Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

NODION LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODION LLENYDDOL. The Nationalist." Dyma gyhoeddiad cenedlaethol a gy- hoeddir yn Nghaerdydd, ond 'does yr un gronyn o genedlaetholdeb ynglyn ag ef rhagor na'r enw. Mae wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg sur o glawr i glawr, a'i brif genhadaeth yw pardduo gwaith pob gwr sydd wedi gwneud rhywbeth tros Gymru a'i Lien. Mae'r golygydd yn llym iawn ar Saesneg Mr. 0. M. Edwards yn ei Short History of Wales," ond nid yw Saesneg y critic hwn ei hunan ond cyfansoddiad cyffredin iawn. Gan ei fod yn feirniad mor graff, hoffwn glywed ei farn yn y rhifyn nesaf ar Gymraeg Syr Marchant Williams yn ei ganeuon di- weddar. Hwyrach fod hwnnw yn glasurol iawn yn ei olwg. Llenyddiaeth y Pulpud. Dywedir fod y Ddirprwyaeth Eglwysig wedi casglu peth wmbredd o draethodau a phamphledau yn ymdrin ar y capel a'r eglwys yng N ghymru yn ystod y gauaf o'r blaen. Mae'r cynyrchion hyn wedi bod yn dra lliosog, ac os llwydda'r Dclirprwyaetn 1 roddi Index gweddol i'r mater hwn o lenyddiaeth, ynghyd a chrynhoad byr o'u cynnwys, bydd wedi gwneud rhywbeth i gyfiawnhau ei fodolaeth. Fe gofir i'r Ddirprwyaeth Dir ers talm wneud gwaith rhagorol wrth gasglu'r manylion am len- yddiaeth pwnc y tir, ac mae'r atodiadau bynny yn aros yn safonol hyd heddyw, tra mae helynt y tir yn aros yn yr unfan neu bron wedi ei anghofio. Gwinlian y Bardd. Mae'r trydydd argraffiad o weithiau bardd- onol Daniel Ddu, o Geredigion, newydd ei gyhoeddi mewn cyfrol hardd o'r wasg eglwysig Gymreig yn Llanbedr, Ceredigion. Cyhoeddwyd y Winllan ar y cyntaf yn swyddfa Mri. Rees, Llanymddyfri yn 1831, o dan olygiaeth y bardd ei hun cafodd werth- iant helaeth, oherwydd yr oedd Daniel Ddu yn y cyfnod hwnnw yn fawr ei fri fel bardd, ac yn boblogaidd iawn yn Nghere- digion. Ar ol ei farwolaeth anamserol yn 1846 meddyliwyd am ddwyn argraffiad newydd allan gydag ychwanegiadau o weithiau diweddaraf yr awdwr, ond ni chyf- lawnwyd y bwriad hyd 1872, pryd y caed casgliad cyfiawn o waith y bardd am y tro cyntaf. Mae'r ddau argraffiad wedi ei gwerthu allan ers blynyddau, ac wele drydydd o flaen y cyhoedd, yn yr hwn rhoddir cofiant o'r awdwr, wedi ei ysgrif- ennu, mae'n debyg, gan un o'i ddisgynydd- ion, ynghyd a darlun o Daniel Ddu wedi ei dynnu pan oedd y bardd ieuainc yn efrydydd yn ngholeg Rhydychain. Mae awdwr y cofiant wedi casglu cryn lawer o ffeithiau yn hanes y bardd, a gesyd ei gysylltiadau teuluol gyda manylder, mewn cyfres o achrestri, i ddangos ei berthynasau sydd yn awr yn fyw, a chan mai perthynas sydd yn gyfrifol am y cofiant, tyn law dirion dros hanes ei ddiwedd sydyn. Mae'r gyfrol wedi ei threfnu yn ddestlus mewn rhwymiad hardd, ond gresyn na fuasid wedi gofalu am lythrennau mwy newydd i argraffu y cofiant a'r nodiadau yn y gyfrol, er mwyn gwneud y darlleniad yn fwy clir. Pris y gyfrol yw coron, a gellir ei chael o'r swyddfa yn Llanbedr. Lampeter. Dyma'r enw hyll a osodir gan Gwmni'r Wasg Eglwysig ar dref Llanbedr pont Stephan. Hwyrach fod rhyw esgus dros roddi'r enw Seisnig ar lyfrau Seisnig, ond yn sicr pan yn cyhoeddi rhai Cymraeg gosoder yr enw Cymraeg i fewn hefyd. Mae rhyw ysfa ar rai anwybodusion a gwyr balch ein rhanbarthau gwledig am Seisnigeiddio popeth, ond gresyn fod gwlad y Cardis wedi syrthio i ddilyn yr esiampl ffol a phlentynaidd hyn.