Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
THE GRE1T WESTERN ilDJIETiOPOLITM DAIRIES, THE LARGEST WHOLESALE MILK CONTRACTORS IN LONDON, a Guarantee a supply-of Pure Milk to Dairymen. For Terms and Particulars Apply- 9, HARROW ROAD, PADDINGTON, LONDON, 229 w.
EISTEDDFOD DULWICH.
EISTEDDFOD DULWICH. BEIRNIADAETHAU Y TRAETHODAU. Y Prif Draethawd—" Y Moddion Effeithiolaf i gadw Cymry ieuainc y Brifddinas yn ffyddlon i'w Gwlad, eu Hiaith, a'u Crefydd." Testyn tra amserol, a chafwyd cystadleuaeth gym- hariaethol dda arno, er hwyrach na ddihysbyddwyd y pwnc. Er fod yr ymgeiswyr yn gwahaniaethu o ran teilyngdod, eto nid oes yr un gwael a diamcan ynddynt, y goreuon yn deilwng o unrhyw Eisteddfod leol, a'r oil yn deilwng o ganmoliaeth. Derbyniwyd chwech o gyfansoddiadau— ABNER.—Gwaith anobeithiol fyr i gipio y wobr sydd ganddo ef y tro hwn, er hynny ceir rhai awgrymiadau teilwng o sylw, ynghyd a theimladau DEITWS.—Ymgais dda mewn traethawd byr, yn cynnwys syniadau defnyddiol, ond nid ydym yn hoffi ei ysbryd pigog, a'i frawddegau llym, er mai at blant Dic Sion Ddafydd y defnyddiodd efe y rhai hynny. CADWALADR.-Traethawd yn y mesur byr eto, yr awdwr mewn cydymdeimlad a'i destyn, yn brofiadol debygem o weithrediadau yr eglwysi yn Llundain, a rhydd gefnogaeth galonogol i'r ymdrechion sydd ar waith yn bresennol, ond o brin y gellir dywedyd ei fod wedi torri unrhyw dir newydd. IOAN GWYNEDD.—Ceir traethawd ganddo ef yn y mesur hir; er fod y gwaith dipyn yn wasgarog ac amherthnasol weithiau, eto dengys fod gan yr awdwr hwn feddwl. Ymgeisied i goethi ei iaith, i frawddegu yn well, dwyn ei bethau i fwy o drefn, a gweithio bob amser wrth gynllun. Ap GWLADGAR.-Gwell llenor na'r rhai fu dan sylw, fel y gwna ei draethawd ef ddarllen yn rhwydd a phleserus, ond ryw fodd, nid aeth y tro hwn i graidd ei destyn. GIRALDUS.—Lienor cymharol dda yw hwn, ac wedi myned i fewn i'w destyn. Noda wyth o elfenau fel y "Moddion Effeithiolaf," a hynny o safbwynt gweithrediadau yr eglwysi, ac ni wna sylw o gwbl am gartref eang a chanolog i letya; felly y mae ganddo ef ffydd gref yn y capel o hyd. Nid yw yr oil o'r elfenau a noda yn newydd o ran siarad, ond yn y ffurf o honynt, a thrwy eu bod yn amhrofedig nis gallwn ddyweyd eu bod y goreuon a'i peidio, ond y maent yn ddigon da i'w harfer hyd nes ceir eu gwell. Hefyd, nid yn unig y mae Giraldus wedi llwyddo i fyned at elfenau hanfodol ei destyn, ond y mae'r gwaith hwn yn nodweddiadol gan gynllun trefn a cbyfartaledd. Felly nid oes gennyf yr amheuaeth ieiaf had Giraldus yw y goreu, ac yn Hawn deilyngu y wobr. [Y goreu oedd y Parch. Llewelyn Bowyer, East Ham.] TRI RHESWM—PAHAM YR WYF YN DDIRWESTWR. Derbyniwyd 15 o gyfansoddiadau ar y testyn hwn, y rhai a renir i dri dosbarth- Dos. III.