Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
THE WELSH BAPTIST CHAPEL, Little Alie Street, Aldgate, E. (4 minutes from Aldgate Stations of the Metropolitan and District Railways). -r- 'j 'j-f" THE ANNUAL EVENING CONCERT Will be held vT&dag, 2nd JrJo.:g, 190,. -+ ARTISTES: Miss MAGGIE DAVIES, Miss GWLADYS ROBERTS, Mr. GWILYM RICHARDS, Mr. DAVID EVANS. ELOCUTIONIST- PROF. CHARLES SEYMOUR. ACCOMPANIST— MR. MERLIN MORGAN. CHAIRMAN- JOHN HINDS, ESQ. Tea and Coffee, 5.30 until 7.30. Concert at 8. Admission 1/- Reserved Seats, 2/- Numbered and Reserved 5/- St. Benet's Welsh Church, QUEEN VICTORIA STREET, E.C. ,J-J "j, ANNIVERSARY SERVICES SUNDAY, APRIL 21st, 1907. 11 and 6.30— Preacher-REV. J. M. GRIFFITHS (Vicar of Llansamlet). 4.0 p.m. (English)- Preacher-REV. D. ALEC LLOYD, B.A. Monday, at 8 p.m.— Preacher—REV. J. M. GRIFFITHS. D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET. Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. J. C. REES & Co., Builders and Decorators, Office and Shop Fitters, Contractors for General Repairs. MUSGRAVE CRESCENT, WALHAM GREEN, S.W.
Anghofio'r Addewidion.
Anghofio'r Addewidion. Er Dad yw'r Senedd-dymor ond megys ar ddechreu y mae llawer iawn o ddyfalu beth sydd wedi dod o'r aelodau Seneddol Cym- reig yn ystod y ddau fis sydd newydd fyned heibio. Unwaith neu ddwy y maent wedi cynnal cyfarfod, un cyfarfod i gyhoeddi eu bod yn blaid—yn blaid o 34 o aelodau anibynol-ac un arall i ddangos y gallant iwynhau cinio cystal a neb o'r Saeson moethus. Mae dau neu dri o honynt wedi treulio eu hamser i feirniadu Mr. Lloyd- George yn y Ty ac allan o'r Ty, ac mai amryw ereill wedi rhoddi eu presenoldeb ar adeg y prif ymraniadau, ond ar wahan i hynny nid ydynt wedi gwneud dim eto i gyfiawnhau eu presenoldeb ar ran Cymru yn y Ty. Buont oil yn hael iawn gyda'u haddewidion ar adeg yr etholiad dros flwyddyn yn ol, ond mae'r cyfan erbyn heddyw wedi eu llwyr anghofio, ac mae'r Senedd-dy wedi ei droi yn fath o glwb respectable iddynt. Mae argoelion fod pwnc Datgysylltiad a phwnc y Tir, a mesurau ynglyn a'r Fasnach Feddwol i gael eu gohirio hyd ryw dymhorau dyfodol, a hynny yn unig am nad oes cydweithrediad ac undeb yn bodoli cydrhwng yr aelodau. Os gadewir i'r anfoddlonrwydd presennol fyned ar gynnydd yn y wlad y mae'n eglur fod dyddiau y "blaid unedig" wedi eu rhifo, a'n cyngor iddynt yw ar i bob aelod wneud ei oreu i fwynhau ei dymor yn awr, oher- wydd os na cheir gwelliantau yn dra buan bydd Cymru yn sicr o roddi terfyn ar eu haddurniadau pan ddaw'r etholiad nesaf i gynhyrfu'r tir. Rhwystro'r Ddirprwyaeth. Mae'r helyntion parhaus ynglyn a'r Ddir- prwyaeth Eglwysig yn troi'n niweidiol i achos Datgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Yr Ymneillduwyr eu hunain sy'n gyfrifol am hyn, ac oni threfnir rhyw gynllun mwy gweddaidd, a phenodi personau llai mym- pwyol i gwblhau'r ymholiad presennol, bydd raid i'r Llywodraeth ohirio'r mesur addaw- edig hyd ryw adeg amhenodol yn y dyfodol pell. O'r cychwyn mae rhyw ddirgelwch wedi bod ynglyn a'r Comisiwn-fel ei gelwir-ac er fod y cyhoedd wedi darogan am lawer o anhawsterau, mae'r Dirprwywyr eu hunain, dro ar ol tro, wedi cyhoeddi eu hundeb a'u hawydd i foddloni pawb ac eto wele'r wythnos hon yn cael ei chyffroi gan swn ymneillduad tri o'r gwyr cadarnaf a feddem ar y Ddirprwyaeth. Trwy ryw anealldwriaeth anesboniadwy i ni mae pob un o'r Dirprwywyr wedi ceisio egluro amcan y "Comisiwn" yn ei ffordd ei hun. Mae maes y tystion a natur yr ym- holiad, a phob pwnc a berthyn i'r Ddir- prwyaeth wedi eu cam-esbonio, neu eu hegluro mewn gwahanol ddulliau gan bron yr oil o'r Dirprwywyr. Ac yn ben ar y cyfan mae'r pwyllgor canolog, a ffurfiwyd gan yr Ymneillduwyr, wedi esbonio pob pwynt yn wahanol i bawb ereill. Cynfiyrch naturiol yr anealldwriaeth hyn yw'r sefyllfa anfoddhaus bresennol. Yn ol y datganiad a wnaed gan y Cadeirydd ychydig amser yn ol nid mater i'r Ddirprwyaeth oedd ymholi a oedd angen am Ddatgysyliad. Mae hynny wedi ei benderfynu gan Gymru. Yr oil allasent hwy wneud oedd ceisio'r ffordd hawddaf a mwyaf teg i ddwyn hyn oddiam- gylch. Bu raid cael ymholiad o'r fath ynglyn a'r Eglwys yn yr Iwerddon, ac ofer fyddai disgwyl i neb ddyfeisio cynllun a foddlonai Gymru heb gael ymchwiliad 11 awn i'r Eglwys a'i gwaddoliadau yng Nghymru.
