Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
CYFARFOD BLYNYDDOL YSGOL SABBOTHOL ST. MARY'S INSTITUTE. TRADDODIR DARLITH GAN Y PARCH. H. ELVET LEWIS (King's Cross) AR "WILLIAMS O'R 1WERN," Yng ftghapel Shipland Road, Paddington, NOS IAU, EBRILL yr lleg, 1907. 'J' Datgenir yn ystod y Cyfarfod gan Miss Mary Davies a Miss Sarah James. -r-r- Te ar y byrddau, 5.30. Y Cyfarfod Cyhoeddus am 8. -f'J' Cadeirydd JAMES RICHARDS, YSW. Tocynau Swllt yr un, i'w cael gan aelodau yr Ysgol. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. 1 (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) President-The Right Hon. LORD RENDFL. Principal-To F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, X10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee zCl. Men Students reside in Registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
-------------_-Rhifo'r Bobl.
Rhifo'r Bobl. Dyma'r adeg pan y mae mwyafrif yr Eglwysi Ymneillduol Cymreig yn edrych tros gyfrifon y flwyddyn, ac yn cyhoeddi en hadroddiadau i'r byd. Yr ydym ninnau yn Llundain yn dilyn yr un esiampl, a'r wythnos hon wele gyfrifon swyddogol y Methodistiaid wedi dod i law. Mae yn y rhai hyn ol llafur dirfawr, a dangosant fod yr enwad yn y ddinas hon yn dra lliosog a llwyddiannus. Ar yr un pryd rhaid addef ein siom pan yn gweled fod nifer yr aelod- aeth heb gynnyddu dim yn ystod yr amser. Pan gofiom am yr ysbryd diwygiadol sydd wedi bod tros ein gwlad am y ddwy flynedd ddiweddaf, yr oedd disgwyliad y buasai gwell ffrwyth i'w ganfod ar y gwaith yn Llundain. Ynglyn a'r aelodaeth, gwyddom fod gan yr eglwysi lawer iawn o anhaws- terau. Yn un peth, maent mor wasgarog, fel mai anhawdd ydyw dod i gysylltiad rheol- aidd a'u gilydd peth arall, mae'r caledi masnachol a'r "mynd" Llundeinig mor eithafol, nes torri'r amser yn brin iawn at bethau crefyddol. Mae odfaon boreu Sul yn deneu, a hawdd yw nodi'r diffyg, ond pan ystyriom fod mwyafrif ein cenedl yn gweithio tan hanner nos y Sadwrn blaenorol mae'n afresymol iddynt ddisgwyl roddi eu presen- noldeb mewn tair odfa ar y Sul wedyn. A chraffu ar yr holl anfanteision y maeadroddiad blynyddol y Cyfundeb yn Llundain yn dra chalonogol ac yn dangos fod aberth mawr yn cael ei ddangos yma er cadwraeth y grefydd y magwyd ni ynddi yn yr hen wlad. Campbellyddiaeth, Neu beth bynnag y gelwir y Ddiwinydd- ZD iaeth Newydd—neu gredo a daliadau ygwra leinw bulpad y City Temple rhaid addef ei bod wedi creu cryn lawer o gyffro yn y dyddiau diweddaf hyn. Dywedir mai cread y papur newydd yw'r enw Diwinyddiaeth Newydd," ond mae'n amlwg fod y papur newydd yn ei le y tro hwn eto. Mae llyfr y Parch. R. J. Campbell wedi dod o'r wasg, ac wedi cael cylchrediad helaeth iawn, yr hyn brawf fod y wlad yn dyheu am glywed beth sydd ganddo i draethu er cadarnhau'r syniadau chwyldroadol a goleddid ganddo, yn ol y papur newydd. Mae adolygiadau diwinyddion craff ar y llyfr yn dechreu. ym- ddangos yn y gwahanol gylchgronau, a ZD syndod fel y gwahaniaethir gan y rhai hyn eto Myn rhai nad oes dim byd newydd yn y llyfr, tra y dywed ereill eu bod wedi cael perffaith ddiogelwch tufewn ei dudalenau, a sonia y Prifathro Fairbairn mai shibboleth noeth yw'r cyfan. Pan fo gwyr mawr a dysgedig yn gwahaniaethu 'does ryfedd fod 0 y y werin yn cymeryd dyddordeb yn yr hyn draethir gan Mr. Campbell. Ond y mae un peth nas gwna'r cyhoedd a'r werin gyffredin ni chondemniant y gwr mewn ysbryd mor gul a chwerw ag a wneir gan y wasg grefyddol a chan arweinwyr crefydd. Yn y gras o foneddigeiddrwydd a pharch y mae'r byd, yn hyn o fater, wedi dangos ei fod lawer ar y blaen i'r eglwys, ac mae hyn yn beth y gwnai'r eglwysi fyfyrio arno yn ddifrifol ac mewn cywilydd.
Hunangofiant Gwenogfryn.
