Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES…

TRACHWANT MEIRION.

[No title]

_.._--Am Gymry Llundain.

DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES…

News
Cite
Share

derau a dyheadau Cymru wedi ymeangu. Nid yw dadgysylltu yr Eglwys o gymaint pwys ag y bu. Darfu ar orthrwm yr Eglwys yng Nghymru. Yr ydym, erbyn hyn, wedi dod i fwynhau perffaith ryddid crefyddol a gwleidyddol. Nid oes neb yn ofni y Person na'r Sgweier. Mae Ymneillduwyr yn mynd yn lliosocach nag Eglwyswr ar y fainc ynadol. Mewn gair, nid yw yr Eglwys yn ddychryn i Werin Cymru. Ym mhlith y prif achosion sydd wedi creu y chwyldroad enfawr hwn gellid nodi y canlyn:— (a) Y Tugel ac Estyniad yr Etholfraint. (b) Deddf Addysg Elfenol 1870. (c) Deddf Claddu 1880. (d) Y tri choleg cenedlaethol a'r Brif- ysgol i Gymru. (e) Addysg Ganolradd. ( £ ) Deddfau Llywodraeth Leol, 1888 ac 1894. Fe roddodd y Tugel berffaith ddiogelwch i'r etholwr a bu diwedd ar orthrwm Toriaidd ac Eglwysig yng Nghymru. Gellir hebrwng Ymneillduwr i dy ei hir gartref heb wadu ei grefydd ar geulan Tragwyddoldeb. Drwy gymorth yr ysgolion a'r prifysgolion mae y Werin Gymreig wedi dod yn Werin ddys- gedig. Mae y Cyngor Sir, y Cyngor Dos- barth, a'r Cyngor Plwy, wedi trosglwyddo y gallu i drin materion lleol o ddwylo y County Squires i etholedigion y bobl; a'r mwyafrif mawr ohonynt yn Ymneillduwyr.- (Elphin yn Ii Y Geninen" am Ebrill.)