Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
[No title]
YR wythnos ddiweddaf bu Mr. 0. M. Edwards ar ymweliad a'r hen ardal yn y Bala. Mae Llanuwchllyn yn fan cysegredig ganddo, a threulia lawer o'i amser yno, a bwriada adeiladu ty mawr yno yn ystod y flwyddyn ddyfodol.
Advertising
EALING WELSH PRESBYTERIAN CHURCH. (Held at Swift's Assembly Rooms, 23, High Street. NOR GRAND = = Welsh Goncert AND ANNUAL TEA MEETING WILL BE HELD AT THE TOWN HALL BROADWAY, EALINGJ) ON Wednesday, May 8" 1907- ,f' c, Chairman- JOHN BURRELL. ESQ. Artistes- SOPRANO— Miss ELEANOR JONES, R C M- CONTRALTO— Miss GWLADYS ROBERTS, R A.M. TENOR- Mr. SPENCER THOMAS, R.CM BARITONE— Mr. DAVID EVANS, R.A.M. FLAUTIST— Mr. ELI HUDSON. ELOCUTIONIST— Mr. D. EGRYN OWEN. ACCOMPANIST— Mr. GWILYM ROWLANDS. AND THE EALING WELSH GLEE SINGER (Conductor Mr. E. HUGHES). Tea on the tables at 6 p.m. Concert at 8 p.m. prompl. Admission by Tickets, 1/ 2/ and 3/- each,. To be obtained of all members of the School, or the Hon. Sees.— Mr. J. STANLEY RICHARDS, 35, Woodhurst Road, Acton Mr. REES, 45, Felix Road, West Ealing. 3 minutes from Ealing Broadway Stations (G.W.R. and District) also Electric Trams from Shepherd's Bush, Hammersmith, Acton, Hanwell and Southall pass the Hall. Proceeds in aid of the Chapel Building Fund- ST. MARY'S WELSH CHURCH, Camberwell New Road, S.E. REV. LEWIS RODERICK, Chaplain. THE ANNUAL MAY SERVICES WILL BE HELD ON Sunday and Monday, May 12 and 13, 1907, PREACHER: THE REV. D. RODERICK, Vicar of Cockett, Swansea. Services as follows Sunday, 11 a.m., Matins and Sermon. 3.30 p.m., Litany and Sermon. 6.30 p.m., Evensong and Sermon. Monday 8 p.m., Evensong and Sermon. Anthem Llawenychais, &c." Cenir Unawd Nos Sul gan Miss Jennie Hughes. :o:— Tea will be provided between the Services on Sunday Afternoon at a nominal charge. SERGEANT-MAJOR WYNNE,") Mr. J. E. WOOZLEY, j Churchwardens.
Am Gymry Llundain.
ymweliad a Ruislip, pentref bychan gwledig yn nhawelwch gwlad Herts. Cafodd y cwmni arweinwyr wrth fodd eu calon yn y Mri. Vaughan Lewis a E. H. Griffiths-dau hen lane allent werthfawrogi unigedd y wlad. Treuliwyd y prydnawn i rodianna ac i chwareu yng nghwmni'r adar a'r blodau, ac yna yn yr hwyr bu raid iddynt gerdded ar draws y wlad i bentref Northwood, gan ddychwelyd oddiyno wedi gwir fwynhau ramble o'r fath oreu. STRATFOR D.—Cynhaliwyd cyngherdd llwyddianus ymhob ystyr yn y lie uchod nos Iau diweddaf, pryd y datganwyd yn odidog gan Miss Maud Jones, R.A.M., Miss Gwladys Roberts, R.A.M., Mr. R. Festyn Da vies, a Mr. David Jones (Llew Caron). Rhannwyd y wobr yn y gystadleuaeth ar unrhyw solo, rhwng Miss Blake, Romford Road, a Mr. Thomas Jones, New Jewin. Daeth tyrfa liosog at eu gilydd, a chafodd pawb wledd o'r fath oreu. Hyfryd oedd gwrando ar Mr. Tom Jenkins, Battersea, yn adrodd darn o waith Islwyn mor ardderchog. Gwasan- aethwyd wrth y berdoneg gan Miss Maud Jones a Mr. David Davies, Barking. Gwnaeth Mr. Denby Jones ei ran yn ardderchog gyda'r cyngherdd hwn fel ysgrifennydd. EISTEDDFOD SHIRLAND ROAD.