Hunangofiant Gwenogfryn. Yn ystod yr etholiadau lleol diweddar yng Ngtiymra ymladdwyd rhai gornestau chwerw iawn. Fel rheol capel ag eglwys oedd y pleidiau bron bob amser, ond yn ardal Llanbedrog bu rhai yn cyhuddo Dr. Gwenogfryn Evans ei fod yn anffyddwr, a hynny, mae'n debyg, am mai Undodwr yw Mr. Evans. Mae ateb Mr. Evans yn un tra nodweddiadol o hono- Ganed a magwyd fi yn Ymneillduwr; yr ydwyf o argyhoeddiad wedi treulio f'oes yn Ymneillduwr; ac yr wyf yn credu fod Ym- neillduaeth yn grefydd ddigonol i fyw a marw wrthi. Yr wyf wedi bod yn aelod eglwys er yn dair-ar-ddeg oed yr ydwyf yn aelod ar hyn o bryd, ac ni fum i erioed dan gerydd, fel ag y bu llawer ag sydd yn fy C, 175 marnu ac yn gwaeddi infidel" o'r tu cefn i mi. Infidel" yw pob Ymneillduwr ym marn yr Eglwys Wladol, ond beth yw'r Ymneillduwyr sydd yn gwneud gwaith yr Eglwyswyr ? Beth yw ystyr infidel, tybed ? Dyn anffyddlon yw infidel, anffyddlon i'w broffes-bradychwr i gapel ac egwyddorion crefydd. Mae pob Sion bob ochr" yn infidel-yn fath o labwst masw heb ascwrn cefn iddo. Nid fel yna y'm dysgwyd i yn y grefydd Gristionogol. Nid proffesu fel hyn a gwneud fel arall, ond yr hwn sydd yn fy ngharu i, cadwed fy ngorchymynion." Os yw ymgais bod yn ddisgybl i'r Iesu mewn C;i ZD cred, gair a gweithred yn gwneud dyn yn "infidel," charwn i er dim fod yn ddim gwahanol. Mae'n resyn meddwl fod rhaid dweyd gair ar bwnc o'r fath, ar yr adeg bresennol, ymhlith rhai sydd ag enw'r Arglwydd ar eu gwefusau, ac yn bradychu egwyddorion ei genadwri. Cefais fy ngeni a'm magu ar aelwyd fferm-dy gorfn i mi ddysgu gwneud pob gorchwyl a wneir ar ddyn yn nyddiau'm ieuenctyd-ac yn ystod f'oes 'rwyf wedi treulio. rhan o bob blwyddyn hyd yn ddi- weddar ar yr hen aelwyd. Yr wyf o gan- lyniad yn deall lie mae'r esgid yn gw&sgu ar droed y ffarmwr.
CYMANFA GANU YR ANIBYNWYR.
CYMANFA GANU YR ANIBYNWYR. Ar y Groglith y cynhalia Undeb Anibyn- wyr Cymreig Llundain ei chymanfa gerdd- orol flynyddol, a dydd Gwener diweddaf daeth cynulliadau mawrion nes gorlanw capel y Tabernacl i gadw yr wyl eleni. Gwneir yr Undeb i fynu o saith o eglwysi, a daeth cantorion yn cynrychioli yr oil ynghyd yn y prydnawn a'r hwyr, ac arweinid y cynulleidfaoedd gan Mr. D. W. Lewis, Brynamman. Yn y prydnawn, tan lywyddiaeth Mr. Davies, o'r Boro', caed cymanfa'r plant, y rhai a ganasant yn hynod o swynol amryw o donan o'r Caniedydd," sef Da o hyd yw Duw," "Lleisiau plant," "Daw a'n Gwnaeth," Fendigedig Iesu," "Yr oen difai," ynghyd a'r anthem Canys felly y carodd DllW y Byd." Yn ychwanegol at hyn rhoddwyd alawon gan rai o'r plant yn ganmoladwy iawn. Yn yr hwyr, tan lywyddiaeth Mr. David Thomas, Finsbury Street—un o flaenoriaid eglwys y Tabernacl-caed y Gymanfa Fawr," fel ei gelwir. Llanwyd orielau eang y capel gan y cantorion, a chanasaiifc y MR. DAVID THOMAS C (Llywydd Cymanfa Gerddorol yr Annibynwyr). tonau "Hampton," "Burford," "Lenox," "Amman," Devetia," Gwalia," "Y Wern," Elvey," Rhoslan," "Yr Hyfryd Wlad," o'r Caniedydd Cynulleidfaol; y tonau "Maesyfed" a "Ebenezer," o Lyfr Tonau Dr. Parry, ynghyd a'r anthemau Dysg i mi dy lwybrau" a Duw a ddaeth o Teman." Yr oedd y tonau wedi eu dysgu yn dda, a cliaed canu mor rhagorol fel y dywedai Mr- Lewis nas gallai ddisgwyl ei well yn rhai o Gymanfaoedd goreu Cymru. Yn sier ni chaed gwell cymanfa erioed yn hanes yr Undeb yn Llundain, ac roedd y datganiad o'r anthem" Duw a ddaeth o Teman yn deilwng o unrhyw gor eisteddfod. Profodd Mr. Lewis ei hun yn arweinydd penigamp. Daeth ef a'r cantorion i ddeall eu gilydd ar unwaith, a thrwy ei ofal, a'i graffder hefyd. ilwyddodd i gael gwaith rhagorol o'r dorf oedd o'i flaen. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. David Richards, A.R.C.O., i'r hwn, a Mr. D. James, A.C., y Boro', y mae clod yii ddyledu-, am y llafur mawr ynglyn a pharatoad yr eglwysi erbyn yr wyl lwyddiannus eleni.