Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. ORIEL Y CYMRO A'R CELT,Y mae yn ein bwriad i gael hanes a darlun o'n ,cerddorion Cymreig mor ami ag a fyddo'n bosibl. Gweler feUy yr amcenir gwneud y .golofn hon yn un ddyddorol ym mhob modd. Y mae gennym amcan arall hefyd. Carem, drwy y golofn hon, i fod o ryw was- anaeth i'r cantorion sydd mewn angen am help Haw yn yr yrfa gerddorol y maent yn dechreu arni. Beth allai fod yn fwy teilwng na hyri ? Y mae dyddordeb neu anydd- ordeb y golofn felly yn dibynnu, i raddau, ar y cantorion a'r cerddorion eu hunain Nid un o'r rhai hynny sydd yn dechreu ydyw y foneddiges y rhoddwn ei hanes a darlun o honi yr wythnos hon. Felly hi -sydd yn gwneud cymwynas a ni, ac nid i'r gwrthwyneb Rhoddodd esiampl o'i bonedd- igeiddrwydd, drwy ateb ein cais am ei darlun, ar unwaith. A dyma fe- GWLADYS ROBERTS.—Ganwyd hi yn Llan- elli, a bu yn astudio canu a'r berdoneg yno o dan gyfarwyddid Mr. A. W. Swindell- gwr ddylai fod yn falch o'r fraint! Yn ei gyngherddau blynyddol ef y dechreuodd dynu sylw pobl y De. Pan yn bum mlwydd oed gallesid gweled y fach yn canu ar y llwyfan a'i thaid wrth ei hochr rhag iddi dorri i lawr Cyn iddi adael yr ysgolion elfenol a chanol-radd yn Llanelli profodd Miss Roberts ei hoffder at a'i rhagoriaeth mewn gwybodaeth o'r iaith Gymraeg, canys ennill- ,odd y wobr gyntaf yn y pwnc hwn, sef copi dau gini o'r "Mabinogion" (Guest). Y mae'r cariad at y Gymraeg wedi aros gyda hi hyd heddyw, ac nid oes arni gywilydd siarad yr hen iaith ddigymar Daeth Miss Roberts i'r R.A.M. yn 1901, ac o fewn chwe mlynedd y mae wedi cyrraedd safle anrhydeddus fel contralto. Y gwir yw, nas gallai beidio llwyddo, canys yn sicr y mae gwreiddin y mater ynddi. Edrycher .ar ei gwobrwyon yn y coleg :— 1. Bronze Medal am ganu. 2. Bronze Medal am ganu ar yr olwg gyntaf a darllen. 3. Silver Medal am ganu. 4. Certificate of Merit am ganu (anrhydedd uwchaf y coleg). 5. Y Sainton-Dolby prize. 6. Y Llewelyn Thomas Gold Medal prize. 7. Y Rutson Memorial prize. 8. Y Westmorland Scholarship. 9. Y Lilian Eldée" Scholarship. 10. Y Swansea Eisteddfod prize-agored i gantorion Cymreig yn yr R.A.M. Enillodd medal rhif 1 ar ddiwedd ei Wwyddyn gyntaf yn y coleg. Yn y tri mis cyntai o'r ail flwyddyn yr oedd wedi enill y Sainton-Dolby prize i'r contralto oreu. Ar ddiwedd yr ail dymor cipiodd y wobr Thif 6 uchod. Wedi canu y darn prawf, set Sabbath Morning at Sea (Elgar), dywed- oddy Caderirydd wrthi pan y dyfarnwyd hi'n oreu Diolch yn fawr iawn i chwi am ddatganiad