Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
TREF Gymraeg Fu'r Bala un amser, ond yn awr y mae wedi troi at y Saesneg i gof- nodi hanes a chofnodion y cyngor lleol. Feallai nad yw'r Gymraeg yn ddigon nerthol i ddisgrifio budreddi yr ardal. DEALLWN fod Mr. 0. M. Edwards yn bwr- iadu rhoddi heibio ei gysylltiadau a'r wasg ar ei ddyfodiad i Lundain. Mae galwadau i swydd newydd yn gymaint fel nas gall hebgor amser i ysgrifennu fel cynt. Colled i'n Llenyddiaeth fydd hynny. MAE llyfrgell y diweddar Charles Ashton wedi ei chwalu a'r wythnos hon daeth rhestr i law oddiwrth Mr. Goronwy Williams, Rhuthyn, yn cynnwys manylion am y llyfrau sydd gaddo ef ar werth. Efe brynodd y rhan fwyaf o'r casgliad, ac ymhlith y cyf- rolau sydd ganddo ar werth mae amryw wedi ei dynodi a'r arwyddair Presented to Oharles Ashton," &c.
MAI
MAI Ydyw enw pumed mis y flwyddyn. Ystyr y gair yw maes neu wastadedd. Ceir ef mewn gwahanol frawddegau ac enwau lleoedd megis, Mwyalch, morwyn falch ar fai." u Gwelais lyw Cattraeth tra meiau." Meirch Mai." Gware'r Fai." Y Fai Garchar." Cilfai, Penfai, Mai Sili, Bryn- mai, Talfai, &c. Gwelir y gair mewn gwa- hanol ffurfiau mewn amryw ieithoedd. Gaelaeg Maigh Francaeg ac Ellmynaeg Mai; Idalaeg Maggio Armeniaeg Alai; Lladin Maius neu Majus. Tybir mai oddiwrth y dduwies Alaia neu Maja mam Mercury neu Mercher y deilliodd y Rhufein- iaid yr enw, ond y mae hynny yn gamsyniol o herwydd yr oedd yr enw mewn arferiad ganddynt yn hir cyn iddynt wybod dim am Mercury na Maius ei fam. Perthyna yr enw i hen wreiddair mag neu y Sanscrit malt, i dyfu. Tyfiant a chynydd yw ystyr yr enw, ac y mae yn gywir ddisgrifiadol o'r tymor. Tyfiant a chynnydd sydd amlwg o'n ham- gylch ym Mai. Sivann, sef mis gwneud priddfeini y gelwid Mai gan yr Assyriaid a Sivan gan yr Hebreaid. Yr Accadiaid duon, boblogasant Ohaldea gan adeiladu ynddi drefi, dyfeisio ysgrifeniadaeth, a sylfaenu addysg a di- wylliant fenthyciwyd wedi hyny gan y Semiaid a'u dilynasant, a alwent Mai yn "Fis Priddfeini" a "Mis Gefeilliaid." Gefeilliaid ydyw ei nod yn arwydd yr Haul hyd yn awr. Mor araf y diflana syniadau crefyddol y cenhedloedd boreuol o'n llen- yddiaeth Caria crefydd ryw agwedd ar addoliad Jehofa fel Arglwydd Sabaoth yn ei harferion a'i llenyddiaeth drwy yr oesau. Nid ydyw i'w gondemnio chwaith tra fydd y meddwl addolgar yn myned heibio i'r huan a'r aneirif Sabaoth nefol at yr Hu personol sydd yn oil a thrwy oil yn oes oesoedd. BELTEIN ydoedd enw gwyl y llwythau Celtaidd henafol ar Calanmai. Latha Bealltuinn yw enw Calanmai yn Ucheldiroedd yr Alban heddyw, a pharheir yno olion yr hen wyl Geltaidd o flwyddyn i flwyddyn. Beal neu Beil oedd Hauldduw neu dduw-goleuni y Celtiaid, a tin neu teine oedd eu gair am dan. Beltein felly yw Tan Beal, yr hwn oedd ran o addoliad amldduwiaeth y cenhedloedd boreuol. Cyneuid ef Calanmai ac hefyd Calangauaf. Perthyna Sulgwyn i'r wyl henafol honno megis y gwna Gwyl y Pasg i ZD wyl amaethyddol foreuol. Floralia, sef gwyl flodau, oedd nodwedd gwyl Calanmai gan y Rhufeiniaid. Dech- reuai Ebrill 28, ond Calanmai oedd prif ddiwrnod yr wyl. Torrid blodau y drain gyda thoriad y wawr, a cherid hwy adref gyda bloedd udgyrn hirllaes a swn tabwrdd a bloeddio. Gwisgid y tai a blodau y drain, a galwyd y blodau hyny yn May mewn can- lyniad. Aethai aelodau Corphoraeth Dinas Llundain allan i swydd Caint i dori y May bob Calanmai yn amser Henri VIII. Aethai y Brenin a Catharine o Aragon allan o'u palas yn Greenwich i'w cyfarfod yn dychwelyd yn llwythog o'r blodau, a mawr oedd y miri ar Shooter's Hill. Codid maypole uchel yn Llundain a'r trefi, y rhai a wisgid a blodau, a dawnsid o'u cylch mewn gorfoledd. Rhoddodd y Puitaniaid y rhialtwch hwnnw i lawr ac er iddo gael ei ailgodi yn amser yr Adferiad nid oes yn aros heddyw ond ychydig addurniadau ar geffylau ynghyd ag ambell i Jack-in-the-Green ar ein heolydd. Olion addoliad pobloedd henafol i dduwies tyfiant a chynydd a elwid Mai yw yr oll. Cenid gynt:- Mignty Flora, goddess of fresh flow'rs, Which clothed hath the soil in lusty green, Made buds to spring with her sweet show'rs, By influence of the sun sheene, To do pleasance of intent full cleane Unto the states which now sit here Hath ver sent down her own daughter dear." COLOFN-MAI, sef y maypole, a osodai allan golofn cyfiawn- der a godid gan gynulleidfa y bobl yn y maes neu y Mai. Wrth y golofn honno, os buasai achos, y diswyddid neu y cosbid eu llywiawdwyr, eu barwniaid, eu tywysogion, eu brenhinoedd, a'u gwledig. Olion o'r golofn honno yw teyrnwialen y brenin neu y barnwr yn y llys heddyw. Caria personau llywodraeth mace awdurdod a truncheon i lywodraethu y maes yn ol arferiad y llwythau boreuol ar Calanmai a Calangauaf. Deillia yr enw maer, mayor oddiwrth y Mai yn ei ystyr o allu cyfreithlon. Y garlant osodid ar ben colofn cyfiawnder (maypole) wedi ei gwneud o'r Mai i alw y bobloedd i lys cyf- iawnder yw dechreuad y goron osodir ar bennau brenhinoedd y byd. Y bwau yn y goron, o'r cylch, a gyfarfyddant yn y coryn, ydynt efelychiad o'r garlantau osodid gan yr hen genhedloedd ar ben Colofn cyfiawnder ym Mai. Cynhelid y gwyliau yn ddechreuol ar y terfynau i benderfynu cwerylon cyd- rhwng llwythau ac erys yr wyl byth ar derfynau gauaf a haf yn Calanmai a Chalan- gauaf. Boed i ddyfodiad y Mai adgofio pawb o'r Celtiaid am safon uniondeb sydd i lywodraethu ein hymarweddiadau gan arwain ein meddyliau heibio i brydferthion blodau natur at harddwch sancteiddrwydd na wywa byth. Daw Mai a hoenusrwydd a llawenydd lond ei gerbyd i'n gwlad. Gwisga ein gwyrch- oedd a'n perllannau a gwynder nef. Cana y Gog ei ddau nodyn swynol ar lethrau glyn- noedd ein gwlad. Sia yr awelon tyner ar dannau y coed. Murmura y nentydd wrth lifo dros eu graian man. Cusana pelydrau yr haul ruddiau ieuaingc blagur, dail, a blodau, nes y gwridant ar ffrwythau y maes. Mae anian dlos ar ysgafn droed. t Fel geneth ieuanc ddeunaw oed, Mor llon a nwyfus ag erioed, Yn dawnsio ar y dolydd Mae'r gornant fach ym murmur can, Wrth lifo dros y graian man, A chor y wig a'i fron yn dan, Yn pyncio ar y glennydd."