—Nos Iau, Ebrill 25ain, cynhaliwyd yr wythfed Eis- teddfod flynyddol, ynglyn a'r Eglwys hon a'r canghenau ysgolion. Cafwyd cynhulliad pur dda, ynghyd a chystadleuaethau rhag- orol ar y rhan fwyaf o'r testynau, ond y farddoniaeth, Ble mae'r beirdd ? Y beirn- iaid oeddynt Traethodau, adroddiadau, a'r areithio, y Parchedigion F. Knoyle a D. Hoskins cyfieithiadau, y Parch. G. H. Havard llawysgrifau, ebysgrifau, a'r paint- ing, Miss M. James arholiadau ar lafar, Mr. 61 R. M. Thomas arholiadau ysgrifenedig, y Parch. S. E. Prytherch y cushion cover a'r illuminated text, Mrs. Lewis, Harlesden. Tafolwyd y cerddorion gan Mr. Madoc Davies yn ei ddull deheuig a dirodres arferol. Cyfeiliwyd gan Miss Myfanwy Jones, L.R.A.M. Y cadeirydd oedd R. Humphreys, Ysw., a chafwyd anerchiad pwrpasol a rhodd sylweddol ganddo at gylliad y mudiad. Arweiniwyd gan H. Hughes, Ysw., ac yr oedd yr ysgrifenyddion, Mr. F. J. Williams, Lancaster Road, a Mr. W. Davies, St. Pauls, wedi gweithio yn dda a choronwyd eu hym- drechion a llwyddiant. Rhoddwyd y te a'r danteithion cyn dechreu y cyfarfod gan Mr. a Mrs. Griffiths, Malthouse Mews. Wele restr y buddugwyr :—Adroddiad i blant dan 8 oed: 1, Maggie Edwards; 2, Willie Morgan 3, Hannah Davies. Unawd ar y berdoneg i rai dan 12 oed: 1, Megan Foster; 2, Bessie Morris. Ebysgrifiadau dan 12 oed 1, Myfanwy James 2, Megan Foster; 3, W. A. Davies. Ebysgrifiadau dan 15 oed 1, Myfanwy Hughes 2, Edith Bebb 3, Llew Williams. Unawd i blant dan 8 oed 1, Willie Morgan; 2, Hannah Edwards; 3, Lizzie Jenkins. Adroddiad i rai dan 16 oed: 1, Myfanwy Hughes; 2, Edith Bebb 3, Llew. Williams. Arholiad- au ar lafar Rhanwyd y gwobrwyon rhwng yr ymgeiswyr. Unawd dan 16 oed 1, Maggie Morgan; 2, Florence Harris; 3, Elsie Bebb. Adroddiad i rai dan 12 oed 1, Megan Foster; 2, Gwilym Lloyd 3, Eunice Bebb. Llawysgrifau dan 10 oed 1, Megan Foster; 2, W. P. Davies; 3, Willie Morgan. Llawysgrifau dan 14 oed 1, Dilys Jones; 2, Eunice Bebb. Unawd ar y berdoneg dan 16 oed: Edith Bebb. Cor Plant Cor Shirland Road (arweinyddes, Miss M. Jones). Paintio Lily 1, Edith H. Jones 2, Myfanwy Hughes. Unawd soprano: Miss Gwladys Jones. Araith 4 munyd, "Y Cof," Mr. J. Esmond Evans. Arholiadau ysgrifenedig dan 16: 1, Edith Bebb; 2, Myfanwy Hughes. Dan 21: 1, Johnny Davies 2, E. A. Hughes 3, Dilys Hughes. Dros 21 0. M. Jones. Unawd bass Mr. Stanley Davies, King's Cross. Illuminated Text 1, Edith Bebb 2, Myfanwy Hughes. Cushion Cover Miss Cassie Davies. Parti o 16: Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd," Parti King's Cross (arweinydd, Mr. Stanley Davies. Unawd tenor, Mr. John Humphreys. Cyfieithiadau dan 21, Mr. James Davies. I bob oed 1, Miss Dilys Hughes; 2, Mr. John Jones. Am y crynodeb goreu o bregeth 1, E. J. Davies 2, Mr. Anthony 3. T. G. Roberts. Traethawd dan 21, James Davies. I bob oed, John Williams. Traeth- awd i ferched 1, Miss Lizzie Morgan 2, Miss Eunice Bebb. YR ACADEMY.