—Yn y dosbarth hwn y mae Teify, Gwaharddwr, L. H Emlynian o'r De, Cymreigwr, a Bonar Law. Nid yw y dosbarth yma wedi cael golwg eang ddofn ar y testyn, fel ag i allu ffurfio tri rheswm cryf a chadarn dros eu bod yn Ddirwestwyr, ond y mae rhai o honynt yn hynod wreiddiol. Dos. II.—Yma y cawn Samson Bach, Iago, Dir- westwr o'i Febyd, Sir Fon, a Dienw. Llwyddodd y dosbarth hwn i gael dau reswm cryf a boddhaol, ond gwan ac eiddil yn yr un arall. Dos. I.—Yn y dosbarth hwn drachefn y mae Nazaread, Carwr Sobrwydd, Cryno, a Dirwestwr. Credaf fod y pedwar hyn wedi llwyddo i gael gafael ar y tri pheth cryfaf ag oedd yn bosibl fel rhesymau dros eu bod yn Llwyrymwrthodwyr. (Yr wyf yn Ddirwestwr.) 1. Oherwydd Drygau ofnadwy y diodydd meddwol. 2. Er mwyn Dylanwad Personol ar Gymdeithas. 3. Oherwydd Gorchymyn Duw yn ei Air. Gellir edrych ar y tri rheswm hyn, fel tri phen yn cynnwys bron yr oil a ellir ddywedyd ar y pwnc o Ddirwest. Mae yn amlwg fod Nazaread a CarwrSobrwydd yn ddiffygiol o'r arddull oreu i osod eu meddyliau ar bapur am hynny, mae y dorch i'w thynu rhwng Cryno a Dirwestwr. Cawn fod eiddo Dirwestwr mewn arddull a threfn lied wych, ac y mae Cryno bron cystal ag yntau, ond rhyw fodd, drwy eiriad Ilac, dinystriodd Cryno ryw ychydig ar anibyniaeth ei drydydd reswm. Rhaid, gan hynny, i'r wobr fyned i Dirwestwr, a rhodder ail wobr i Cryno. RHESTR 0'R150 LLYFR GOREU YN YR IAITH GYMRAEG, YNGHYD A NODIADAU BYRION AR Y LLYFRAU A'U HAWDWYR. Dau draethawd a ddaeth i law, yn dwyn y ffug- enwau loan o Leyn a Llenbryf. Gwnaeth y ddau ymdrech egniol, ond nis gellir dywedyd iddynt fod yn llwyddianus iawn y tro hwn yn newisiad y llyfrau goreu. Gwir fod y rhai a etholwyd ganddynt yn llyfrau da, "ond nid da lie bo gwell." Mae amryw o ryw fath o lyfrau wedi eu rhoddi i fewn gan y naill a'r llall, ar draul esgeuluso eu gwell. Rhwydd enwi nifer dda o brif lyfrau yn yr iaith Gymraeg a adawyd allan gan y ddau. Pa le y mae'r Gwyddoniadur-er engraifft-prif lyfr yr iaith. Yr wyf yn hoffi cynllun loan, drwy ddosbarthu y llyfrau i wahanol ganghenau, ond trwy nad yw ete yn feistr ar y gwaith, gwna hynny ddinoethi ei wendid, gan ei fod wedi gadael allan y prif lyfrau yn rhai o'r dosbarthiadau hynny ac hefyd nid yw pob llyfr yn ei ddosbarth ei hun. Beth bynag, gwnaeth ddetholiad da o'r beirdd. Nid yw Llenbryf wedi gwneud dosbarthiad o gwbl, ac 'yn hyn y mae ei wendid, drwy orlwytho ei restr a llyfrau barddonol. Gallem dybied na wnaeth ddethol- iad o feirdd Cymreig y ganrif ddiweddaf o gwbl, ond eu cymeryd fel y deuai i gyffyrddiad a hwy; eto bu yn ffodus ddigon yn newisiad ein llyfrau henafol, tra yr esgeulusodd yn druenus lyfrau mwy diweddar. Mae y ddau yn lied gyfartal yn netholiad y rhestr lyfrau, ond mewn perthynas a'r nodiadau ar lyfrau a'u hawdwyr yr ydym yn cael fod Llenbryf yn tra rhagori. Am hynny rhodder y wobr i Llenbryf. LORWERTH CEITHO.
