Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y BYD CREFYDDOL.

[No title]

TAITH I JAMAICA.

News
Cite
Share

TAITH I JAMAICA. Nos Iau, Ebrill 18, bu Mr. W. Lloyd Owen, Amhurst Park, yn rhoddi hanes ei ymweliad diweddar a Jamaica i Gymdeithas Lenyddol y Boro'. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. D. J. Pritchard, Ebury Street. Daeth cynulliad cryf ynghyd i wrando Mr. Lloyd Owen yn adrodd hanes ei daith. Canwyd yn swynol yn ystod y cyfarfod gan Miss Mary Lloyd Owen a'r Meistriaid Hugh a Harry Watkins. Cyfeiliwyd iddynt yn brydferth gan Miss Sallie Jenkins, a chafwyd cyfarfod difyr ac adeiladol. Y Fordaith. Hwyliodd Mr. Owen, o Gaerodor, ar fwrdd yr agerlong Port Royal, Chwefror 23. Cysgai y dyfnfor yn dawel tra fu y llong yn aredig ei llwybr dros ei wyneb. Oer ydoedd yr hin ar y cyntaf, ond gwresogai fel y nesaent at Jamaica. Daeth gosgordd o forfoch (porpoises o porous mochyn a piscis pysgodyn) i'w hebrwng o lannau Prydain am yn agos i gan milldir i'r mor; yna troisant yn eu holau bob un. Byw ar bysgod eraill a gwreiddiau o'r llaid, megis moch y tir, a wna y morfoch. Rhoddwyd mwynhad mawr i'r mordeith- wyr i wylio y pysg ehedegog yn codi yn heidiau o'r mor. Diango oeddynt rhag cael eu dal gan bysg mwy a'u difetha. Y trechaf treisied, a'r gwanaf gwaedded yw hi yn y mor mawr llydan megis yn y ddaear a'r awyr. Pan yw y dolphin yn gwasgu yn drwm ar ol y Flying Fish eheda o'r dwfr i'r awyr a rhydd ei erlynydd lam uchel ar ei ol. Rhydd yr olygfa hon ddifyrwch mawr i fordeithwyr yn unigedd undonog mord'aith Z7, bell. Ceir rhai o'r ynysoedd yn y West Indies yn codi ond ychydig iawia uwchlaw arwyneb- edd y mor: felly yr ymddangosai y Turk's Islands wrth enau y Windward Passage. Buasai ar breswylwyr gwlad fynyddig megis Arfon a Meirion arswyd i fyw mewn lie mor isel at arwynebedd y mor sydd a'i donnau yn codi megis mynyddoedd ban gan ruthro i'r glanau megis cadfeirch yn nydd y frwydr. Yn yr olwg ar y man ynysoedd isel nad oeddynt ond prin yn codi uwch gwyneb y don diolchai rhai o'r teithwyr am y Wyddfa a Chader Idris. Yn Jamaica. Pedwar o'r gloch prydnawn Iau, Mawrth 7, gwelwyd Jamaica yn y pellder; ac nid bychan oedd y llawennydd ym mysg y teithwyr. Cafwyd un o'r golygfeydd mwyaf arddunol yn hwyr wedi hyny i weled yr huan yn machludo dros ynys Jamaica. Yr awyr oil ydoedd megis tllamiau tan yn goddeithio y cymylau duon. Edrychai yr awyrgylch megis pe buasai mynyddoedd tanllyd yn. rhuddo y nenfwd. Ofnai y teithwyr fod rhyw drychineb ar ol y ddaeargryn wedi digwydd yn yr ynys yn achosi yr olygfa ofnadwy i'r golwg. Daeth y llonglywydd (pilot) i'r bwrdd, a dywedodd fod pob peth yn dda yn yr ynys, a bu tawelwch mawr ym mysg y mordeithwyr. Cyrhaeddwyd porthladd cauedig Port Royal, ac angorwyd y llong. Ond Ow! ol difrod y ddaeargryn welid o gylch ym mhob man Suddasai tai a choedydd y cocoa nuts oeddynt yn ffrynt y dref i'r dwfr fel na welid ond eu pennau allan o'r dwfr Yr unig beth welid o Kingston ydoedd clochdy eglwys wedi goleddu bron i'r llawr. Di- gwyddodd y ddaeargryn dydd Llun, Ionawr 14, am hanner awr wedi tri, a lladdwyd dwy fil o bersonnau yno mewn hanner eiliad Difrod welid ar bob llaw pa gyfeiriad bynnag yr edrychid. Safodd y tai coed yn weddol dan yr ysgytiadau nerthol, ond llwyr chwalwyd pob tai cerryg a phriddfeini i'w seiliau! Sylfaenwyd tref Kingston yn 1693 pan ddinystriwyd Port