Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES…

News
Cite
Share

DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES BRYS? Nid oes dim yn fwy andwyol i gynnydd "cenedl na cheisio byw ar y gorffenol. Ni .fill y felin efo'r dwfr a aethheibio. Stag- nation means degeneracy. Deddf bywyd yw ■cyfnewid. Rhaid i genedl adnewyddu ei hun o genhedlaeth i genhedlaeth, onide dirywiad a marwolaeth fydd ei thynged. Un •o'r arwyddion iachusaf ar gyflwr Cymru heddyw yw ei bod yn colli ei dyddordeb ym iHihwiic Dadgysylltiad yr Eglwys. Yn hyn o eth y mae y Werin yn ddoethach a chraff- ach na'i harweinwyr: greddf hunan-ddio- gelwch sydd yn peri hynny. Byw i'w dymor a'i amcan ei liun, megis pryfetyn un- ¡dydd, wna'r demagog gwleidyddol. Mae y genedl am fyw byth. Bu adeg pan oedd Dadgysylltiad yn bwnc pwysig i Gymru. Yr oedd angen am dano. Pan ddechreuodd Gwilym Hiraethog, J.R., Henry Richard, ac -ereill, guro ar gaerau yr Eglwys Sefydledig, nid gormod dweyd ei bod yn orthrwm cref- yddol, gwleidyddol, a chymdeithasol yng Nghymru a pharod iawn oedd ein cenedl i godi mewn gwrthryfel yn ei herbyn. Yr -oedd yr ysgolion i gyd yn ei meddiant a gwthiai ei chatecism, fel triagl a brwmstan, i lawr corn gyddw pob plentyn. Tair brad- -ormes Ynys Brydain y dyddiauhynny oedd y Bendefigaeth, yr Eglwys, a'r Fainc Ynadol ac yr oedd eu dwrn a'u sang yn drymach ar Gymru nag un rhan arall o'r deyrnas. Tri I 1 .1 I I -cnytnraui cynortnwyoi iddynt oedd y titlwart, y Person, a'r Ceisbwl. Ac ni ddylem .anghofio gwraig y Person: yr oedd hithau yn allu mawr ym mhob llan a thre. Hi oedd yn dosbarthu ffafrau a chosbau ar ei gwen a'i chwilwg hi y dibynai dedwyddwch cym- deithasol pobteulu. Yr oedd cynnydd Ym- neillduaeth yn ddraen i falchder y Person. Prif nod ei elyniaeth oedd y Pregethwr a'r Pregethwr yntau, nid duach na mwy halog- ,edi- yn ei olwg oedd Belial ei hun na'r Offeiriad. Am hynny, nid rhyfedd mai arweinwyr y mudiad hwn oedd gweinidog- ion yr enwadau Ymneillduol. Onid oedd traha yr Eglwys wedi suddo yn ddwfn i'w heneidiau ? Onid oedd pobl eu gofal megis plant y ygaethglyd dan iau yr estron ? Yr oedd goruchafiaeth gymdeithasol a gwladwr- iaethol yr Eglwys yn sen i Ymneillduaeth. Elai y pregethwyr mor bell ag y meiddient i ddynwared y Person, yn ei ddiwyg a'i ddull; ond poen iddynt oedd teimlo mai dynwared- wyr oeddynt. Drwy oddefiad y galwent eu hunain yn Reverends." Nid oedd myned- iad iddynt i'r Llys na'r Brifysgol. A thra'r oedd y Person a'r Sgweier mewn cyngrair a'u gilydd, nid oedd rhyddid gwladol namyn lledrith i hudo'r anwyliadwrus i siglenydd -erledigaeth a dialedd. Pwy bynnag a feiddiai bleidleisio yn groes i orchymyn y triwyr traws, gwae iddo ef os nad oedd yn gwbl anibynol ar amgylchiadau y byd. Dyna paham y cychwynwyd croesgad yn -erbyn yr Eglwys Wladol. O'r gogledd i'r de, o lannau y mor i gilfachau y mynydd, eyfododd gwaedd gyffredinol am ryddhad .,crefydd oddiwrth hualau y Wladwriaeth. A'r ucha f ei lais yn y rhyfelgyrch hwn oedd y Pregethwr. Iddo ef alpha ac omega y wyddor boliticaidd oedd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. I raddau yr oedd :yn iawn, i raddau mwy yr oedd yn methu. Yr oedd terfyngylch ei arsyllfa yn rhy gyfyng. Gwasanaethodd Dadgysylltiad yn rhagorol am fwy na deugain mlynedd fel cri etlloliadol-gwnaeth fwy na dim arall i uao'r genedl ym mhlaid rhyddid ac iawnder. Oad camgymeriad y pregethwr gwleidyddol oedd tybio y boddlonai gwerin Cymru byth ar Ddadgysylltiad. Safodd ef yn ei unman a'r amserau yn symud ymlaen. Y mae cewri Dadgysylltiad yn y pridd. Y mae amgylchiadau wedi newid. Y mae cyfleus-

TRACHWANT MEIRION.

[No title]

_.._--Am Gymry Llundain.

DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES…