Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

Advertising

_.._--Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

a Miss Sally Jenkins. Cyflawnwyd gwaith ysgrifennyddes gan Miss Daisy John, a chafwyd un o'r eisteddfodau goreu a gafwyd erioed yn y lie. Daeth gallu ac ymdrech orchestol i'r golwg, ac yr oedd ol llafur ar y cwbl. Y buddugwyr oeddent y canlynol:— Unawd ar y berdoneg, Miss Ethel Lewis, Kennington Lane. Adroddiad 1, Mr. Rhys Jones, New Kent Road; 2, Miss Georgina Dodson, New Kent Road. Unawd i blant: 1, Mr. Rhys Jones, New Kent Road 2, Miss Minnie Dodson, New Kent Road 3, Miss Lizzie Jones, Tower Street. Unawd i ferched 1, Miss Marie Evans, Highgate 2, Miss Maggie Jones, Fenchurch Street. Barddoniaeth, Yr Enfys," Mr. D. Tyssilian Jones, St. Peter Street. Unawd alaw, O'r niwl i'r nef," 1, Miss Jennie Jones 2, Miss Marie Evans. Unawd adalaw, 0 rest in the Lord," Miss Jennie Jones. Traethawd ar Y wraig o Samaria," Miss Myfanwy Wood, 70, Heron Road, a Miss Jennie Evans, New North Street, yn gydfuddugol. Unawd, cyfalaw, Y Bugail," Mr. Harry Watkins, Mostyn Road. Traethawd ar Noah," Mr. Herbert Jones, Kennington Park. Unawd Isalaw, Y Bachgen ffarweliodd a'i wlad," Mr. Hugh Watkins, Mostyn Road. Gweu menyg i wrryw, Miss Sarah Mitchell, Mar- sham Road, Westminister. Deuawd, The Lord is my Shepherd," Miss Gwladys Wood a Miss Myfanwy Wood, Heron Road. Cyfeithu o'r Seisnaeg i'r Gymraeg, Mr. Richard Wood, Heron Road, a Mr. Herbert Jones, Kennington Park, yn gydfuddugol. Deuawd, "Y Ddau Forwr," Mri. W. R. Watkins, Clapham Road, a Mr. Richard Wood, Heron Road. Darlun cyflymfad, Mr. Arthur Davies, Hartington Street. Pedwar- awd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Miss Gwladys Wood, Miss Myfanwy Wood, Mr. W. R. Watkins, a Mr. Richard Wood, yn gydfuddugol a Miss Sally Jenkins, Miss Daisy John, Mr. Harry Watkins a Mr. Hugh Watkins. Clytio print, Miss Bessie Hamer, Abbeyfield Road, a Miss Maggie Jones, Fenchurch Street, yn gydfuddugol. Unawd ar y crwth: 1, Miss Ethel Lewis; 2, Mr. Trevor Evans a Mr. D. Cardigan Pritchard yn gyfartal; 3. Mr. David Lewis Jones 4, Mr. Evie Jenkins. Unawd i rai dros 45 oed, Mr. Richard Wood. Hul Frodig Clustog Miss Annie Llywarch. Jamaica Road, a Miss Mary Williams, Ommancy Road, yn gyd- fuddugol. Triawd, "Fair Flora Decks," Miss Myfanwy Wood, Mr. W. R. Watkins, a Mr. Richard Wood yn fuddugol. Diolchwyd yn wresog i'r llywydd a'r beirniaid, ynghyd a phawb oeddent wedi gweithio a chyfranu i wneud y cyfarfod y fath lwyddiant. Dal yn uchel a dyrchafu safon y celfan a'r gwyddorau yw un o amcanionyr Eisteddfod, ac hefyd ddeffro gweithgarwch ac ymdrech i ragori ym mhob cangen o wybodaeth. Diau fod eisteddfodau bychain Ileol drwy holl barthau Cymru a'r lleoedd y sefydla Cymry ynddynt yn gwneud gwasanaeth uchel i rinwedd, moes, a dysgeidiaeth. BARRETT'S GROVE.—Ynglyn a chyfarfod ymadawol y Parch. Edward Owen, B.A., ysgrifenna ein gohebydd Meirionfab Drwg iawn genyf i mi trwy anffawd adael allan enw y Parch. Herbert Morgan, B.A.,B.D., Castle Street, o blith y siaradwyr yn yr adroddiad o'r cyfarfod uchod yr wyth- nos ddiweddaf. ENGLYN i'r Parch. E. Owen, B A., ar ei ymadawiad o Barrett's Grove, Llundain, i Bontnewydd Arfon- Boed heddwch, a bywyd diddan-a nawdd Y nef iddo'n mhobman, Pwrs ac aur, pres ac arian, Diguro glod, a gwraig lan. Llewelyn. RAMBLERS KING'S Cnoss.