Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
BUDD=GYNGHERDD I'r Parch.
BUDD=GYNGHERDD I'r Parch. M. H. EVANS, GOGINAN. Profodd Cymry Llundain eu bod yn ,deyrngar iawn i un o'u cydgenedl anffodus ddechreu yr wythnos hon. Er ceisio rhoddi ychydig o gynorthwy i'r pregethwr ieuanc .addawol o Goginan daeth llond neuadd -enfawr yr Holborn i dreulio noson mewn "Swq can ac araith nos Lun diweddaf, a rhaid bod yr achos yn un eithriadol, ac fod Mr. Evans yn fawr ei barch, onide ni chawsid y fath dorf ynghyd mor gynnar ar ol y gwyliau. Yr oedd pob sedd o'r neuadd wedi ei llanw yn fuan ar ol agor y drysau, ac ni welwyd torf mwy gweddaidd a pharchus ers .amser yn ein plith. Cyngherdd a chyfarfod cystadleuol oedd .atdyniad y rhaglen, a rhaid rhoddi clod arbennig i Mr. Tom Jenkins, yr ysgrifen- nydd, am ei lafur diflino a'r detholiad rhag- orol, wnaeth efe a'i gydweithwyr ynglyn a'r rhaglen. Profasant fod pob darn wrth fodd J gynulleidfa, ac mae'r nifer cystadleuwyr -ddaeth i'r maes yn dangos hefyd fod yr adran honno yr un mor dderbyniol. Llywyddid y cynulliad gan Mr. John Jones, Dawlish Street, un o wyr blaenllaw oapel Falmouth Road. Arweinid gan y Parch. S. E. Prytherch. Gwasanaethodd Mr. Tom Price, Merthyr, fel beirniad y gerddoriaeth, a'r Mri. Goronwy Owen ac -ereill yr adrodd, a'r Parch. T. Lefi y darnau ysgrifenedig, a daeth Mr. D. Richards, A.R.C.O. i ofalu am y cyfeiliant yn ei ddull medrus arferol. Y cantorion oeddent Miss Maggie Davies a Mr. Trevor Evans, a phan enwir y ddau hyn gellir yn hawdd ddeall safon yr adran hon. Canasant yn rhagorol eu dau, ac ni chlywyd eu gwell ers amser hir yn ein mysg. I adrodd caed Mrs. Tudor Rhys un o'r adroddesau goreu sydd gennym—a ,gwnaeth hithau ei rhan yn ardderchog. Caed cystadlu lied galed ar y gwahanol ddarnau oedd wedi eu hysbysu, ac ar ol Uawer o chwynu ac ail ganu gwobrwywyd y lrhai a ganlyn :— Unawd i rai dan 17, gwobr cwpan arian, Miss Lalla Thomas, Hackney. Unawd contralto, Miss Jones, Clapton. Adrodd, Yr Hen Weinidog," Miss Myfanwy Hughes, Shirland Road. Unawd soprano, Miss Annie Thomas, Morley Hall. Enwi y rhestr oreu o Gymryesau enwog, Miss Edith Jones, Charing Cross. Unawd bass, Mr. J. T. Purcell, un o iyfyrwyr Madame Clara Novello Davies. Unawd Tenor, Mr. D. B. Jones, Falmouth Road. Adroddiad, Pleserfad y Niagara, Mr. Humphreys, Charing Cross. C> Enwi y 50 dyn mwyaf enwog, Mr. D. Jones, Ackermann Road. Pedwarawd, The sea hath its pearls," "Clapton Glee Singers. Yr oedd yr awr wedi myned yn hwyr cyn dirwyn y gweithrediadau i derfyn, ond profiad pawb ydoedd ei fod yn un o'r cyng- herddau goreu gaed ers talm, ac yn deilwng o'r neges ei cynhaliwyd. Y mae'n dda gennym ddeall fod elw syl- weddol wedi deilliaw o'i anturiaeth, ond bydd y trefnwyr eto yn fal3h i dderbyn xmrhyw danysgrifiad i'r mudiad, yr hyn a gydnabyddir yn rheolaidd drwy golofnau y papur hwn. Cyfeirir pob gohebiaeth i Mr. Tom Jenkins, 507, Battersea Park Road, S.W.