Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.

News
Cite
Share

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol y Methodis- tiaid Calfinaidd Llundain yng Nghapel Jewin Newydd neithiwr (nos Fercher), dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Ar ol dechreu y cyfarfod trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr a gweddi gan y Parch. R. 0. Williams, Holloway, darllenodd yr ysgrif- ennydd (y Parch. F. Knoyle, B.A.), gofnod- ion y cyfarfod misol blaenorol, a chadarn- hawyd hwy. Ymhlith y gohebiaethau yr oedd llythyr yn dwyn perthynas a Chartrel i Ferched leuainc o Gymru, a hysbysodd y llywydd y byddai i Bwyllgor y Cyfarfod Misol ymgynull i ymdrin a'r mater nos Lun, Mai 6ed. Cyflwynwyd adroddiad y cenhadon fu yn Jewin yn arholi'r swyddogion gan Mr. W. Evans, Wilton Square, a chadarnhawyd eu dewisiad a rhoddwyd i'r rhai oedd yn bres- ennol ddeheulaw cymdeithas gan y llywydd. Dewiswyd y Parchn. J. E. Davies, M.A., a P. Hughes Griffiths, ynghyda Mri. W. Evans, Wilton Square, ac 0. Morgan Owen i gynrychioli y C.M. yn y Gymanfa Gyffredin- ol yn Llanelli, Mehefin 11, 12, a'r 13eg, a'r Parch. G. H. Havard, B.A., B.D., a Mr. John Morgan, Holloway, i gynrychioli y C.M. yng Nghymdeithasfa'r De yng Nghrughywel Mai 27, 28, a 29. Traddodwyd y cyngor i'r swyddogion newydd gan Mr. W. Price, Shirland Road. Cafwyd anerchiad fer a hynod bwrpasol gan Mr. Price, a dywedai mai angen mawr ein heglwysi y dyddiau presennol yw cael dynion duwiol yn swyddogion ac arweinwyr yn ein plith, ac am i ni oil gofio nas gallwn wneud yn well na chymeryd yr Arglwydd lesu Grist ei hunan fel ein harweinydd. Caniatawyd cais Eglwys Hammersmith am ragor o flaenoriaid, a phenodwyd y Parch. D. Oliver, Mr. W. Price, Shirland Road, ac Isaac T. Lloyd, Walham Green, i fyned yno Nos Sul, Mai 12fed, ar ran y Cyfarfod Misol i'w cynorthwyo i dderbyn llais yr Eglwys yn yr etholiad. Hysbyswyd y cynhelir cyfarfod croesawu y Parch. J. Thickens yn weinidog Eglwys Willesden Green nos Fercher, Mai 15fed. Penodwyd y llywydd (Parch. P. H. Griffiths), Parch. J. E. Davies, M.A., a'r Parch. G. H. Havard, B.A.,B.D., i fyned yno i gynrychioli y Cyfarfod Misol. Ynglyn ag adroddiad Pwyllgor yr Achos- ion Newyddion penderfynwyd caniatau ceis- iadau Eglwysi Wood Green a Walthamstow am ragor o swyddogion, a phenodwyd nos Sul, Mai 12fed, fel amser i gynrychiolwyr y C.M. fynd at yr Eglwysi i'w cynorthwyo yn y gwaith. Penodwyd y Parch. F. Knoyle, B.A., a Mr. 0. M. Williams i fyned i Wood Green, a'r Parch. R. 0. Williams a Mr. T. J. Anthony i fyned i Walthamstow. Cyflwyn- wyd cais Tottenham am ragor o grant i sylw'r Pwyllgor Arianol, ac anogwyd y cyfeillion yn Ealing i geisio cael lie pwrpasol i adeiladu capel haiarn. Penodwyd Mr. R. V. Thomas, Dr. Philips, Mri. John Jenkins, Wilton Square; T. J. Anthony, Shirland Road; G. Williams Jones, Lewis- ham a James Evans, Clapham Junction, i ymweled a'r Eglwysi i ddwyn i'w sylw y priodoldeb o wneud ymdrech arbennig i chwyddo y casgliad at yr achosion newydd- ion: yr ymweliadau i gymeryd lie nos Sabbothau Mai 12, 19, a'r 26ain. Hefyd hysbysodd ysgrifennydd y Pwyllgor y bydd cylch-lythyr yn cael ei anfon ynglyn a'r casgliad at y Gronfa Fenthyciol sydd i'w wneyd y Sul cyntaf yn Mai. Cadarnhawyd gwaith y Pwyllgor Arianol a Phwyllgor yr Ysgol Sabbothol, ac ynglyn a'r diweddaf pasiwyd penderfyniad yn gofyn i'r Pwyllgor Canolog sy'n dwyn cysylltiad a'r Arholiad Cyfunebol i drefnu i'r cwestiynau gael eu rhoddi yng Nghymraeg a Saesneg. Der- byniwyd adroddiad Pwyllgor Adeiladu ynglyn a chof-golofn y diweddar Barch. James Hughes. Hysbyswyd y bydd bronze medallion o'r gwrthrych yn cael ei roddi ar y gofgolofn newydd yn Bunhill Fields, ac fod yr argraff ar y golofn fel y canlyn :— "Adgof uwch Anghof." Yma Y GORWEDD GWEDDILLION Y PARCH. JAMES HUGHES (IAGO TRICHRUG). Esboniwr Gair Duw. Ganwyd 3ydd Gorphenaf, 1779. Bu farw 2ail Tachwedd, 1844. Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo." Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad llwyraf y C.M. a theulu Dr. John Pugh, a gwnaed sylw o'r golled fawr i'r cyfundeb fu symud- iad o'n plith y gwr fu'n foddion i ddwyn yn ol at Grist gymaint o'n cydwladwyr yng Nghymru oedd wedi myned ar gyfeiliorn. Amlygwyd cydymdeimlad y brodyr hefyd a'r cyfeillion Mri. Owen Williams, Mile End Road, a W. Davies, Shirland Road yn her- wydd gwaeledd perthynasau agos. Cafwyd ychydig sylwadau gan y Parch. J. Pryce Davies, M.A., Caer. Galwodd y Parch. J. E. Davies, M.A., sylw at y Davies Lecture gan y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd ei theitl yw Trem ar yr Efengylau." Hefyd gwnaed sylw o'r dysteb i'r Parch. John Evans, Abermeurig, a phen- derfynwyd anfon at yr Eglwysi i ofyn iddynt gymeryd y mater i fyny. Rhoddodd Mr. John Burrell rybudd y byddai'n gwneyd cynygiad yn y C.M. nesaf ynglyn a'r ohebiaeth sydd wedi cymeryd lie yn y newyddiaduron yn ystod yr wythnosau diweddar ynglyn a'r cwestiwn o sefydlu Achosion Seisnig perthynol i'r Cyfundeb yn Llundain. Diweddwyd gan y Parch. J. Pryce Davies, M.A.

Gwenau'r Gwanwyn.

"Y GENINEN" AM EBRILL.

-------------Gohebiaethau.

Advertising

Y DYFODOL.