dramayddol mor anarferol o dlws Ni raid i ni gofnodi yr amrywiol Gyng- herddau Uwchraddol y bu Miss Roberts yn ,.canu ynddynt-y maent yn rhy liosog. Am y dyfodol gellir dweyd y bydd ar tour yng N ghymru yn ystod Mehefin ac Awst. A bydd yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol Swansea yn mis Awst, ac yng ngwyl Caer- dydd ym Medi. Nid oes angen ychwaith i ni enwi yr amrywiol ddarnau wrth ganu pa rai y mae y gantores yn gwefreiddio'i gwrandawyr. Y ifaith yw ei bod yn canu yn dda bob amser. Nis gwyddom ond am un contralto Gymreig y dyddiau gynt ellid ei chydmaru a hi, set Miss Eleanor Rees, ac nid yw y gymhariaeth yn anffafriol i Miss Roberts. Y mae dweyd nas gwyddom am contralto Gymreig cystal a hi, ac y credwyn y cydnabyddir hi gan y Saeson ymhlith y goreuon ymddangosant yn eu cyng- herddau hwy, yn dystiolaeth uchel, ond nid rhy uchel i'n gwrthrych. Hir y parhao, drwy ei chanu, i helpu i godi'r hen wlad i uchel fri! EISTEDDFOD* MILE END.—Yn anffodus galwyd ni i helpu i "chwynnu" yr adroddwyr- Cymraeg a Saesneg-yma, fel na chawsom gyfle da i glywed y cystadlu cerddorol, ac felly ni ellir tynnu llinyn mesur teo,, I Mr. Maen- gwyn Davies oedd yn beirniadu, ac yr oedd, fel arfer, yn fanwl a theg. Mrs. Nelli Jones hefyd yn cyfeilio yn dda fel arfer. Llywyddodd yr ysgrifenyddion gweithgar i or-lenwi y lie yn wir y mae eisiau meddwl am le mwy i gynnal Eisteddfod mor boblogaidd I) Bai yr Eisteddfod ydoedd diffyg darnau mwy newydd. Eisiau mwy o brawf ar alluoedd y cantorion. Onid ydynt ers blynyddau wedi deall holl gyfrinion "0 na byddai'n haf"? Gweddol iawn ydoedd y canu o'r bedwarawd Miss GWLADYS ROBERTS. Ti wyddost," ac o'r gydgan Codwn Hwyl." Yn yr olaf yr oedd y donyddiaeth yn bur ddi- ffygiol. Disgwyliem well canu yn wir. Ni chlywsom ond y cantor olaf ar yr Unawd Tenor —a chafodd hanner y wobr gyda'r brawd Humphreys. Rhaid felly fod y canu yn dda! Llongyfarchwn y baritone buddugol, John Evans, Jewin. Y mae yntau yn hen orch- fygwr "° Y CERDDOR AM MAI.-NLid oes dim neill- duol yn ei gynnwys y tro hwn. Ceir anthem ynddo-darn cyd-fuddugol, ac un bur effeithiol ydyw. Gresyn y deuir yn ol i'r cyweirnod dechreuol mor sydyn o fewn chwe ban i'r diwedd. Er hyn, haedda y darn hwn gefnog- aeth y corau. THE COMING OF ARTHUR."—Dyma enw gwaith newydd o eiddo Mr. David Evans, a genir yng Ngwyl Gerddorol Caerdydd ym mis Medi. Yn yr un -wyl ymddengys y Berdon- yddes alluog, Miss Marie Novello, yr hon enillodd y fath gymeradwyaeth yn y Bechstein Hall yn ddiweddar.
NODION LLENYDDOL.