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. LLAWN GWAITH ETO.—Gyda bod y gwyliau drosodd wele'r Cymry yn myned ati i gynnal cyfarfodydd gyda mwy o bybyrwch nag arfer. CYFARFODYDD.—Yr wythnos hon buont yn cynnal budd-gyngherdd i un gweinidog ieuanc, rhoddi ffarwel i weinidog arall, ac yn Eisteddfoda a darlithio, heb son am baratoi gogyfer a chyfarfodydd pregethu arbennig. EIN SENEDDWYR.Mae y rhai hyn, hefyd, wedi dychwelyd at eu gorchwylion, ac er fod amryw yn absennol ar ddydd ail agor y Senedd, yr oedd y nifer wedi lliosogi erbyn diwedd yr wythnos. CADEIRWYR Y CODAU ARIAN.—" Gwneud convenience o gadeirydd yw pechod mawr ein heglwysi yn Llundain," medd y Parch. S. E. Prytherch, "ond fe'i cyflawnwn ef eto," ychwanegai yn hapus. MR. TREVOR EVANS.-Nid yn ami y clywir y tenor poblogaidd hwn yn Llundain, ond pan ddel caiff groesaw cynnes. Canai yn rhagorol yn yr Holborn Town Hall nos Lun diweddaf, ac nid oedd ball ar ail-alwadau iddo. MEDDYLIAU PLENTYN."—Can fach syml yw hon, y geiriau gan Elfed, a'r gerddor- iaeth gan Merlin Morgan, ond pan glywir Miss Maggie Davies yn ei chanu y mae yn myned yn gan fawr. Ni chlywyd dim byd mwy effeithiol ar lwyfan erioed a'i chaneuon yn yr Holborn nos Lun. DEWI SANT, PADDINGTON. Cynhaliodd Cymdeithas lenyddol y lie ei chyfarfod di- weddaf yn neuadd yr eglwys, nos Fawrth, 26ain cyfisol. Yn rhagflaenorol i'r cyng- herdd cafwyd gwledd flasus i'r corph, rhoddedig gan fechgyn ieuainc yr Eglwys, Cadeiriwyd am y noson gan. E. 0. Jones. Ysw. Gwnaed y cyngherdd i fynu o ddwy ran. Rhan I. Datganiad o'r cantawd, Milwr y Groes" (Hemery), dan arweiniad medrus Mr. T. Vincent Davies. Rhan II. Amrywiaethol. Cymerwyd rhan ynddo gan y personau canlynol—Miss Nancy Parry, Maggie Pierce, Mrs. Gordon Lewis, Mrs. Richards, Mri. H. Pierce, Griffith Ellis James, a Tom Jenkins. Adroddiad, Miss Alice Watkins. Cyfeilyddes, Miss Nancy Pierce. Cynygiwyd pleidlais gynnes o ddiolchgarwch i'r cadeirydd gan Mr. Tom Jenkins, yn cael ei eilio gan Mr. R. H. Morris, ac i'r bechgyn ieuainc gan Mr. James Williams (Gwyddfryn), yn cael ei eilio gan Mr. Hugh Jones (Ysgrifennydd yr Eglwys). Mae clod mawr yn ddyledus i Mr. David Jenkins, Shelden Street, am y modd ardderchog y mae wedi gweithio gyda holl gyfarfodydd y gauaf. Ethol Wardeiniaid. —Codwyd ar ol y gwasanaeth nos Sul, Mr. James Williams (Gwyddfryn), a Mr. David Jenkins, i wasanaethu fel dau warden yn Eglwys Dewi Sant am y flwyddyn bresennol. EISTEDDFOD LLUN Y P Asc.Cynhelir hon yn flynyddol yn neuadd Eglwys Dewi Sant, ond dyma'r fwyaf lewyrchus ers blynydd- oedd. Buwyd yn ffodus i