis cyn C'la'mai can y cogau." Mi gana'n ddilai dros Ebrill a Mai, Tua hanner Mehefin ffarweliwch bob rhai." Ni all gwyr Yr Isca gadw y gog heb ymadael er codi mur o'i chylch. Ond cana yn swynol ar lethrau a glynnoedd yr ardal. Y gwenyn bach yn suo sydd A gwena'r blodeu cain Ac yn y goedwig can y Gog Gwccw mewn hyfryd sain." (I'w Barhau.)

[No title]

Am Gymry Llundain.