Y BYD CREFYDDOL.
Y BYD CREFYDDOL. [GAN Y DIWINYDD.] At fy ngohebwyr. Diolch yn fawr i lawer o honoch am eich geiriau caredig, a diolch i ereill am eich beirniadaeth. Y mae cystal croesaw i'r naill a'r llall yma. Y mae amryw o honoch wedi gyrru cwestiynau dyddorol iawn i mi, yr oil o honynt mewn perthynas a'r ddiwinyddiaeth newydd. Am i minnau, fel llawer ereill, gymeryd ychydig hamdden yn ddiweddar, ni chafodd y cwestiynau mo'u hateb, ond can't sylw parod yn yr erthyglau sydd i ymddangos yn yr wythnosau dyfodol yma ar lyfr newydd y Parch. R. J. Campbell. Wrth gwrs, dyna bwnc y dydd yn y byd crefyddol heddyw, onide ? Bu llawer o siarad, llawer o ddadleu, a llawer o feirniada ar y "New Theology" yn ystod yr wyth- nosau diweddaf, ond ychydig, os neb, o'r rhai siaradent lawer, wyddent yn eglur yr hyn gredai Mr. Campbell. Gwyddem, serch hynny, fod yna ddatganiad cyflawn i ddod yn fuan, ac o'r diwedd wele hwnnw wedi ymddangos. Ein gorchwyl am ychydig amser fydd talu sylw i'r gyfrol newydd honr am ein bod yn credu ei bod yn gyfrol ag sydd yn myn'd i wneyd hanes yn y byd crefyddol. Croesaw. Croesaw cymysg iawn mae y gyfrol wedi dderbyn. Gwel y Parch. Robertson Nickoll, golygydd y British JiVeekly-y gwr fu ers rhyw bum mlynedd yn ol ar ei oreu yn gogoneddu Mr. Campbell-wallau rhesy- megol a diwinyddol yn dryfrith ar bob tudalen, a'i farn ef ydyw mai gwrthrych. cydymdeimlad ydyw'r awdwr, ei fod wedi dangos cymaint anwybodaeth diwinyddol, ac yntau yn un o golofnau crefydd ym Mhryd- ain Fawr. Os rhywbeth, y mae y Prif Athraw Fair- bairn yn fwy pendant fyth. Brawddegau fel farrago of nonsense a a preacher's book which no preacher need waste his time to read ddefnyddia ef i ddesgrifio y gyfrol newydd, ac yn rhan gyntaf ei erthygl geilw Mr. Campbell mewn geiriau diamwys yn fradwr i'w enwad ac i'w grefydd gyda'r ddiwin- yddiaeth newydd yma. Nid oes yn adol- ygiad y Prifathraw Fairbairn ei hun unrhyw feirniadaeth resymegol ar y gyfrol, ond yn unig lechres o enwau celyd. Cofied ef a'i gyfeillion mai nid digon rhyw adolygiad fel yma i ddistewi y Ilais newydd sydd yn y tir. Synu wna yntau fel Dr. Nickoll at dylodi diwinyddol y gyfrol. Ar yr ochr arall y mae diwinydd mor enwog a Dr. R. F. Horton yn frwdfrydig ganmol y gyfrol, ac yn pwysleisio ar ei chyfoeth o ddiwinyddiaeth dda," ac y mae y diwinydd craff Principal W. F. Adeney yn gryf o'r farn ei bod yn gyfrol gwerth i bob meddyliwr ei darllen yn ofalus, a thrwm fyfyrio u wch ei phen a gwel y Parch. John Clifford lawer i'w edmygu ynddi hefyd. Creu rhyfel mae'r gyfrol newydd wadi wneud ymysg y proffwydi fel y gwelir. Y mae Cymru hefyd wedi dweyd ei barn arni, a chywilydd gwyneb gennym weled y farn honno. Y mae awdurdodau llyfrgelt tref fechan ddibwys yn Ngogledd Cymru. wedi dod i'r penderfyniad fod y gyfrol yn rhy aflan i gael lie ar silffoedd eu llyfrgell enwog hwy! Gobeithio nad yw ei chrefydd wedi gwneud Cymru fechan, hen gartref y rebels crefyddol-Daniel Rowlands, Howell Harris, magwrfa Robert Owen—mor geid- wadol a hyn. Os ydyw, gwynfyd pe deuai ysbryd y Ddiwinyddiaeth newydd i reoli'r wlad. Y mae troion fel hwn yn ogystal ac ym- ddygiad tref arall yn y gogledd tuag at y foneddiges Undodaidd (Miss F. Power Cobbe) a'i chynyg caredig flynyddau'n ol, yn codi gwrid i wyneb llawer o'i phlilnt.