Advertising
H. WILLINGS & CO., Dairy Business Agents and Valuers, 125, FLEET STREET, E.e. TELEPHONE: 150 HOLBORN. Milk Businesses For Sale and Wanted: Brixton—23 barns daily at 4d. on 2 prams; nice corner; premises at low rent; fair shop trade price .£600. West End-16 barns daily at 4d. on 2 prams good shop trade; good premises photo at office; price 9400. Nefr in N.E.-12 barns daily at 4d. on one pram shop £18 to t20 weekly rent very low on lease; price £360; close offer. Sub. S.E.-21 barns daily at 4d. on 2 prams; shop 210 weekly; convenient premises at 250; price 2550; close offer. Sub. G. E. Ely. —20 barns at 4d. on 2 rounds 30 acres; good pasture house, sheds for 60 cows, stabling, &c.; rent nearly all let; price to quick buyer; £275; bargain. North, near in-41 barns daily at 4d. on 4 rounds; large shop trade; model premises; lease; good milk contract; price 2900; part can remain; bargain. Market Spot, N.—Sound trade; 226 weekly; good premises; all cash trade; any trial price £ 200 offer genuine. Selection. Oxford St—25 barns 4d.; shop 218 2 prams 2700 S.W.-36 barns 4d.; shop 214; prams Riloo West—32 barns 4d.; shop 225; 2 prams £ 1000 Ðrixton-16 barns 4d.; shop 216; 2 prams iC400 KeniBiington-10 barns 4d.; shop 29; pram £180 S.F.30 barns 4d.; good shop; 2 rounds 2700 Ealing-24 barns 4d.; good shop prams offers N.W.-lo barns 4d.; shop 27; pram 2250 Hacknej—Hi barns 4d.; shop 29; pram 2230 Putney-8 barns 4d.; shop £17; pram 2190 Indoor Dairies all parts- Full details of Willings D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET. Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. T. R. THOMAS & CO., Dairy agents and Valuers, 143. STRAIN D, W.C. MILK: W.-Main Road; 40 barns daily 4d.; pram rounds £15 weekly indoors; fine shop with convenient house eiooo MILK: S-W. —23 barns daily 4d. on 2 prams; Butter, Eggs, &c.; nice corner premises rent £ 38 part let; lease 9600 MILK: N.-Old estd.; 9 barns daily 4d.; P,17 weekly indoors; pram; splendid premises long lease; good position 2250 MILK: Putney-lb barns daily 4d.; Dairy Produce 212 weekly; pretty shop 2350 Quotations from Register. S.W.-60 gls. dy. 4d.; 2 prams 2800 S.E.-44 gls. dy.; shop 225; 2 prams 2550 Tooting—36 gls. 4d.; shop 212; rent 245 9300 Hackney-16 gls. 4d.; shop 215; rent 236 j6225 Kennington—Indoors, taking zC40 wk. 9195 Surrey Sub. 20 gls. 4d.; rent £ 32; praln £170 City-8 gls. 4d.; shop £18; trial 2150 S:E.-Indoors, takings 930 wk.; genuine.. 2150 TELEPHONE 2078 GERRARD. WILLIAM DAVIES, Dairy & Life Insurance agent, 160, HIGH HOLBORN. Milk—160 gallons daily; shop £ 20; good £ 1075 W.-60 gls. 4d.; shop 920; main road P,700 S.E.-40 gis. all 4d; spop 250; splendid 2550 N.—42 gls 4d.; shop £ 25 2 prams zC470 W.—34 gls. 4d.; shop 912; main road 2450 N.—37 gls. all 4d.; shop 216; low rent 2440 N.—40 gls. all 4d.; shop C 15 2 cows good j6400 S.E.—32 gls. 4d.; shop £ 23; main road £ 375 S.E.-46 gls. 4d. and 3d.; shop 215; 7 cows, &c. £ 375 N.—24 gls. all 4d.; shop £ 20; main road jE360 N.—20 gls. 4d.; shop 212; 4 cows, &c. 2250 N.—24 gls. 4d. and 3d.; shop £ 10 good spec. 2120 N.—46 gls. 4d.; shoptl6; 15 cows offers. Indoors, main road takings 250; splendid £ 280 Highbury-Rent all let; taking £15 £110 Tottenham Court Rd.—Takings 212 all at £ 60 King's Cross—Takings 212 all at; good 960 City-Closed Sundays takings 212 255 Sellers please send your businesses to DAVIES for QUICK SALE.—Buyers come to DAVIES and be suited instantly.
