Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

,--------_--------__--__------__----Llanw'r…

News
Cite
Share

Llanw'r Bylchau. Ychydig oedd y dyddordeb a gymerwyd yn y tystion ddaethant ger bron y Ddir- prwyaeth Eglwysig yr wythnos ddiweddaf. Pwnc penaf y cyhoedd oedd pwy a gawsai'r anrhydedd o eistedd yn nghadeiriau gweig- ion y tri gwrthgiliwr. Ni wnaeth y Barnwr Vaughan Williams fawr o sylw o'u habsen- oldeb yn ystod dyddiau'r wythnos, ac aeth y gwaith yn ei flaen mor dawel a rheolaidd a phe bae'r holl Ddirprwywyr yn bresennol. Yr wythnos hon mae'r son, er hynny, fod y bylchau wedi eu llanw, ac fod argoelion y ceir heddwch a chydweithrediad ym mhob eisteddiad o hyn i derfyn y gwaith. Enwir Syr Brynmor Jones a Mr. J. H. Davies fel y Cymry mwyaf addas i fod yn olynwyr i'r ddau sydd wedi ymddiswyddo, a diau y ceir cynrychiolydd teilwng i lanw sedd Dr. Fairbairn hefyd o blith y gweinidogion a eisteddant ar bwyllgor yr Eglwysi Rhydd- ion yn Llundain. Barn y Wlad. Rhaid addef fod ymddygiad y tri gwrth- giliwr wedi creu siom cyffredinol drwy y wlad. Yr oedd yr Ymneillduwyr wedi disgwyl gwell gwaith oddiwrthynt, ac 'roedd eu gweled yn troi'n llwfr ar y fynud olaf yn fath o fradychiad o'r fath waethaf o'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddynt. Dywed rhai personau mai math o gytundeb oedd yr ymneillduad presennol, ac fod Mr. S. T. Evans yn teimlo'n flin ei fod wedi addaw ymddwyn yn ol barn ac esiampl y ddau ereill. Mor bell ag y rhoddwyd rhesymau ac esgusodion dros yr ymddiswyddo y mae'r cyfan yn hynod o blentynaidd, ac yn sicr nis gall y Llywodraeth gael un anhawsder i gael cystal triawd a'r rhai sydd wedi cilio mor waradwyddus o faes yr ymholiad. Y Merched a'r Bleidlais. Er fod cadgyrch ymosodol Merched y bleidlais wedi distewi i raddau, mae'r mudiad yn myned yn ei flaen yn bur lew- yrchus. Mae gwahanol farnau ar ddoeth- ineb y dull a gymerent i ddwyn eu hachos o flaen y cyhoedd ond teimlir yn bur gyffredin fod angen am lawer o ddiwygiadau ynglyn- a phwnc yr etholfraint. Mae'n eglur fod y cynhyrfiadau a gaed, a'r ffaitli fod nifer o ferched wedi dioddef carchariad, yn arwydd o frwdfrydedd nas dylid ei anwybyddu, a sicr genym y gwna'r Llywod- raeth bresennol rywbeth tuag at liniaru rhai o'r anghysonderau ynglyn a'r etholfraint cyn daw eu tymor i ben. Fel y gwyddis, yr oedd un Cymraes—Mrs. Winton Evans-ym mhlith y rhai a garcharwyd y tro diweddaf, ac fe fydd llawer o'n darllenwyr yn llawen wrth ddeall ein bod wedi sicrhau cyfres o ysgrifau gan Mrs. Evans i roddi hanes y mudiad yn ogystal a'i phrofiad o bythefnos mewn carchar dros ryddiad a chyfiawnder.

[No title]