Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Am Gymry Llundain.

Marwolaeth Mr. Daniel Jones.,.…

[No title]

TAITH I JAMAICA.

News
Cite
Share

Cariwyd ef oddiyno i Madeira. Dugwyd i Ewrop gan y Crusaders. Cariwyd i'r West Indies yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Yr adeg honno y deallodd Venetian y ffordd i'w buro a'i drin. Tua 1747 daeth y fferyllydd Ellmynaidd Margraff o hyd i'r ffordd i wneud siwgr o ddefnyddiau heblaw y cane. Prydain yw y wlad ddefnyddia fwyaf o siwgr o bob gwlad. Allforir mil- oedd o dunelli o hono o Jamaica a'r West Indies. Nis gwn pa mor fore y dechreuwyd gwneud rum. Gwn i rum gael ei werthu yn Carlisle yn y flwyddyn 1864 oedd yn gant-a-deugain oed, yr hyn a brawf fod rum yn arferedig yn 1724. Dywed hen yfwyr gwirodydd meddwol ei fod yn ardderchog i wella anwyd. Efallai fod rhai yn cael anwyd yn fwriadol yn fynych mewn trefn i gael rum i'w wella. Cyfoeth y lie. Banana sydd wreiddiol yn perthyn i India Ddwyreiniol, ond erbyn heddyw a dyfir mewn gwledydd cynhes dros y byd. Yr un rhywogaeth ydyw a'r Plantain, yr hwn a elwid Miisa Paradisaica. Gelwid y banana yn Musia Sapentium, a thybid mai at y banana y cyfeiriai Theophrastus pan ddywedodd bwyd doethion India." Nid yw y banana mor dda pan wneir ef yn win neu yn fara gan fod gormod o siwgr ynddo i hynny; farinaceous yw yn ei godau naturiol, ac y mae yn ymborth gwerthfawr. Caria llongau Elder Dempster lawer o hono o Jamaica i Gaerodor. Mae y bananas o'r Canary Islands yn well eu bias nag eiddo Jamaica. Brodor o Abyssynia yn wreiddiol yw coffee. Arferid ef yn Abyssinia ac Ethiopia er cyn hanes. Ni wyddai y Groegiaid na'r Rhufeiniaid am dano. Daeth yn adnabyddus tu allan i Abyssinia yn y bymthegfed a'r unfed-ganrif-ar-bymtheg. Leonhard Rauwolf yn 1573 a'i cariodd i Ewrop. Agorwyd y ty coffee cyntaf yn Llundain yn Newman's Court, Cornhill, yn 1573, gan Roegwr o'r enw Pasquet. Allforir llawer iawn o coffee o Jamaica i Brydain yn flyn- yddol, ac y mae yn yfed yn ardderchog os darnerir ef yn briodol. Y prif bethau gerir i Jamaica ydynt flawd gwenith a physgod hallt-beef Yar- mouth. Poblogaeth Kingston yn unig sydd driugain mil; ond y dref sydd heb dy na heol, a'r bobl heb galon i ailadeiladu rhag i ysgydwad eto ddod a chladdu yr ynys oil dan y mor. Tybia y dyn du mai barn Duw am raib y dyn gwyn am aur oedd y ddaear- gryn. Ceir amryw borthladdoedd rhagorol yn yr ynys ond y goreu ydyw Port Royal. Cadben Owain Jones, Amlwch, sydd feistr y llong "Port Royal," ac y mae llawer o Gymry yng ngwasanaeth Elder, Dempster a'i Gwmni. Ceir nifer o Gymry yn King- ston. Edrycha Dr. Williams, o Broncaradog, yn dda wedi bod ar yr ynys lawer o flyn- yddoedd. Ffarweliodd Mr. Lloyd Owen a'r lie gan fyned gyda yr agerlong Port Kingston" i Gaerodor. Cafodd fordaith arw i ddod adref. Pan laniodd cadd amser i anadlu diolch am ei amddiffyn.