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD.—Nos Iau nesaf cynhelir cyfarfod cystadleuol ar raddfa eang yng nghapel Jewin. Mae rhestr hirfaith o des- tynau wedi eu cyhoeddi, ac argoelion y ceir cystadlu caled ar y mwyafrif o'r darnau. DONIAU'R PULPUD. Tymor y cyrddau mawr yw hwn. Yn ystod y Sul, yfory, cyn- helir cyfarfodydd arbennig yn Dewi Sant, Paddington, pryd y pregethir gan Ficer Abererch, ac hefyd yn Radnor Street, Chelsea, pryd y gwasanaethir gan y Parchn. Ben Davies, Panteg; W. J. Nicholson, Porthmadog; a T. Stephens, B.A., Camber- well. CURO'R CEWRI. Cadwyd anrhydedd Cymry Llundain yng Nghaerphilly, nos Iau diweddaf gan y foneddiges ieuanc dalentog, Miss Jennie Davies, Wandsworth, merch i Mr. Samuel Davies (gynt o Lordship Lane, Dulwich). Cynhelid yn y lie uchod, ynglyn a Chapel Mynydd Carmel, gyngherdd mawreddog a chystadleuaethau, ym mha rai y cynygid gwobrwyon digon mawr i ddenu ymgeiswyr o bob rhan o Ddeheudir Cymru. Yn y gystadleuaeth i adroddwyr daeth cynifer a 58 i'r rhagbrawf. Pump ddethol- wyd i ymddangos ar lwyfan y cyngherdd, ac o'r rhai hyn dyfarnwyd Miss Jennie Davies yn oreu yng nghanol cymeradwyaeth ucheL Y wobr ydoedd Cwpan Arian hardd a Gini. Da iawn, Miss Davies. RAMBLERS KINGS CROSS.—Dydd Iau di- weddaf bu nifer dda o aelodau yr uchod ar
A BYD Y GAN.
MR. IVOR FOSTER.-Rhai dyddiau yn ol, Icyfeiriai y Daily Telegraph at y Cantor Cym- reig fel the grand Baritone." Cyfeirio yr ydoedd at ei ymddangosiad mewn Musical ,Comedy newydd yn chwareudy y Shaftesbury-. Beth ydyw y rheswm, tybed, fod mor lleied o gantorion Cymreig yn dod i sylw ym myd yr Opera ? Nis gellir dadleu prinder cyfleusterau i ymarfer gyda'r math hwn o gerddoriaeth, canys y mae gan y prif sefydliadau Athrofaol yn ein dinas eu dos- barthiadau i'r Efrydwyr. Eto ni wyddom am un Cymro na Chymraes ydynt wedi hynodi eu hunain yn yr adran bwysig hon o'r maes cerddorol, ag eithrio Ben a Ffrangcon Davies. Dichon fod efrydwyr mewn gormod brys i ddod ger bron y cyhoedd. Y mae canu caled yn dda odiaeth, yn waith gorchestol ond teimlwn yn fwy balch o'n datganwyr pe ceisient ragori ym myd yr Opera. Y mae awydd at ganu yng ngwaed y Cymro y mae y gwres a'r tanbeidrwydd teimlad, sydd yn hanfodol i gantor ei feddu er llwyddo mewn grand opera, ynddo yn naturiol o ran ei dymeredd (temperament) Celtaidd. Beth ynte sydd yn ei gadw on ol ? A'i diffyg gallu naturiol? Ni chredwn hyn, felly gorfodir ni i ddod i'r casgliad fod y diffyg mewn darpariaeth — fel yr awgrymwyd eisoes. Y CHALLENGE SOLO.- Y mae hwn yn y ffasiwn o hyd, a gresyn ydyw hynny, canys ni wyddom am ddim llai boddhaol na'r math hwn o gystadlu. Y mae yn anfoddhaol i'r cystadleuwyr a'r beirniaid-ac i'r gwran- dawyr yn fynych. Yn y Rhyl, Llun y Pasg, nid oedd amser i chwynnu," a daeth naw parti ymlaen i gynnyg ar y "Challenge Duett (tyfiant o'r Challenge Solo). Yr, oedd pob Dwyawd yn wahanol! Onid yw yn .amser alltudio y ddau fath hyno Gerddor- iaeth Gystadleuol? Yn enw pob tegwch, ydyw Encore.-Dyma eto beth anymunol, ond bydd fyw yn hir-mor hir ag y pery chwaeth a diwylliant cerddorol i amrywio. Onid oes mwy o bleser i'w gael mewn un datganiad da o ddarn nag o ddau, yn ddilynol ? I ni y mae felly. Pe meddylid am hyn ychydig mwy a defnyddio synwyr cyffredin byddai llai o floeddio encore." YMODD I GANU.—Ar ol profiad o 60ain mlynedd fel cantor, dyma farn Charles Santley am un o'r prif bethau sydd gan yr Athraw i'w ddysgu i'w efrydwyr :—" To direct the studies necessary to obtain entire command of the voice in slow or rapid passages-that is, in sustaining each sound equally during its full length, either soft or loud. This is the foundation of singing."