-Dydd Iau di- weddaf bu aelodau yr uchod ar ymweliad a Greenwich, o dan arweiniad y Mri. Tudor Jones a B. D. Jones. Ymwelwyd ag amryw fannau o ddyddordeb, a dyddorol iawn ydoedd gweled amryw o bethau henafol ynglyn a brwydr fawr Trafalgar. Buom yn ffodus iawn i gael cwmni Mr. Collette Jones, Greenwich, un o fasnachwyr mwyaf llwydd- iannus ym mysg ein cenedl, yr hwn a eglur- odd i ni lawer o bethau hanesyddol y cylch. STRATFORD.- Cynhaliwyd cyfarfod cym- deithasol yn y lie uchod nos Iau. Hwn oedd y cyfarfod olaf o'r tymor. Cymerwyd rhan ynddo mewn canu, adrodd ac areithio, gan y rhai canlynol: Miss Jones, Seven Kings Miss Jones, Ilford Miss Margaret Daniel, Ilford; Miss Jennie Morgan, Poplar; Miss Mary Francis, Barking Road Miss Blodwen Jones, Bolton Road; Miss Lorretta Jones, Ty Capel; Miss Jennie Lewis, Matthew's Park Avenue, a Mr. John Francis, Barking Road. Hefyd, cafwyd adroddiad calonog am waith y tymor gan Mr. Denby Jones, ein hysgrifennydd. Rhoddwyd y danteithion y tro yma, gan y chwiorydd caredig, Miss Jones, Ilford, a Miss Roberts, Sherard Road. RAMBLERS CASTLE STREET.—Dydd Sadwrn diweddaf caed ramble cyntaf y tymor dan nawdd y Gymdeithas hon. Aethpwyd gyda'r tren o St. Pancras i Elstree, ac yna wedi rhodiana o gylch y lie am yspaid eisteddwyd i lawr i fwynhau te rhagorol oedd wedi ei baratoi. Treuliwyd y gweddill o'r hwyr mewn chwareuon difyr, a theimlai pawb wrth ddychwelyd eu bod wedi cael dechreuad tra llwyddianus. Arweinwyr am y tro oeddent Mri. W. J. Bowen a J. Ladd, ac mae argoelion y ceir cynulliadau lliosog yn y," rambles sydd wedi eu trefnu dros dymor yr haf dyfodol. DEWI SANT, PADDINGTON.—Praivf Dic'Shon Dafydd.—Perfformiwyd y ddrama hon gan wyr ieuainc Dewi Sant, ynneuadd yr eglwys, nos Iau, Ebrill lleg. Gobeithio y ceir per- fformiadau o ddarnau cyffelyb eto, cyn bo hir. Prif gychwynydd y mudiad ydoedd Mr. Jack Morris, St. Olaf's Road, yr hwn a weithiodd yn egniol i wneud y cyfarfod yn llwyddiant. Yn rhagflaenol i'r ddrama caf- wyd gwledd o'r fath oreu i'r corph, rhodd- edig gan wahanol aelodau—boneddigesau a boneddigion-y gynulleidfa. Mae clod yn ddyledus i'r Misses Morris, St. Olaf's Road, am y dyddordeb a gymerasant yn y symud- iad er ei gychwyniad, ac i Miss Williams, Lindfield Gardens, fel arolyges yr holl wleddoedd ydym wedi gael yn ystod tymor cyfarfodydd y gauaf eleni. Gwnaed y rhag- len i fynu o ddwy ran. Rhan 1. Prawf Dic Shon Dafydd. Cynrychiolwyd y gwa- hanol gymeriadau yn y ddrama gan y per- sonau canlynol:—Barnwr, Mr. D. Jenkins Llygadraff, Mr. H. D. Williams Tafodrydd, Mr. Tom Jenkins Tystion, Mri. Evan Hughes, Dan Jones, H. J. Pierce, a Jack Morris; Carcharor, Mr. John Watkin Tad y Carcharor, Mr. 1. Williams; Mam y Carcharor, Mr. D. H. Williams; Clerc y Llys, Parch. W. Richards; Rhingyll Williams, Mr. R. H. Morris Heddgeidwaid, Mri. H. E. Pierce a C. E. James Blaenor y Rheithwyr, Mr. Morris Parry. I ddiweddu y rhan yma cafwyd can gan Mr. Jack Morris, o'i waith ei hun, ac yn seiliedig ar y ddrama —ton, Gwnewch pobpeth yn Gymraeg. Rhan II. Caneuon a chwareuon diniwed, o dan arweiniad medrus Mr. Tom Jenkins. Unawd, Miss Nancy Parry deuawd, Mrs. D. Roberts a Mr. Tom Jenkins; comic, Mr. Bert Havill. Terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," ar ol treulio oriau dedwydd o wir fwynhad. -=-