Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…

III"Ninr-I , ! "TAB"'.,. ,....…

News
Cite
Share

I I I"Ninr "TAB" i LL UNDAIN ( :J London Welshman and Kelt- Hen bechod cenedlaethol. Mae pob hanesydd sydd wedi traethu ei farn ar fudiadau y genedl Gymreig yn yr oesau boreuol yn dyweyd mai ein hymran- iadau talaethol-nell deuluol weithian-sydd wedi cyfrif am ein prif fethiantau. Priodolir yr enillion Normanaidd i'w medr i greu anghydfod o fewn y byddinoedd Cymreig, ac mae'r goresgyniad Seisnig ar ol hynny yn ffrwyth ymraniadau ymhlith ein tywysogion ein hunain. Mewn blynyddoedd diwedd- arach mae ami i fudiad wedi cael ei rwystro gan wahaniaeth barn ymysg ein harweinwyr, fel mae pob lie i gasglu fod yr hyn a goleddir gan hen haneswyr yn lied agos i fod yn wirionedd. Yn y dyddiau hyn mae perygl i ni weled esiampl arall o'r un hen hanes eto, ac mae breuddwydion dwy genhedlaeth o leiaf ar fin cael eu sylweddoli, ond pan mae llawen floedd buddugoliaeth ar gael ei seinio wele nodau aflafan yn cael eu taro gan aelodau o'r un teulu. Gelynion pennaf dyn yw tylwyth ei dy ei hun, medd hen wireb, a'r gelynion pennaf gan Gymru heddyw yw rhai o'r pregethwyr gwleidyddol a'r gwleid- yddwyr proffesedig sydd yn honni bod yn deyrngarol iddi tra ar yr un pryd yn barod i frathu cledd y bradwr i galonnau y rhai sydd wedi ennill safleoedd anrhydeddus drwy eu haberth a'u hymdrechion tros eu gwlad a'u cenedl. Creu anghydfod. Y pwnc pennaf y ceisir bod yn aiddgar trosto yw hen gwestiwn Dadgysylltiad. Mewn cynhadleddau ar hyd a lied y wlad mae ein pregethwyr yn pasio penderfyniadau yn condemnio y Weinyddiaeth bresennol am na ddygir i fewn fesur arbennig i ymdrin a'r camwri yn ddioed. Dyma'r unig Wein- yddiaeth yr ydym wedi cael addewid pen- dant oddiwrthi y bydd iddi ddwyn mesur Dadgysylltiad ger bron y Senedd yn ei dro, ac eto i gyd, yn hytrach na cheisio calonogi ein harweinwyr yn eu bwriad, wele'r aflon- yddwyr, fyth a hefyd, yn beio a beirniadu y Weinyddiaeth gyda chwerwder a malais teil- wng o'i gelynion pennaf, nid trwy ymddyg- iadau o'r fath mae enill ymddiriedaeth ein harweinwyr, ac os parheir yn y cadgyrchoedd annoeth hyn, ni fydd gobaith y ceir cyflawn- iad o'r addewidion yn ystod y Senedd-dymor nesaf. I wneud y drwg yn waeth, mae amryw o'r aelodau Seneddol Cymreig yn manteisio ar yr ysbryd anfoddog hwn, i ychwanegu at drafferthion y Weinyddiaeth. Yr hyn sy'n gwnertd eu hymddygiadau hwy yn dra amheus, yw'r ffaith onest mai dyma'r tro cyntaf i ni glywed lleisiau amryw o honynt yn bloeddio eupybyrwch cenedlaethol- Mae pwnc Dadgysylltiad yn hen bwnc, ond ar ol i Mr. Lloyd-George enill ei safle uchel yn neddfwrfa prydain y mae rhai o honynt wedi dihuno i'r ffaitli- fod y fath gwestiwn yn bod, er eu bod hwy ers blynyddoedd yn ceisio bod yn fath o gynrychiolwyr i ni. Os mai ffrwyth rhyw ddiwygiad gwleidyddol yw, yr ydym yn canmol y brodyr am eu bybyr- wch, ond pan welir y fath awydd i osod rhwystrau ar ffordd Mr. Lloyd-George-ae ereill o'i bleidwyr selog-y mae'n hen bryd i ni godi'r cri, ac ystyried y perygl yr ydym ynddo os dilynir arweiniad y bobl anfoddog hyn. •' Achos y terfysgu. Rhaid addef mai siomiant gwleidyddol sydd wrth wraidd yr holl derfysgu yma, ae mai eiddigedd personol sy'n gyfrifol am yr ymraniadau cywilyddus sydd ymhlith ein cynrychiolwyr Seneddol heddyw. Mae'r wlad yn ddigon craff i ganfod hyn yng ngwaith ac arieithiau rhai o'r aelodau Cym- reig, ac mae'n syndod meddwl fod rhai gweinidogion gweiniaid wedi cael eu hudo ganddynt oddiar Iwybr goleu eu dyledswydd tuag at eu cydgenedl. Os lleddir mesur Dadgysylltiad, y pregethwyr Ymneillduol eu hunain fydd yn gyfrifol am hynny, ac os bradychir cenedl gyfan yn awr pan ar ennill ei hawliau, wrth ddrws y pulpud y gorwedd y bai. Os oes rhai o'r aelodau Seneddol yn teimlo yn siomedig am na roddwyd swyddau breision iddynt; os oes eiddigedd yiil mynwes rhai o honynt am fod dau neu dri o'n harweinwyr mwyaf gonest a goleuedig wedi ennill ymddiriedaeth y blaid Rydd- frydig na fydded i werin Cymru-drwy ei phregethwyr-gael ei hudo i gredu mai calonnau yn berwi tros egwyddorion rhyddid sy'n cymell yr aelodau hyn i godi gwrth- ryfel. Mae cydraddoldeb crefyddol a rhyddid cenedlaethol yn bethau rhy gyseg- redig i ni eu gosod yn chwareu-bethau i'r gwleidyddwr proffeswrol i'w defnyddio yn fath o risiau dyrchafiad i boblogrwydd personol. A dyna beth a wneir, os parheir i gario ymlaen y cadgyrchoedd aii-iddig presennol yng nghynulliadau crefyddol ein cenedl.

Advertising