NODION LLENYDDOL. The Nationalist." Dyma gyhoeddiad cenedlaethol a gy- hoeddir yn Nghaerdydd, ond 'does yr un gronyn o genedlaetholdeb ynglyn ag ef rhagor na'r enw. Mae wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg sur o glawr i glawr, a'i brif genhadaeth yw pardduo gwaith pob gwr sydd wedi gwneud rhywbeth tros Gymru a'i Lien. Mae'r golygydd yn llym iawn ar Saesneg Mr. 0. M. Edwards yn ei Short History of Wales," ond nid yw Saesneg y critic hwn ei hunan ond cyfansoddiad cyffredin iawn. Gan ei fod yn feirniad mor graff, hoffwn glywed ei farn yn y rhifyn nesaf ar Gymraeg Syr Marchant Williams yn ei ganeuon di- weddar. Hwyrach fod hwnnw yn glasurol iawn yn ei olwg. Llenyddiaeth y Pulpud. Dywedir fod y Ddirprwyaeth Eglwysig wedi casglu peth wmbredd o draethodau a phamphledau yn ymdrin ar y capel a'r eglwys yng N ghymru yn ystod y gauaf o'r blaen. Mae'r cynyrchion hyn wedi bod yn dra lliosog, ac os llwydda'r Dclirprwyaetn 1 roddi Index gweddol i'r mater hwn o lenyddiaeth, ynghyd a chrynhoad byr o'u cynnwys, bydd wedi gwneud rhywbeth i gyfiawnhau ei fodolaeth. Fe gofir i'r Ddirprwyaeth Dir ers talm wneud gwaith rhagorol wrth gasglu'r manylion am len- yddiaeth pwnc y tir, ac mae'r atodiadau bynny yn aros yn safonol hyd heddyw, tra mae helynt y tir yn aros yn yr unfan neu bron wedi ei anghofio. Gwinlian y Bardd. Mae'r trydydd argraffiad o weithiau bardd- onol Daniel Ddu, o Geredigion, newydd ei gyhoeddi mewn cyfrol hardd o'r wasg eglwysig Gymreig yn Llanbedr, Ceredigion. Cyhoeddwyd y Winllan ar y cyntaf yn swyddfa Mri. Rees, Llanymddyfri yn 1831, o dan olygiaeth y bardd ei hun cafodd werth- iant helaeth, oherwydd yr oedd Daniel Ddu yn y cyfnod hwnnw yn fawr ei fri fel bardd, ac yn boblogaidd iawn yn Nghere- digion. Ar ol ei farwolaeth anamserol yn 1846 meddyliwyd am ddwyn argraffiad newydd allan gydag ychwanegiadau o weithiau diweddaraf yr awdwr, ond ni chyf- lawnwyd y bwriad hyd 1872, pryd y caed casgliad cyfiawn o waith y bardd am y tro cyntaf. Mae'r ddau argraffiad wedi ei gwerthu allan ers blynyddau, ac wele drydydd o flaen y cyhoedd, yn yr hwn rhoddir cofiant o'r awdwr, wedi ei ysgrif- ennu, mae'n debyg, gan un o'i ddisgynydd- ion, ynghyd a darlun o Daniel Ddu wedi ei dynnu pan oedd y bardd ieuainc yn efrydydd yn ngholeg Rhydychain. Mae awdwr y cofiant wedi casglu cryn lawer o ffeithiau yn hanes y bardd, a gesyd ei gysylltiadau teuluol gyda manylder, mewn cyfres o achrestri, i ddangos ei berthynasau sydd yn awr yn fyw, a chan mai perthynas sydd yn gyfrifol am y cofiant, tyn law dirion dros hanes ei ddiwedd sydyn. Mae'r gyfrol wedi ei threfnu yn ddestlus mewn rhwymiad hardd, ond gresyn na fuasid wedi gofalu am lythrennau mwy newydd i argraffu y cofiant a'r nodiadau yn y gyfrol, er mwyn gwneud y darlleniad yn fwy clir. Pris y gyfrol yw coron, a gellir ei chael o'r swyddfa yn Llanbedr. Lampeter. Dyma'r enw hyll a osodir gan Gwmni'r Wasg Eglwysig ar dref Llanbedr pont Stephan. Hwyrach fod rhyw esgus dros roddi'r enw Seisnig ar lyfrau Seisnig, ond yn sicr pan yn cyhoeddi rhai Cymraeg gosoder yr enw Cymraeg i fewn hefyd. Mae rhyw ysfa ar rai anwybodusion a gwyr balch ein rhanbarthau gwledig am Seisnigeiddio popeth, ond gresyn fod gwlad y Cardis wedi syrthio i ddilyn yr esiampl ffol a phlentynaidd hyn.