—Yn arddangosfa flynyddol y Royal Academy eleni, .mae darlun rhagorol o Syr John Williams, Barwnig, wedi sicrhau lie anrhydeddus ar y muriau. Paentiwyd y llun gan yr arlunydd, Mr. Christopher Williams, yr hwn sydd wedi llwyddo ar amryw droion i gael lleoedd amlwg i'w weithiau. Mae Mr. Goscombe John yn cael ei gynrychioli yn yr un lie gydag amryw weithiau, un o honynt yn gerflun campus o Syr Henry Owen, Poyston. Y CYMMRODORION.—Rhoddwyd papur tra galluog ger bron Cymdeithas y Cymmro- dorion, nos Fercher diweddaf, gan y Parch. J. Fisher, rheithor Cefn, ger Ruabon. Y mater yr ymdrinid ganddo oedd yr arfer o gyf- lwyno hen eglwysi i ryw nawdd-sant ar- bennig. Mae hwn yn hen bwnc, ac mae llawer iawn o astudio ac ysgrifennu wedi bod arno, ond teimlai Mr. Fisher fod cryn wahaniaeth yn y cyflwyniad yn ol yr arfer Gymreig i'r hyn ydoedd yn gyffredin gan y Saeson. Yr oedd mwyafrif yr eglwysi Cymreig wedi ei cyflwyno i'r personau a'u codasant. Yn yr hen amser yr oedd gwir ystyr i'r cyflwyniad, ond yn ddiweddar yr oedd wedi myned yn ol y dull Seisnig i fod yn fater o ffurf yn unig. Yr oedd yr hen arfer yna o gyflwyno eglwys i goffa'r hwn a'i hadeiladodd wedi bod yn foddion i gadw mwy o seintiau mewn bri nag un cyn- llun arall. Credai fod eglwysi a gyflwynid i Ddewi a Teilo wedi eu sefydlu gan y gwyr da hyn. I'r sant blaenaf 'roedd dros ddeu- gain o eglwysi wedi eu cyflwyno yn esgob- aeth Ty Ddewi yn unig, a thua dwsin yn rhagor o'r tu allan i gylch yr esgobaeth honno. Llywyddid y cynulliad gan Esgob Llanelwy. YMGOMFA.—Nos Wener diweddaf gwa- hoddwyd llu mawr o Gymry blaenllaw'r ddinas i ymgomwest gan Mrs. W. S. Caine, a'i mherch, Mrs. Herbert Lewis. Yr oeddent wedi sicrhau'r Prince's Galleries, Piccadilly, fel man addas i gynnal y cynulliad, a daeth rhai cannoedd o wyr a gwragedd yno i fwynhau o'r moethau ac i gael ymgom a'u gilydd. Derbyniwyd y gwahoddedigion gan Mrs. Caine, Mrs. Herbert Lewis, a Mr. Herbert Lewis, A.S., ac ymysg y Cymry'n bresennol gwelsom yr aelodau Seneddol Mri. D. Lloyd-George, William Jones, Ellis J. Griffith, Herbert Roberts, Vaughan Davies, Syr Alfred Thomas, W. Llewelyn Williams, Timothy Davies, Parch. J. E. Davies, M.A., P. H. Griffiths, Mr. R. 0. Davies, Dr. Pritchard, Mr. Vincent Evans, a Mr. J. T. Lewis. Yr oedd yn hanner nos cyn i'r cynulliad ddechreu ymwahanu a phawb wedi cael noson foddhaus a dyddorol.