Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y BYD CREFYDDOL.

News
Cite
Share

Y BYD CREFYDDOL. [GAN Y DIWINYDD.] Yr wythnos ddiweddaf cyfeiriasom at y .roesaw rhyfedd y mae'r llyfr wedi dderbyn oddiar ddwylaw cynrychiolwyr crefydd yma .a thraw yn y wlad. Dywedasom hefyd ein bod yn credu fod gormod o lawer o ysbryd y Spanish Inquisi- tion yn y beirniadaethau ar yr awdwr a'i iyfr, ac fod llawer iawn o honynt yn anheil- wng o ysbryd y grefydd geisiant ei ham- ■ddiffyn. Efallai, ynte, yn y man yma y bydd o ryw ychydig ddyddordeb i rai o'n darllenwyr gael gwybod beth yw ein barn ninnau ar Y New Theology." Ein Barn. Dywedwn yn ddiofn yr hyn ydym wedi ddweyd o'r blaen, fod bugail y City Temple fel cynrychiolydd yr ysbryd newydd sydd yn treiddio drwy bob rhan o'r byd crefyddol lieddyw, yn mynd i greu cyfnod newydd yn lianes yr eglwys yn y wlad yma. Hawdd i bawb ddarlleno y llyfr yma teimlo mai gwr o ddifrif sydd yn siarad, mai gwr wedi meddwl yn hir ac yn ddwfn ydyw, ac mai gwr yn meddu ar ddigon o wroldeb i ddilyn y Gwirionedd i ba le bynnag yr arweinia ef, ydyw yr awdwr. Cyfiawn i wr felly ynte ydyw gwrandawiad parchus a christionogol. Myn rhai mai cynllun o self-advertise- ment ydyw cyhoeddiad y Ilyfr,,ond hawdd i wr un-llygad ganfod oferedd a gwagedd cyhuddiad felly. Y mae Mr. Campbell heddyw ar ffon uchaf ysgol Anibyniaeth, o safbwynt y pwl- pu-d beth bynnag, a saif i golli mwy nag a -eniua drwy gyhoeddi y llyfr yma. Teimlwn ein hunain nad mantais i'r llyfr ydyw y rhan helaeth o'n gofod y mae'r ha penny newspaper" wedi roddi iddo, ond yr ydym yn sicrach fyth mai gwr a chen- hadaeth ganddo ydyw'r awdwr dclarIod iddo glywed mewn rhyw gysegr hen gwest- iwn Esaiah Pwy a anfonaf" ac iddo ateb gyda gwroldeb proffwyd Duw, Wele fi, -anfon fi." Teimlwn hefyd fod amcan y llyfr yn fendigedig. Y mae yr awdwr yn dweyd ei fod yn teimlo ers blynyddau bellach fod eisieu rhyw fath o "re-state- ment o wirioneddau Cristionogaeth. Am ryw reswm neu gilydd mae'r Eglwys yn tueddu i golli gafael ar feddyliau coethaf y -dydd, ac mae yna filoedd heblaw Mr. Campbell yn teimlo mai y rheswm ydyw ,esgeulusdod yr Eglwys o gynnydd gwy- bodaeth. Nid y ffurf fynachaidd a'i wirionedd ydyw y ffurf ym mha un y dylid ei gyfleu i'r ugein- fed ganrif. Dod a'r hen gredoau zip-to- date" ydyw amcan cyntaf Mr. Campbell, a rhwydd hynt iddo meddwn ninnau. Dengys y llyfr hefyd fod yr awdwr yn sicr yn ei enaid ei hun mai crefydd y Saer o Nazareth ydyw'r grefydd ag y mae ei hangen ar y byd yma. Nid oes arno ofn i'r byd bwyso a mesur Y Bregeth ar y Mynydd am ei bod yn ddwyfol ac yn dragwyddol. Dyna lie y mae Mr. Campbell flynyddoedd o flaen ei feirniaid. Ofn beirniadaeth, a dychryn pwys a mesur y byd ydyw eu nodwedd hwy, tra ffydd ddi- derfyn yn nghenhadaeth y Groes ydyw nodwedd Mr. Campbell. (I'w Barhau.)

[No title]

TAITH I JAMAICA.