sicrhau cadeirydd hapus a haelionus ym mherson Mr. W. T. Hopkins, Shoreditch, ac un o wardeiniaid Eglwys Gymreig St. Benet's. Digon i'w dweyd i Mr. Hopkins lanw y gadair yn anrhydeddus, mewn gair a gweithred. Profodd ei hun yn wir gymwynaswr i'n Heglwys. Rhoddwyr caredig y te yn y cyfarfod hwn ydoedd boneddigesau ieuainc yr Eglwys, ac yr oedd yn wir deilwng o honynt. Gwobrwywyd y rhai canlynol:— Unawd ar y berdoneg, Miss Lizzie Hughes, Southampton Street. Adroddiad i rai dan 12 oed, Meddyliau Plentyn," 1, Llew. O. Richards, Paddington; 2, Lizzie Davies, Camberwell; Williams, Walham Green. Unawd i rai dan 15 oed, Mi glywaf dyner lais," Lizzie Davies, Camberwell; Winifred Price Davies, Paddington; Blodwen Kean, King's Cross. Tri phenill ar Enedigaeth Crist," Mr. James Williams (Gwyddfryn). Pedwarawd, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Parti Mr. Jack Morris, Padding- ton, ac eiddo Mr. T. Humphreys, Walham Green, yn gyfartal. Traethawd, lawn Gadwraeth y Sabbath," 1, Llew CarolT, Paddington 2, Mr. John Williams, Kempe Road, Paddington. Solo, "Lead kindly light," Miss Maggie Pierce, Paddington. Chant i barti o 8, Parti Mr. Jack Morris, Paddington. Llythyr caru, Gomer. Unawd, "Yr Ornest," Mr. David Thomas, Castle Street. Adroddiad, Bedd y dyn tylawd," Miss Maggie Edwards, Mile End Road. Ton, Ar lan Iorddonen ddofn," Parti dan arweiniad Mr. Dan Jones, Paddington. Mae diolchgarwch mawr yn rhwymedig i'r ysgrifennydd (Mr. R. H. Morris), a'r trysor- ydd (Mr. David Jenkins), am eu hymdrech- ion egniol a diflino i wneud yr Eisteddfod yn llwyddianus. Arweiniwyd y cyfarfod gan y caplan, y Parch. W. Richards, a gwas- anaethwyd fel beirniaid gan Mr. Madoc Davies (cerddoriaeth); traethodau (Parch- edigion G. Hartwell Jones, J. Crowle Ellis). Barddoniaeth (Parch. J. Davies, Isfryn). Adroddiadau (Parchedigion H. Watkins ac liar Edwards). Cyfeilydd, Mr. T. Vincent Davies. Trysorydd, Mr. D. Jenkins; ysgrifennydd, Mr. R. H. Morris. BORO'.—Nos Fercher, Ebrill 3ddd, rhodd- odd y Parch. J. Machreth Rees anerchiad i Gymdeithas Lenyddol y Boro' ar Ferched y Rhamant." Testun dyddorol a newydd, a'r drafodaeth arno yn gelfydd grymus a chlasurol. Dios gennym mai y ddarlith hon yw gwaith galluocaf y prif-fardd, Machreth -y mae yn orchestol.
[No title]
r" Bu Archesgob Caergaint ar bererindod i Dyddewi yr wythnos ddiweddaf. Ni ddy- "wedir a oes arno chwant i orseddu yr Esgob "Owen yn Archesgob tros Gymru a'i peidio.
CLYTIO'R EISTEDDIAD.
CLYTIO'R EISTEDDIAD. Y BARNWR VAUGHAN W'ILLIAMS: Ys gwn i a wneiff o ddal i eistedd arno yn awr ? [Sibrydir yn rhai cylchoedd fod eisteddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig ar dorri i fynu, er cymaint mae'r Arglwydd Ganghellydd a Mr. Lloyd-George wedi wneud i heddychu'r pleidiau.]