" Y GENINEN " AM EBRILL.
Y GENINEN AM EBRILL. Cynhwysa—Y Parch. R. J. Campbell a'r Ddiwin- yddiaeth Newydd," gan y Parch. D. Adams, B.A. (Hawen); Sampl o Ymddiddanion, gan y Parch. William Hobley; Addysg Grefyddol-" Catecism" yr Hen Fam, a Hyfforddwr" yr Hen Gorph, gan y Parch. Ben Jones; Dadgysylltiad i Gymru: A oes brys? gan Elphin Ceffylau Pren, gan Ddewi Mon; Odlau'r Gwanwyn, gan Eilir Mai, y Parch. J. D. Richards, Mr. E. O. James, B.A., Neifion, Mr. T. Williams, Eifion Wyn, Mr. David Wynne, Teifi, ac Eilian; Llwfriaid Cymdeithas yng Nghymru, gan Mr, J. Rhys Thomas; Y Llaethferch: Can Arobyn, gan 'Ffryfdir; Yr Awen Gymreig a'r Beibl, gan Fafonwy; Nod Angen Cymdeithas Lenyddol, gan Alavon Barddoniaeth Beth yw ? gan Wili; Dylan- wad yr Aifft, gan y Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Adduned Bardd-i wneyd beth ? gan Anthropos Y Bedyddwyr a Chynghor yr Eglwysi Rhyddion, gan y Parch. W. P. Williams, D.D.; Safonau Dafydd ap Gwilym, gan y Proffeswr Anwyl, M.A.; Dechreu Haf: Awdl, gan Mr. R. W. Parry; Adgofion Henwr, gan Mr. Eleazar Roberts, Y.H.; Y Glowyr, gan W. H. Gohebiaethau-" Ffanni Blodau'r Ffair," Gan R. J. J.; Y Parch. Richard Rees (1709— 1749), gan T. C. U.; Llythyrau Anna Beynon, gan R. J. J. Y Parch. Samuel Jones, M.A., gan S. N. S.; John Bradford, gan T. C. U. Manion Barddonol- Gan y Parch. D. Emrys James, Cenech, Mr. J. E. Jones, Ab Trebor, Ap Meurig, Mr. Simon Jones, Madryn, Gwilym Bedw, Berw, Machreth, Alavon, Ab Hefin, Dwyryd, Dyfrydog, y Parch. Aaron Morgan, Oliver, Mr. W. Thomas, loan Myrddin, Ap Tegla, Cefnydd, y Parch. J. Tegryn Phillips, Isdulyn, Gwilym Ardudwy, Gwilym Meirion, Atha, Tanadog. Ednant, Graienyn, Pedrog, Dewi Gwernol, Llewelyn, Ap Cernyw, Gwilym Deudraeth, Ap Lleyn, Mr. T. Carno Jones, Gwydderig, Mr. R. E. Jones, Gwilym Elian.