Royal gan ddaeargryn yn 1692. Ac wele Kingston yn 1907 wedi ei gwneud yn garnedd adfeiliedig Dyddorol iawn yw hanes Jamaica. Dar- ganfyddwyd hi gan Cristopher Columbus ar ei ail fordaith yn 1494. Ond yr oedd dynion yn ei phoblogi yr adeg honno. Pa fodd yr zn aethent yno, ac o ble, ni wyr neb. Mon- goliaid oeddent gan mwyaf, o bosibl wedi cael eu cario yn eu badau o flaen ystormydd, ac felly wedi poblogi llawer o ynysoedd y mor. Xaymacca, sef tir coed a dwfr y gelwid yr ynys gan y cynfrodorion. Yna newid- iwyd hi i Jamaica. Enill yr Ynys. Yn 1505 A.D. meddianwyd hi gan y Spaeniaid, creulondeb y rhai oedd mor fawr nes y difasant y boblogaeth gynfrodorol mewn hanner can mlynedd. Yn 1655 aeth milwyr Prydain yno drwy orchymyn Oliver Cromwell yn cael eu harwain gan y Cad- fridogion Penn a Venables, a rhoddwyd Jamaica drosodd i Brydain drwy gytundeb Madrid yn 1670. Cymerodd gwrthryfel y Maroons le yno yn 1795, y rhai oeddynt gaethion ffoedig. Yn 1831 cymerodd gwrthryfel Negroaidd le. Rhyddhawyd y caethion yno Awst 1, 1834, a chaniatawyd breintiau dinesig a gwleidydddl i'r brodor- ion. Cododd y cyfryw yn 1865 yn erbyit dwyn y coolies yno i weithio, a thrwy hynny ostwng cyflogau y brodorion yn y farchnad. Oad y mae llywodraeth garedig Prydain yno wedi dwyn y bobl i ymostwng i'r awdur- dodau gwladol ac i weithio mewn trefn i ym.gyfoeth.ogi a chael cysur cartref yn yr ZD C5 ynys. Nid yw arwynebedd Jamaica ond chwe mil a phedwar can milldir ysgwar, ychydig yn f wy na swydd Gaerefrog. Cant a hanner o filldiroedd yw o hyd wrth hanner cant o led. Rheda cadwen y Mynyddoedd Gleision drwyddi o'r Gorllewin i'r Dwyrain yn codi tua 7,000 o droedfeddi uwch arwynebedd y mor. Llifa tua deg a thriugain o afonydd o'r mynyddoedd hynny i'r Gogledd a'r De ond gan eu bod mor fyrion nid ydynt nofiadwy i longau i fyned drostynt neppel i'r tir. Yr Afon Dnu sydd nofiadwy i longau bychain i fyned i fynu i'r ynys tua deg milltir a'r- y In hugain, dros yr hon y cerir ym mlaen gryn fasnach yn flynyddol. Ei golygfeydd. Prif drefi yr ynys ydynt Port Royal, Kingston, a Spanish Town. Agorwyd cledr- ZD ffordd i Spanish Town yn 1846, yr hon sydd tua deg milltir o bellder. Agorwyd hefyd ZD G-amlas mewn trefn i ddwfrhau Kingston a'i chymydogaethau yn 1871. Ceir hefyd nifer o welliantau diweddar yn nhrefi yr ynys yn gystal a thrwy y wlad. Ceir hinsawdd ragorol dros yr ynys oil, yr hyn a ddena lawer o bobl i fyw i'r lie. Ond cynnydda y dyn da yn fwy na'r dyn gwyn yn Jamaica, ac y mae eiddigedd mawr yn ffynnu cydrhyngddynt. Nid yw y dyn gwyn yn ymddwyn at y dyn du megis brawd. Arweinia y driniaeth galed y dyn. du i ffieiddio y dyn gwyn ac i ddweyd mai barn Duw am bechod y dyn gwyn oedd y ddaeargryn ddiweddar. Mae llond natur y dyn du o grefyddoldeb. Cana hymnau wrth gerdded a gweithio yn feunyddiol. Ceir llawer o addoldai perthynol i'r eglwysi Esgobyddol, Wesleyaidd, Gynulleidfaol, a'r enwadau ereill yn yr ynys, y rhai a orlenwir bob Sabboth gyda manylder Puritanaidd yn Jamaica. Oni buasai am grefyddolder uchel y bobl buasai ychwaneg o fywydau wedi eu colli drwy orphwylledd yn adeg y ddaeargryn. Cynyrch y wlad ydynt siwgr, rum, coffee, a bananas. Gwyddid am siwgr yn China ac India er yn dra bore. Ni wyddai y Groegiaid a'r Rhufeiniaid nemawr am dano. Mel mewn corsen y gelwid siwgr yn y cane gynt. 'Roedd y calle yn Cyprus yn y ddeuddegfed ganrif, a chyn hynny.